Llên Natur
Llên Natur

Y Tywyddiadur

Prif nodwedd y gronfa hon yw'r dyddiad, mis neu'r flwyddyn penodol sydd yn sail i'ch cofnod. Mae'r tywydd wrth gwrs yn rhywbeth sydd yn digwydd "rwan", pryd bynnag yw neu oedd "rwan" i'r cofnodwr gwreiddiol; y bore yma efallai, diwrnod arbennig yn eich plentyndod, neu sylw mewn dyddiadur dwy ganrif yn ôl yn sir Feirionnydd.... efallai. Neu efallai bod cysylltiad y sylw a'r tywydd yn ymddangosiadol wan iawn: tylluan wen yn hela am dri o'r gloch y prynhawn ar ddyddiad arbennig o Chwefror; clywed y gog yn canu ddiwedd mis Mawrth; teilo cae at datws ddechrau’r gwanwyn. Tywydd....? efallai! Ffenoleg...? yn bendant.

Mae'r Tywyddiadur yn rhyngweithiol - hynny yw, mi allwch rhoi gwybodaeth i fewn iddo, neu chael gwybodaeth allan. Y cam cyntaf y byddwch yn cymryd wrth fentro ar y dudalen hon felly fydd dewis pa un rydych am ei wneud.... Chwilio ynteu Mewnbynnu (blychod chwilio ar y chwith mewn glas, blychod mewnbynnu ar y dde mewn coch).

(Ewch i’r gwaelod am ganllawiau cychwynnol).

CHWILIO: Chi biau’r dewis: mis neu gyfnod arbennig efallai, blwyddyn, gair (neu ddau air), neu ddiwrnod penodol (treiwch ddyddiad eich pen-blwydd). Cewch wneud cyfuniad o rhain.

MEWNBYNNU: Trwy fewnbynnu cewch ychwanegu at y gronfa a chreu adnodd mwy cynhwysfawr fyth i ymchwilwyr fel chi. Dim ond tri amod sydd ar eich cofnod: ei fod yn cynnwys rhyw fath o ddyddiad, lleoliad (bras neu fanwl), a bod y cofnod rhywfodd yn gysylltiedig â’r amgylchedd.




Oriel

Tywyddiadur

owen-edwards

2,631 cofnodion a ganfuwyd.
1/7/1825
Penmorfa, Gwynedd
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon.)

Gwener. Diwrnod cymylog ac yn taflu dafnau gwlaw weithia. Yn lladd Gwair yn Caegronw ucha. Evan James yn dwad yma i weithio. Sion Morris yn dwad yma'r boreu, Robt. Griffith yn dwad yma rhwng pedwar a phump o'r gloch y Prydnhawn. Fi heb fod yn y Farchnad. Owen ac Elizabeth Roberts Tynlon ac Margaret Griffith Caernarvon yn dwad yma efo'r hwyr Owen Roberts yn mynd adref


Geiriau Allweddol:
Cyfrannwr: Rwth T.
Cyf. Gwynt: 0
Nerth.Gwynt : 0
Glawiad : -999
Is Tym : -999
Uch Tym: -99
Safle grid:
2/7/1825
Penmorfa, Gwynedd
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon.)

Sadwrn. Diwrnod sych teg. Yn darfod lladd gwair Caegronw ac yn ei Fwdylu i gid, Yn dwad i'r Tymawr rhwng pump a chwech o'r gloch y Prydnhawn i ddechreu lladd gwair, Elizabeth Roberts Tynlon a Margaret Griffith yn mynd adref


Geiriau Allweddol:
Cyfrannwr: Rwth T.
Cyf. Gwynt: 0
Nerth.Gwynt : 0
Glawiad : -999
Is Tym : -999
Uch Tym: -99
Safle grid:
3/7/1825
Penmorfa, Gwynedd
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon.)

