Llên Natur
Llên Natur

Y Tywyddiadur

Prif nodwedd y gronfa hon yw'r dyddiad, mis neu'r flwyddyn penodol sydd yn sail i'ch cofnod. Mae'r tywydd wrth gwrs yn rhywbeth sydd yn digwydd "rwan", pryd bynnag yw neu oedd "rwan" i'r cofnodwr gwreiddiol; y bore yma efallai, diwrnod arbennig yn eich plentyndod, neu sylw mewn dyddiadur dwy ganrif yn ôl yn sir Feirionnydd.... efallai. Neu efallai bod cysylltiad y sylw a'r tywydd yn ymddangosiadol wan iawn: tylluan wen yn hela am dri o'r gloch y prynhawn ar ddyddiad arbennig o Chwefror; clywed y gog yn canu ddiwedd mis Mawrth; teilo cae at datws ddechrau’r gwanwyn. Tywydd....? efallai! Ffenoleg...? yn bendant.

Mae'r Tywyddiadur yn rhyngweithiol - hynny yw, mi allwch rhoi gwybodaeth i fewn iddo, neu chael gwybodaeth allan. Y cam cyntaf y byddwch yn cymryd wrth fentro ar y dudalen hon felly fydd dewis pa un rydych am ei wneud.... Chwilio ynteu Mewnbynnu (blychod chwilio ar y chwith mewn glas, blychod mewnbynnu ar y dde mewn coch).

(Ewch i’r gwaelod am ganllawiau cychwynnol).

CHWILIO: Chi biau’r dewis: mis neu gyfnod arbennig efallai, blwyddyn, gair (neu ddau air), neu ddiwrnod penodol (treiwch ddyddiad eich pen-blwydd). Cewch wneud cyfuniad o rhain.

MEWNBYNNU: Trwy fewnbynnu cewch ychwanegu at y gronfa a chreu adnodd mwy cynhwysfawr fyth i ymchwilwyr fel chi. Dim ond tri amod sydd ar eich cofnod: ei fod yn cynnwys rhyw fath o ddyddiad, lleoliad (bras neu fanwl), a bod y cofnod rhywfodd yn gysylltiedig â’r amgylchedd.




Oriel

Tywyddiadur

owen-edwards

2,631 cofnodion a ganfuwyd.
6/6/1825
Fron Olau, Penmorfa
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon)

llun. Diwrnod dwl sych mwll, Yn dechreu carrio cerrig i gau’r Trainsia yn y Morfa’r boreu, ar ol hanner dydd yn mynd i drwsio’r ffordd at Feudy’r Morfa. Fi efo Sion Morris y boreu yn ^rhoi Cliccied [sic] ar llidiart y Morfa. Morwyn Wm. Owen y Dref yn danfon sachad [sic. sachaid] o Halen yma. Gwlaw trwm at yr hwyr –


Geiriau Allweddol:
Cyfrannwr: Brenda Jones
Cyf. Gwynt: 0
Nerth.Gwynt : 0
Glawiad : -999
Is Tym : -999
Uch Tym: -99
Safle grid:
7/6/1825
Fron Olau, Penmorfa
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon)

Mawrth Diwrnod dwl ac yn bwrw gwlaw weithia, Yn gosod Cadlas y Morfa i Sion Hugh iw gwasdadhau [sic. gwastatau], am ddeg swllt. Y Meibion yn trwsio’r ffordd at Feudy’r Morfa Sychu’n dda at y Prydnhawn


Geiriau Allweddol:
Cyfrannwr: Brenda Jones
Cyf. Gwynt: 0
Nerth.Gwynt : 0
Glawiad : -999
Is Tym : -999
Uch Tym: -99
Safle grid:
8/6/1825
Fron Olau, Penmorfa
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon)

