Prif nodwedd y gronfa hon yw'r dyddiad, mis neu'r flwyddyn penodol sydd yn sail i'ch cofnod. Mae'r tywydd wrth gwrs yn rhywbeth sydd yn digwydd "rwan", pryd bynnag yw neu oedd "rwan" i'r cofnodwr gwreiddiol; y bore yma efallai, diwrnod arbennig yn eich plentyndod, neu sylw mewn dyddiadur dwy ganrif yn ôl yn sir Feirionnydd.... efallai. Neu efallai bod cysylltiad y sylw a'r tywydd yn ymddangosiadol wan iawn: tylluan wen yn hela am dri o'r gloch y prynhawn ar ddyddiad arbennig o Chwefror; clywed y gog yn canu ddiwedd mis Mawrth; teilo cae at datws ddechrau’r gwanwyn. Tywydd....? efallai! Ffenoleg...? yn bendant.
Mae'r Tywyddiadur yn rhyngweithiol - hynny yw, mi allwch rhoi gwybodaeth i fewn iddo, neu chael gwybodaeth allan. Y cam cyntaf y byddwch yn cymryd wrth fentro ar y dudalen hon felly fydd dewis pa un rydych am ei wneud.... Chwilio ynteu Mewnbynnu (blychod chwilio ar y chwith mewn glas, blychod mewnbynnu ar y dde mewn coch).
(Ewch i’r gwaelod am ganllawiau cychwynnol).
CHWILIO: Chi biau’r dewis: mis neu gyfnod arbennig efallai, blwyddyn, gair (neu ddau air), neu ddiwrnod penodol (treiwch ddyddiad eich pen-blwydd). Cewch wneud cyfuniad o rhain.
MEWNBYNNU: Trwy fewnbynnu cewch ychwanegu at y gronfa a chreu adnodd mwy cynhwysfawr fyth i ymchwilwyr fel chi. Dim ond tri amod sydd ar eich cofnod: ei fod yn cynnwys rhyw fath o ddyddiad, lleoliad (bras neu fanwl), a bod y cofnod rhywfodd yn gysylltiedig â’r amgylchedd.
12/5/1825 | |||||||||||||||||
Fron Olau, Penmorfa | |||||||||||||||||
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon) | |||||||||||||||||
Iau y Derchafael [sic. Dyrchafael]. Diwrnod dwl gwlawog. Yn darfod planu [sic] Cloron yn yr hên Ardd – Gwyl wedi, DIWEDD LLAFURIO. Fi wedi bod yn Tremadoc
|
13/5/1825 | |||||||||||||||||
Fron Olau, Penmorfa | |||||||||||||||||
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon) | |||||||||||||||||
Gwener. Diwrnod dwl yn y boreu teg at y Prydnhawn. Yn dwad a dau lwyth o wair o’r Morfa, un i’r Beudy newydd y llall i’r Marchdy. Y Fuwch Blacan a Besi wedi dwad a lloia
|
14/5/1825 | |||||||||||||||||
Fron Olau, Penmorfa | |||||||||||||||||
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon) | |||||||||||||||||
Sadwrn. Diwrnod sych teg. Ffair yn Mhenmorfa Fi wedi bod yno yn cyflogi pedwar o Weision a morwyn. Y Cyfloga yn bur uchel. Eliazbeth Griffith Llangybi yn dwad a’r Gaseg fawr yma at ddwad a chiw ac iw fagu
|
15/5/1825 | |||||||||||||||||
Fron Olau, Penmorfa | |||||||||||||||||
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon) | |||||||||||||||||
SUL Diwrnod sych teg. Fi yn dal Ceinach [ysgyfarnog] ie^uangc [sic] wrth Feudy’r Morfa
|
16/5/1825 | |||||||||||||||||
Fron Olau, Penmorfa | |||||||||||||||||
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon) | |||||||||||||||||
llun Diwrnod sych teg. Y Meibion yn carrio’r Dâs Cloron i miawn [sic. mewn]. John Wynne Tremadoc yma’n edrych y Fuwch Modlen. Fi yn mynd i Gynhebrwng Sioned gwraig Owen Parry Saer Tremadoc, ac yn gwerthu y Fuwch i John Wynne Neli a Robin yn ymadael. Sionun Sion Japheth Llangybi yn dwad i nol Eboles E.Griffith
|
17/5/1825 | |||||||||||||||||
Fron Olau, Penmorfa | |||||||||||||||||
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon) | |||||||||||||||||
Mawrth Diwrnod sych dwl mwll. Y Fuwch Goeswen [sic. “Goeswen” wedi ei groesi allan] Brithan wedi dwad a llo y boreu heddyw, Wil Sion a Harri wedi bod yn danfon y Fuwch Modlen i Dremadoc. Yn darfod rhoi’r dâs Cloron i fewn. Yn mynd wedi i’r Morfa i hel Cerrig
|