Sul Diwrnod gwresog Elin ac Ann wedi bod yn Caeddafydd


Geiriau Allweddol:
Cyfrannwr: Rwth T.
Cyf. Gwynt: 0
Nerth.Gwynt : 0
Glawiad : -999
Is Tym : -999
Uch Tym: -99
Safle grid:
4/7/1825
Penmorfa, Gwynedd
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon.)

llun. Diwrnod cymylog mwl [sic] iawn wedi bwrw peth neithiwr  Dafydd wedi bod yn danfon pwn o Haidd i Felin Tanyrallt. Yn lladd gwair y Tymawr i gid. Siani Cerrig y rhwydwr yn dwad i Gyweirio Gwair


Geiriau Allweddol:
Cyfrannwr: Rwth T.
Cyf. Gwynt: 0
Nerth.Gwynt : 0
Glawiad : -999
Is Tym : -999
Uch Tym: -99
Safle grid:
5/7/1825
Penmorfa, Gwynedd
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon.)

Mawrth. Diwrnod cymylog sych. Yn dechreu lladd gwair yn yr hen Forfa hyd amser boreufwyd, yn mynd wedi i garrio gwair Caegronw ucha, Yn mynd wedi i'r Morfa i ladd gwair. Tomas Brynrhydd yn dwad yma. E James yn dwad yma


Geiriau Allweddol:
Cyfrannwr: Rwth T.
Cyf. Gwynt: 0
Nerth.Gwynt : 0
Glawiad : -999
Is Tym : -999
Uch Tym: -99
Safle grid:
6/7/1825
Penmorfa, Gwynedd
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon.)

Mercher Diwrnod sych lled ddwl, Yn dechreu lladd gwair yn Morfa'r Garreg hyd amser boreufwyd. Wil Sion, Dic, Sion Morris, Dafydd a Harri yn mynd i hel y Defaid iw gwerthu. Harri Owen yn prynu dau ar bymtheg ar ugain, Dic a Harri yn eu danfon i'r Drêf y lleill wedi bod yn y Tymawr yn troi y Gwair, Yn mynd wedi i'r Morfa i ladd gwair, rhwng dau a thri yn eu galw i fynu at wair y Tymawr, ac yn ei Fwdylu i gid erbyn y nos


Geiriau Allweddol:
Cyfrannwr: Rwth T.
Cyf. Gwynt: 0
Nerth.Gwynt : 0
Glawiad : -999
Is Tym : -999
Uch Tym: -99
Safle grid:
7/7/1825
Penmorfa, Gwynedd
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon.)

Iau Diwrnod sych cymylog, Yn darfod lladd gwair yn Morfa'r Garreg ac yn dechreu lladd gwair yn y Morfa bach, o gwmpas dau o'r gloch yn mynd i'r Tymawr i ddechreu carrio gwair, Yn carrio gwair y Weirglawdd isa i gid a pheth o'r Weirglawdd ucha


Geiriau Allweddol:
Cyfrannwr: Rwth T.
Cyf. Gwynt: 0
Nerth.Gwynt : 0
Glawiad : -999
Is Tym : -999
Uch Tym: -99
Safle grid:
8/7/1825
Penmorfa, Gwynedd
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon.)

Iau Diwrnod dwl yn y boreu sychu peth yn y gwaelodion at y Prydnhawn  Y Meibion efo'r ffordd yn y Gelli fawr. Fi yn mynd i Benmorfa at Mr. Williams ac yn mynd efo fo i'r Morfa bychan. Elizabeth Griffith Llangybi yn dwad yma Sion --- yma


Geiriau Allweddol:
Cyfrannwr: Rwth T.
Cyf. Gwynt: 0
Nerth.Gwynt : 0
Glawiad : -999
Is Tym : -999
Uch Tym: -99
Safle grid:
9/7/1825
Prenteg, Penmorfa
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Prenteg

9 Sadwrn Diwrnod gwresog mwll. Yn carrio gwair yr hen Forfa, Morfa'r garreg a pheth o'r Morfa bach at Feudy'r Morfa. Y Dâs cyntaf erioed a wnawd wrth Feudy'r Morfa.