Mercher Diwrnod dwl lled wyntog sych. Y Meibion yn carrio cerrig i’r Trainsia yn y Morfa. Ystalwyn Bronygadair yma. [sic. wedi tanlinellu 'Ystalwyn Bronygadair yma'] Y Ferlan yn ei gymeryd – Y Gwenun yn heidio, [sic. wedi tanlinellu], Sion Hugh yn dechreu gwasdadhau Cadlas y Morfa Gwlaw at y Prydnhawn


Geiriau Allweddol:
Cyfrannwr: Brenda Jones
Cyf. Gwynt: 0
Nerth.Gwynt : 0
Glawiad : -999
Is Tym : -999
Uch Tym: -99
Safle grid:
9/6/1825
Fron Olau, Penmorfa
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon)

Iau Diwrnod dwl sych, Y Meibion yn Carrio Cerrig i gau’r Trainsia yn yr hen Forfa


Geiriau Allweddol:
Cyfrannwr: Brenda Jones
Cyf. Gwynt: 0
Nerth.Gwynt : 0
Glawiad : -999
Is Tym : -999
Uch Tym: -99
Safle grid:
10/6/1825
Fron Olau, Penmorfa
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon)

Gwener Diwrnod dwl lled wyntog sych. Yn Cneifio torra [sic. wedi tanlinellu]. Yn mynd y Prydnhawn i garrio cerrig i gau’r Trainsia yn yr hên Forfa. Ystalwyn Madryn yma [sic. wedi tanlinellu] y Cesig yn naccau ei gymeryd. Fi wedi bod yn Tremadoc yn y Farchnad


Geiriau Allweddol:
Cyfrannwr: Brenda Jones
Cyf. Gwynt: 0
Nerth.Gwynt : 0
Glawiad : -999
Is Tym : -999
Uch Tym: -99
Safle grid:
11/6/1825
Fron Olau, Penmorfa
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon)

Sadwrn Diwrnod dwl yn y boreu.gwres at y Prydnhawn. Y Meibion yn carrio cerrig at y Trainsia yn yr hen Forfa. Y Gwenun a heidiodd ddydd Mercher yn ymadael o’u cwch am fod Llygoden yn mynd attynt [sic], yn eu ail gychio. Yn cymeryd y Degwm blith [Degwm yn cael ei dalu mewn anifeiliaid, tithe of cattle and farm-stock.] gan Edward y Reiniog am bedair punt [sic. wedi tanlinellu]


Geiriau Allweddol:
Cyfrannwr: Brenda Jones
Cyf. Gwynt: 0
Nerth.Gwynt : 0
Glawiad : -999
Is Tym : -999
Uch Tym: -99
Safle grid:
12/6/1825
Fron Olau, Penmorfa
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon)

SUL. Diwrnod clir gwresog. 


Geiriau Allweddol:
Cyfrannwr: Brenda Jones
Cyf. Gwynt: 0
Nerth.Gwynt : 0
Glawiad : -999
Is Tym : -999
Uch Tym: -99
Safle grid:
13/6/1825
Fron Olau, Penmorfa
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon)

llun Diwrnod clir gwresog. Yn cychwyn dri o’r gloch y boreu i hel y Defaid. Sion Morris a Dic wedi bod yn Mûr yr Wyn. Yn golchi’r Defaid Dic yn eu cadw yn y Garn. Wil Sion a Dafydd yn mynd i chwynu Yd i’r Morfa Harri wedi bod yn y Dref yn nol Pyg [Pyg defaid, eli i roi ar ddafad rhag parasitiaid] &c at Gneifio


Geiriau Allweddol:
Cyfrannwr: Brenda Jones
Cyf. Gwynt: 0
Nerth.Gwynt : 0
Glawiad : -999
Is Tym : -999
Uch Tym: -99
Safle grid:
14/6/1825
Fron Olau, Penmorfa
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon)

Mawrth. Diwrnod dwl mwll iawn Yn Cneifio [sic. wedi tanlinellu]. Triugain arddeg 270 [sic. neu 27 o] Defaid beinw a gwrwaid [sic], ac yn nodi pedwar ugain a deuddeg o wyn 