18/5/1825 | |||||||||||||||||
Fron Olau, Penmorfa | |||||||||||||||||
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon) | |||||||||||||||||
Mercher Diwrnod sych teg. Y Meibion yn hel cerrig. Caseg fawr Llangybi wedi dwad a chiw neithiwr [sic]
|
19/5/1825 | |||||||||||||||||
Fron Olau, Penmorfa | |||||||||||||||||
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon) | |||||||||||||||||
Iau Diwrnod sych teg. Y Meibion yn Reiniog yn lladd mawn. Y Gwenun yn heidio [sic]
|
20/5/1825 | |||||||||||||||||
Fron Olau, Penmorfa | |||||||||||||||||
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon) | |||||||||||||||||
Gwener Diwrnod sychlyd oer. Yn yspaddu naw o Ddyniewid. Y Gwas a’r Forwyn newydd yn dwad i’w lle. Ar ol hanner dydd, Wil Sion a Harri yn dechreu carrio mawn o Gaegronw isa, y ddau arall yn dechreu cau rhwng Caea gwair a’r Caea porfa. Fi wedi bod yn Tremadoc yn y Farchnad. Dic yn dwad yno i fy nol at un o’r Dyniewid [sic] oedd wedi dwad i waedu ar ol ei yspaddu Goeswen wedi dwad a llo Prydnhawn heddyw [sic]
|
21/5/1825 | |||||||||||||||||
Fron Olau, Penmorfa | |||||||||||||||||
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon) | |||||||||||||||||
Sadwrn Diwrnod sych gwresog. Wil Sion a Harri yn carrio [sic] mawn o Gae gronw isa, y Ddau arall yn dechreu lladd mawn yn Caegronw ucha
|
22/5/1825 | |||||||||||||||||
Fron Olau, Penmorfa | |||||||||||||||||
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon) | |||||||||||||||||
Y SULGWYN Diwrnod sych gwresog. Fi wedi bod yn llan
|
23/5/1825 | |||||||||||||||||
Fron Olau, Penmorfa | |||||||||||||||||
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon) | |||||||||||||||||
llun Diwrnod dwl mwll wedi bwrw cawod yn y boreu, Y Meibion y boreu yn palu rhwng Cloron ac yn codi at y bresych yn yr Ardd isa, ac yn gwasdadhau y lle bu y dâs Cloron yno hefyd. Ffair y Nghriccieth fi wedi bod yno
|
24/5/1825 | |||||||||||||||||
Fron Olau, Penmorfa | |||||||||||||||||
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon) | |||||||||||||||||
llun [sic. “llun” wedi ei groesi allan. Mawrth] Diwrnod dwl mwll iawn. Wil Sion a Harri yn carrio mawn o Gae gronw isa.y ddau arall yn lladd mawn yn Caegronw ucha
|
25/5/1825 | |||||||||||||||||
Fron Olau, Penmorfa | |||||||||||||||||
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon) | |||||||||||||||||
Mercher. Diwrnod cymylog mwll ac yn bwrw ambell gawod drom. Yn troi’r gwartheg i’r borfa. Ugain i Hafodbudredd, Deg i Gaea’r Tymawr a Phymtheg i Gae’r Hafodty [sic]. Wil Sion a Harri yn carrio mawn o Gaegronw isa, y ddau arall yn lladd mawn yn Caegronw ucha Fi wedi bod yn Mhenmorfa yn rhoi rhaff wrth y Gloch ac yn gosod y llan i Robt.Sion Hendrahowel i’w gwyngalchu
|
26/5/1825 | |||||||||||||||||
Fron Olau, Penmorfa | |||||||||||||||||
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon) | |||||||||||||||||
Iau. Diwrnod sych teg. Wil Sion a Harri yn Carrio mawn o Gaegronwisa [sic] y ddau arall yn lladd mawn yn Caegronw ucha. Fi wedi bod yn Mhwllheli yn y Correcsiwn. Ystalwyn Madryn yma
|
27/5/1825 | |||||||||||||||||
Fron Olau, Penmorfa | |||||||||||||||||
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon) | |||||||||||||||||
Gwener Diwrnod sych teg. Yn darfod carrio mawn o Gaegronwisa [sic] ac yn dechreu palu rhwng Cloron yn Ardd pen ucha i Hendratyfi. Y ddau arall yn lladd mawn yn Caegronw. Mr.Williams y Steward a Mr. Kyffyn yma yn ail brisio’r Tir yma. Fi yn mynd ar eu hola hwy i Benmorfa
|
28/5/1825 | |||||||||||||||||
Fron Olau, Penmorfa | |||||||||||||||||