 [sic. mewn llythrennau brâs] Yn mynd wedi i garrio gwair y Weirglawdd ucha'r Tymawr



Geiriau Allweddol:
Cyfrannwr: BJ > DB
Cyf. Gwynt: 0
Nerth.Gwynt : 0
Glawiad : -999
Is Tym : -999
Uch Tym: -99
Safle grid:
10/7/1825
Prenteg, Penmorfa
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Prenteg

10 SUL [Sic. mewn llythrennau bras] Diwrnod gwresog mwll



Geiriau Allweddol:
Cyfrannwr: BJ > DB
Cyf. Gwynt: 0
Nerth.Gwynt : 0
Glawiad : -999
Is Tym : -999
Uch Tym: -99
Safle grid:
11/7/1825
Prenteg, Penmorfa
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Prenteg

11 llun Diwrnod gwresog mwll, Yn dechreu lladd gwair y Morfa glofer Fi wedi bod yn yr Efail yn gwneud peth ar glicied adwy'r Morfa



Geiriau Allweddol:
Cyfrannwr: BJ > DB
Cyf. Gwynt: 0
Nerth.Gwynt : 0
Glawiad : -999
Is Tym : -999
Uch Tym: -99
Safle grid:
12/7/1825
Prenteg, Penmorfa
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Prenteg

12 Mawrth  Diwrnod gwresog mwll yn darfod lladd gwair y Morfa glofer ac yn dechreu yn Hendratyfi, ar ol Ciniaw yn mynd i droi peth gwair i'r Morfa glofer, yn gorphen carrio gwair y Morfa bach, ac yn mwdylu [sic. mydylu] o gwmpas hanner y Morfa Glofer, Yn dylu ac yn dwad i fwrw gwlaw rhwng saith ac wyth o'r gloch y Prydnhawn. [Sic. wedi ei danlinellu]



Geiriau Allweddol:
Cyfrannwr: BJ > DB
Cyf. Gwynt: 0
Nerth.Gwynt : 0
Glawiad : -999
Is Tym : -999
Uch Tym: -99
Safle grid:
13/7/1825
Prenteg, Penmorfa
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Prenteg

13 Mercher Diwrnod dwl gwyntog ac yn bwrw gwlaw mân y rhan amlaf. Wil Sion yn codi at y Cloron yn Buarth yr hen Erw, y lleill cyn boreufwyd yn torri brwyn yn morfa'r garreg, yn mynd wedi i Gaegronwisa i wneud Mawn, gwlaw yn eu curo i lawr cyn ciniaw. Yn mynd wedi i drwsio'r ffordd wrth yr Ysgubor. Morris Jones Siopwr Tremadoc yma yn Prydnhawn



Geiriau Allweddol:
Cyfrannwr: BJ > DB
Cyf. Gwynt: 0
Nerth.Gwynt : 0
Glawiad : -999
Is Tym : -999
Uch Tym: -99
Safle grid:
14/7/1825
Prenteg, Penmorfa
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Prenteg

14 Iau Diwrnod dwl yn y boreu yn clirio ac yn sychu'n dda at hanner dydd Wil Sion, Sion Hugh a Harri yn cau'r Trainsia hyd amser ciniaw, Yn mynd wedi i rengc [rhenc, llu. rhenciau (y cam nesaf wrth dorri gwair ar ol gananeifio (rheng)] droi hynny o wair oedd ar lawr yn y Morfa glofer ac yn ei goccio y lleill yn Caegronw yn gwneud mawn


Geiriau Allweddol:
Cyfrannwr: BJ > DB
Cyf. Gwynt: 0
Nerth.Gwynt : 0
Glawiad : -999
Is Tym : -999
Uch Tym: -99
Safle grid:
15/7/1825
Penmorfa, Gwynedd
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon.)

Gwener Dydd Gwyl St. Swithin. Diwrnod sych yn y boreu ar ol wybr goch, yn dylu ac yn dwad i fwrw gwlaw mân mwll iawn at deg o'r gloch ac yn lled niwliog. Y Meibion cyn boreufwyd yn trwsio'r ffordd wrth yr Ysgubor, yn mynd wedi i fwdylu y rhan fwyaf o'r Coccia yn y Morfa glofer, pan ei daliodd gwlaw hwynt, yn mynd wedi i hel y brwyn yn dyrra yn morfa'r garreg hyd amser ciniaw. Yn mynd wedi, Wil Sion, Sion Hugh a Harri yn carrio Cerrig i gau'r Trainsia yn yr hen Forfa Sion Morris a Dafydd yn agor Trains y Pistyll bach. Robt. Griffith a Dic yn trwsio'r ffordd wrth yr Ysgubor, Evan James a Robt. Griffith y Cwmbychan yma wrth fynd i'r Drêf  hindda at y Prydnhawn. Fi heb fod yn y Farchnad


Geiriau Allweddol:
Cyfrannwr: Rwth T.
Cyf. Gwynt: 0
Nerth.Gwynt : 0
Glawiad : -999
Is Tym : -999
Uch Tym: -99
Safle grid:
16/7/1825
Penmorfa, Gwynedd
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon.)