Geiriau Allweddol:
Cyfrannwr: Brenda Jones
Cyf. Gwynt: 0
Nerth.Gwynt : 0
Glawiad : -999
Is Tym : -999
Uch Tym: -99
Safle grid:
15/6/1825
Fron Olau, Penmorfa
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon)

Mawrth Diwrnod clir gwresog. Y Meibion cyn boreufwyd yn nithio Haidd yn mynd wedi [sic] i hel cerrig i lawr dros y Pistill [sic] du at y Trainsia yn yr hen Forfa Y Gwres Fesurydd cyn uched a 71 o Raddau. [sic. mewn llythrennau Bold] Yr heffer Wina wedi dwad a llo [sic. wedi tanlinellu]


Geiriau Allweddol:
Cyfrannwr: Brenda Jones
Cyf. Gwynt: 0
Nerth.Gwynt : 0
Glawiad : -999
Is Tym : -999
Uch Tym: -99
Safle grid:
16/6/1825
Fron Olau, Penmorfa
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon)

Iau Diwrnod clir gwresog. Sion Hugh efo’r Meibion yn hel cerrig dros y Pistill [sic] du at y Trainsia yn yr hen Forfa. Y Gwres Fesurydd cyn uched a 73 o Raddau


Geiriau Allweddol:
Cyfrannwr: Brenda Jones
Cyf. Gwynt: 0
Nerth.Gwynt : 0
Glawiad : -999
Is Tym : -999
Uch Tym: -99
Safle grid:
17/6/1825
Fron Olau, Penmorfa
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon)

Gwener Diwrnod dwl mwll. Dic wedi bod a’r Gaseg flower yn Efail Sion Evan yn mynd wedi [sic] at Harri a Pegi i Gaegronw i godi mawn. Wil Sion a Dafydd yn carrio Cerrig i’r Trainsia o’r Hên Forfa. Yn tynu Cloron gyntaf eleni [sic. wedi tanlinellu]


Geiriau Allweddol:
Cyfrannwr: Brenda Jones
Cyf. Gwynt: 0
Nerth.Gwynt : 0
Glawiad : -999
Is Tym : -999
Uch Tym: -99
Safle grid:
18/6/1825
Fron Olau, Penmorfa
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon)

Sadwrn Diwrnod dwl mwll. Dic a Harri a Pegi yn Caegronw yn Codi Mawn. Wil Sion a Dafydd yn carrio Cerrig i’r Trainsia yn yr Hen Forfa


Geiriau Allweddol:
Cyfrannwr: Brenda Jones
Cyf. Gwynt: 0
Nerth.Gwynt : 0
Glawiad : -999
Is Tym : -999
Uch Tym: -99
Safle grid:
19/6/1825
Fron Olau, Penmorfa
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon)

SUL Diwrnod dwl mwll. Fi wedi bod yn Aberglaslyn efo Mr.Owen


Geiriau Allweddol:
Cyfrannwr: Brenda Jones
Cyf. Gwynt: 0
Nerth.Gwynt : 0
Glawiad : -999
Is Tym : -999
Uch Tym: -99
Safle grid:
20/6/1825
Fron Olau, Penmorfa
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon)

llun Diwrnod dwl ac yn bwrw peth gwlaw yn y boreu Dic a Begi [sic] yn Caegronw yn codi mawn Wil Sion a Dafydd yn Carrio Cerrig ir Trainsia i’r Hen Forfa. Sion Prisiart Aberglaslyn yma’n gwneud wyth hanner rhaff rhawn. Yn Tapio’r Cwrw [sic. wedi tanlinellu]


Geiriau Allweddol:
Cyfrannwr: Brenda Jones
Cyf. Gwynt: 0
Nerth.Gwynt : 0
Glawiad : -999
Is Tym : -999
Uch Tym: -99
Safle grid:
21/6/1825
Fron Olau, Penmorfa
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon)