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon) | |||||||||||||||||
Sadwrn Diwrnod sych teg. Yn darfod palu rhwng y Cloron yn Ardd pen ucha i Hendratyfi. Y lleill yn lladd mawn yn Caegronw, Fi yn mynd i Benmorfa at Mr.Williams y Steward ac yn mynd efo oddiyno i Ddolbenmaen
|
29/5/1825 | |||||||||||||||||
Fron Olau, Penmorfa | |||||||||||||||||
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon) | |||||||||||||||||
SUL. Diwrnod sych lled oer SUL Y DRINDOD [SIC]
|
30/5/1825 | |||||||||||||||||
Fron Olau, Penmorfa | |||||||||||||||||
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon) | |||||||||||||||||
llun Diwrnod sych teg. Wil Sion a Pegi wedi bod yn y Felin isa yn Silio gweddill Ceirch had. Y ddau arall yn darfod lladd mawn yn Caegronw Fi wedi bod yn Tremadoc y nghyfarfod [sic] Mr.Williams y Stewart. Yn gyru’r [sic. gyrru’r] helm Haidd i mewn. Harri yn cadw’r Buwchod [sic] yn y Morfa i bori rhwng y Trainsia
|
31/5/1825 | |||||||||||||||||
Fron Olau, Penmorfa | |||||||||||||||||
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon) | |||||||||||||||||
Mawrth. Diwrnod gwresog. Y Meibion cyn boreu fwyd yn tori chwyn yn Yd y Caebanadl yn tori chwyn [sic. “yn tori chwyn” wedi ei groesi allan] yn mynd wedi [sic] i’r Marian oddiar Pistill du[sic. Pistyll du] i ddechreu gyru [sic] cerrig i lawr at gau y Trainsia. Sion Morris yn dechreu durnu yr Helm Haidd
|
1/6/1825 | |||||||||||||||||
Fron Olau, Penmorfa | |||||||||||||||||
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon) | |||||||||||||||||
Mercher Diwrnod dryghinllyd ac yn bwrw gwlaw lled drwm ar hyd y dydd. Y Meibion yn tori brwyn yn y Morfa rhwng y Trainsia
|
2/6/1825 | |||||||||||||||||
Fron Olau, Penmorfa | |||||||||||||||||
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon) | |||||||||||||||||
Iau Diwrnod dryghinllyd ac yn bwrw gwlaw trwm ar hyd y dydd. Y Meibion wedi bod yn chwynu’r yd ac yn codi at Gloron yn yr Ardd pen ucha i Hendratyfi Morris Jones Siopwr Tremadoc yma yn y Prydnhawn
|
3/6/1825 | |||||||||||||||||
Fron Olau, Penmorfa | |||||||||||||||||
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon) | |||||||||||||||||
Gwener Diwrnod teg mwl ar [sic. mwll a?] bwrw peth yn y boreu. Y Meibion yn trwsio’r Tomenydd. Robt.Thomas Caecoch yn dwad a dau Fochyn yma. Fi yn mynd i Dremadoc i’r Farchnad
|
4/6/1825 | |||||||||||||||||
Fron Olau, Penmorfa | |||||||||||||||||
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon) | |||||||||||||||||
Sadwrn Diwrnod sych lled oer ar ol gwlaw trwm yn y boreu. Y Meibion yn hel cerrig i lawr dros y Pistill [sic] i’r Trainsia
|
5/6/1825 | |||||||||||||||||
Fron Olau, Penmorfa | |||||||||||||||||
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon) | |||||||||||||||||
SUL Diwrnod sych lled wyntog. Mr.Owen Aberglâslyn yn gyru [sic] Brithylliad [sic] yma
|
CANLLAWIAU CHWILIO:
Dyma enghreifftiau o’r codau (“Bwleaidd”) i’w defnyddio wrth chwilio’r Tywyddiadur:
Y chwiliad symlaf yw gair ar ei ben ei hun (ee wennol), neu dau air wedi eu gwahanu gan A, NEU neu DIM (ee. wennol NEU gwennol)
Ond i chwilio ar draws y meysydd:
Rhowch + o flaen pob maes/elfen o’ch chwiliad a : (colon) ar ei ôl..
Dynodir dyddiadau fel diwrnod, mis, blwyddyn (dd/mm/bb)
Ee. I godi pob cofnod sy’n cynnwys Faenol ym mis Ionawr 1877:
+lle:Faenol +mm/bb:1/1877
Dyma ychydig o engreifftiau eraill:
+nodiadau:llosgfynydd +bb:1815
+ffynhonnell:Edwards +nodiadau:moch
+nodiadau:wartheg +nodiadau:ffridd
Mwy yn fan hyn:
Apache Lucene - Query Parser Syntax
|