Sadwrn Diwrnod dwl yn y boreu sychu'n dda at y Prydnhawn Y Meibion y boreu yn gyru Cerrig i lawr dros y Pistyll du at y Trainsia yn yr hen Forfa, yn mynd wedi i danu mwdyla o gwmpas hanner y Morfa glofer ac yn ei garrio i gid. Fi wedi bod yn Mhenmorfa efo chlark  Mr. Williams y Stiward


Geiriau Allweddol:
Cyfrannwr: Rwth T.
Cyf. Gwynt: 0
Nerth.Gwynt : 0
Glawiad : -999
Is Tym : -999
Uch Tym: -99
Safle grid:
17/7/1825
Penmorfa, Gwynedd
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon.)

Sul Diwrnod sych gwresog. Y Gwenun yn heidio. Mr Owen Aberglaslyn yma


Geiriau Allweddol:
Cyfrannwr: Rwth T.
Cyf. Gwynt: 0
Nerth.Gwynt : 0
Glawiad : -999
Is Tym : -999
Uch Tym: -99
Safle grid:
18/7/1825
Penmorfa, Gwynedd
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon.)

llun Diwrnod gwresog iawn. Yn darfod lladd gwair Hendratyfi ac yn dechreu yn Cae'r hendra, Wil Sion a Dafydd wedi bod efo'r Merched yn y Morfa Glofer yn tanu Mwdyla, Y Merched ar ol Ciniaw yn mynd yno i'w droi. Yn mynd i gid yno ar ol Prydnhawnbryd ac yn ei garrio i gid. Diwedd cael y gwair yn y Morfa. Y Gwres Fesurydd cyn uched a 76 o Raddau [24 C]


Geiriau Allweddol:
Cyfrannwr: Rwth T.
Cyf. Gwynt: 0
Nerth.Gwynt : 0
Glawiad : -999
Is Tym : -999
Uch Tym: -99
Safle grid:
19/7/1825
Penmorfa, Gwynedd
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon.)

Mawrth Diwrnod gwresog iawn ar ol Cawod drom yn y boreu, Y Gwres Fesurydd cyn uched a 78 o Raddau. Y Gwenun [sic] yn Heidio dwy Haidd, yn eu cychio Un Haid yn diengyd i ffordd, Yn darfod lladd gwair Cae'r Hendra ac yn dechreu yn Buarth Cae Derwen. Yn cael rhybudd i fynd i'r Sesiwn gan D.G


Geiriau Allweddol:
Cyfrannwr: Rwth T.
Cyf. Gwynt: 0
Nerth.Gwynt : 0
Glawiad : -999
Is Tym : -999
Uch Tym: -99
Safle grid:
20/7/1825
Penmorfa, Gwynedd
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon.)

Mercher Diwrnod gwresog iawn, Yn darfod lladd gwair Buarth Cae Derwen ac yn dechreu yn y Buarth gwyn ar ol Boreufwyd yn dechreu Carrio gwair hendretyfi Yn ei garrio i gyd a gwair Cae'r hendra. Y Gwres Fesurydd cyn uched a 79 o Raddau


Geiriau Allweddol:
Cyfrannwr: Rwth T.
Cyf. Gwynt: 0
Nerth.Gwynt : 0
Glawiad : -999
Is Tym : -999
Uch Tym: -99
Safle grid:
21/7/1825
Penmorfa, Gwynedd
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon.)