Mawrth. Diwrnod dwl sych lled oer. Wil Sion a Dafydd yn carrio Cerrig i’r Trainsia i’r hen Forfa. Dic a Harri a Pegi yn y Reiniog yn codi mawn. Ystalwyn [sic. stalwyn] Bronygadair wedi bod yma y Ferlan [sic] yn ei gymeryd. Fi wedi bod yn Tremadoc mewn Cyfarfod Cymdeithas y Beiblau. Yn prynu dwy raw a phladur newydd


Geiriau Allweddol:
Cyfrannwr: Brenda Jones
Cyf. Gwynt: 0
Nerth.Gwynt : 0
Glawiad : -999
Is Tym : -999
Uch Tym: -99
Safle grid:
22/6/1825
Fron Olau, Penmorfa
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon)

Mercher Diwrnod dwl sych. Yn palu rhwng y Cloron yn Buarth yr hen Erw. Sion Morris a Sionun William Sion efo hwy. Lewis Williams y Bryngola yma [Ar ochr y dudalen, darlun o aderyn gyda basgedaid neu nythaid o wyau?BJ hel wyau cornchwiglod?DB]


Geiriau Allweddol:
Cyfrannwr: Brenda Jones
Cyf. Gwynt: 0
Nerth.Gwynt : 0
Glawiad : -999
Is Tym : -999
Uch Tym: -99
Safle grid:
23/6/1825
Fron Olau, Penmorfa
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon)

Iau Diwrnod dwl sych. Wil Sion a Harri yn priddo cloron yn Buarth yr hen Erw. Yn Yspaddu naw ar hugain o Wyn a chwech o Hesbyrniaid . Yn nodi dau oen at nawdeg dau a nodais o’r blaen iw gwneud yn nawdegpedwar [sic. wedi tanlinellu] Ystalwyn Madryn yn dwad yma Flower yn ei gymeryd Denbi yn naccau


Geiriau Allweddol:
Cyfrannwr: Brenda Jones
Cyf. Gwynt: 0
Nerth.Gwynt : 0
Glawiad : -999
Is Tym : -999
Uch Tym: -99
Safle grid:
24/6/1825
Fron Olau, Penmorfa
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon)

Gwener. Diwrnod dwl ac yn taflu dafnau gwlaw weithia, Yn hel cerrig i lawn dros y Pistill [sic] du at y Trainsia yn yr hen Forfa. Gwragedd oddiwrth Langybi [sic. wedi tanlinellu] yma’n prynu triphwys ar ddeg o Wlan. Wil Sion yn ei ddanfon i Dremadoc Fi heb fod yn y Farchnad


Geiriau Allweddol:
Cyfrannwr: Brenda Jones
Cyf. Gwynt: 0
Nerth.Gwynt : 0
Glawiad : -999
Is Tym : -999
Uch Tym: -99
Safle grid:
25/6/1825
Fron Olau, Penmorfa
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon)

Sadwrn. Diwrnod gwyntog a gwlawog yn y boreu. Teg at hanner dydd Y Meibion yn y Sgubor yn puro Haidd. Fi yn gosod pladur. Yn hau erfin [maip] mewn Talar yn Buarth yr Hen Erw ac yn yr Ardd isa


Geiriau Allweddol:
Cyfrannwr: Brenda Jones
Cyf. Gwynt: 0
Nerth.Gwynt : 0
Glawiad : -999
Is Tym : -999
Uch Tym: -99
Safle grid:
26/6/1825
Fron Olau, Penmorfa
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon)

SUL. Diwrnod dwl wedi bwrw peth gwlaw yn y boreu


Geiriau Allweddol:
Cyfrannwr: Brenda Jones
Cyf. Gwynt: 0
Nerth.Gwynt : 0
Glawiad : -999
Is Tym : -999
Uch Tym: -99
Safle grid:
27/6/1825
Fron Olau, Penmorfa
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon)

llun Diwrnod dwl mwll ac yn bwrw ambell gawod drom iawn Y Meibion yn hel cerig [sic] i lawr dros y Pistill [sic] du at y Trainsia yn yr hen Forfa. Fi wedi bod yn Penmorfa yn y Festri. Elin wedi bod yn Penmorfa a Thremadoc. Gwlaw yn ei dal hyd rhwng dau a thri o’r gloch y boreu heb ddwad adref


Geiriau Allweddol:
Cyfrannwr: Brenda Jones
Cyf. Gwynt: 0
Nerth.Gwynt : 0
Glawiad : -999
Is Tym : -999
Uch Tym: -99
Safle grid:
28/6/1825
Fron Olau, Penmorfa
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon)

Mawrth Diwrnod dwl mwll. Dafydd wedi bod a’r Tri cheffyl gweithio yn Efail Sion Evan. Y Meibion y boreu yn cau y Trainsia yn yr hen Forfa hyd hanner dydd yn mynd wedi [sic] i garrio cerrig attynt [sic] Fi yn gosod Pladur


Geiriau Allweddol:
Cyfrannwr: Brenda Jones
Cyf. Gwynt: 0
Nerth.Gwynt : 0
Glawiad : -999
Is Tym : -999
Uch Tym: -99
Safle grid:
29/6/1825
Fron Olau, Penmorfa
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon)

Mercher Diwrnod dwl ac yn bwrw peth gwlaw weithia. Y Meibion yn carrio cerrig i’r Trainsia yn yr hen Forfa. Fi wedi bod yn Ffair Griccieth. Yn Cyflogi Pladurwr. Y Cyfloga o swllt i bum grôt [swllt a phedair ceiniog] y dydd


Geiriau Allweddol:
Cyfrannwr: Brenda Jones
Cyf. Gwynt: 0
Nerth.Gwynt : 0
Glawiad : -999
Is Tym : -999
Uch Tym: -99
Safle grid:
30/6/1825
Fron Olau, Penmorfa
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon)

Iau Diwrnod sych dwl, Yn parrottoi [sic. paratoi] at ddechrau ar y gwair hyd hanner dydd. Dic wedi bod ai bladur yn yr Efail yn ei thrwsio ar ol Ciniaw yn mynd i Gaegronwucha i ddechreu ar y gwair [sic. wedi tanlinellu] Sion Hugh yn dwad yma. Yn ^cael [sic] siecad a throwsis [sic. siaced a throwsus] newydd


Geiriau Allweddol:
Cyfrannwr: Brenda Jones
Cyf. Gwynt: 0
Nerth.Gwynt : 0
Glawiad : -999
Is Tym : -999
Uch Tym: -99
Safle grid:

CANLLAWIAU CHWILIO:

Dyma enghreifftiau o’r codau (“Bwleaidd”) i’w defnyddio wrth chwilio’r Tywyddiadur:

Y chwiliad symlaf yw gair ar ei ben ei hun (ee wennol), neu dau air wedi eu gwahanu gan A, NEU neu DIM (ee. wennol NEU gwennol)

Ond i chwilio ar draws y meysydd:

Rhowch + o flaen pob maes/elfen o’ch chwiliad a : (colon) ar ei ôl..

Dynodir dyddiadau fel diwrnod, mis, blwyddyn (dd/mm/bb)

Ee. I godi pob cofnod sy’n cynnwys Faenol ym mis Ionawr 1877:

+lle:Faenol +mm/bb:1/1877

Dyma ychydig o engreifftiau eraill:

+nodiadau:llosgfynydd +bb:1815

+ffynhonnell:Edwards +nodiadau:moch

+nodiadau:wartheg +nodiadau:ffridd

Mwy yn fan hyn:

Apache Lucene - Query Parser Syntax



Apache Lucene - Query Parser Syntax