Iau Diwrnod dwl lled wyntog yn y boreu. gwres mawr at ganol dydd, Yn lladd gwair y Buarth gwyn, y Gelliwastad a'r Caemain. Dafydd wedi bod yn Caegronw yn nol yr anner frech a'r Talcen gwyn at y Tarw. Yn dechreu lladd gwair yn yr hen Erw. Harri wedi bod a phwn o Haidd yn Melin Tanyrallt


Geiriau Allweddol:
Cyfrannwr: Rwth T.
Cyf. Gwynt: 0
Nerth.Gwynt : 0
Glawiad : -999
Is Tym : -999
Uch Tym: -99
Safle grid:
22/7/1825
Penmorfa, Gwynedd
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon.)

Gwener Diwrnod gwresog. Yn darfod lladd gwair yr hen Erw, ac yn dechreu yn y Caelleppa isa. Yn mynd ar ol Ciniaw i dyrru gwair y Gelli wastad a'r Buarth gwyn ac yn ei garrio i gid, hefyd gwair Buarth Cae'r Derwen Wil gwas Morris Jones Tremadoc yma yn nol benthig Ceffyl i helpu i gael ei drol oedd wedi glynu yn y Traeth allan. Fi heb fod yn y Farchnad


Geiriau Allweddol:
Cyfrannwr: Rwth T.
Cyf. Gwynt: 0
Nerth.Gwynt : 0
Glawiad : -999
Is Tym : -999
Uch Tym: -99
Safle grid:
23/7/1825
Penmorfa, Gwynedd
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon.)

Sadwrn Diwrnod dwl yn y boreu, gwres at y Prydnhawn, Yn darfod lladd gwair y Caelleppa isa ac yn dechreu lladd peth yn y Caelleppa ucha  Yn tyru gwait y Caemain a'r hên Erw erbyn Ciniaw, ar ol Ciniaw yn eu carrio a gwair y Caelleppa isa. Gwraig Robt. Griffith y Pladurwr yma yn nol pump pwys o wlan. Daniel Williams Mab Wm. Williams o Hafod y rhisgl yma'r Prydnhawn yn ymdroi peth

[Ychwanegir y nodyn isod]

Bu y gwres mawr yn nechreu yr wythnos yn achos o salwch i lawer yn y Gymydogaeth yma, ac yn Farwolaeth i amriw yn yr ardaloedd Cymydogaethol. Y peth mwyaf rhyfedd a ddigwyddodd oedd Tri Dyn yn marw yr un Diwrnod (sef dydd Mawrth) yn agos i'r un amser o'r un henw sef Morris. Y rhai oeddynt Morris Cadwalader o Dafan Faig, Morris Humphrey o Dai Ellis Griffith Tremadog (yr hwn a syrthiodd yn Weirglawdd Bwlch y moch wrth lladd gwair a bu farw cyn pen ychydig o funudau)  a Morris Pyrs Penyrallt Llanfrothen  Clywyd am amriw eraill, ac nid oes amau na chywir etto am lawer ychwaneg.

[Nodyn ar ochr y tudalen] Anwiredd iw am Morris Pyrs.


Geiriau Allweddol:
Cyfrannwr: Rwth T.
Cyf. Gwynt: 0
Nerth.Gwynt : 0
Glawiad : -999
Is Tym : -999
Uch Tym: -99
Safle grid:
24/7/1825
Penmorfa, Gwynedd
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon.)

Sul Diwrnod gwresog


Geiriau Allweddol:
Cyfrannwr: Rwth T.
Cyf. Gwynt: 0
Nerth.Gwynt : 0
Glawiad : -999
Is Tym : -999
Uch Tym: -99
Safle grid:
25/7/1825
Penmorfa, Gwynedd
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon.)

llun Diwrnod gwresog. Yn darfod lladd gwair y Caelleppa ucha erbyn boreufwyd, yn mynd wedi i dechreu lladd gwair i Wernclowna ar Cae tycoch  Dyn oddiwrth Mr William Jones Caemawr yma'n danfon Llythur yn achos Owen Williams. Yn talu i Wm. Owen Tollydd Penmorfa dros garrio mawn am ddwy flynedd  unswllt ar bymtheg.


Geiriau Allweddol:
Cyfrannwr: Rwth T.
Cyf. Gwynt: 0
Nerth.Gwynt : 0
Glawiad : -999
Is Tym : -999
Uch Tym: -99
Safle grid:

CANLLAWIAU CHWILIO:

Dyma enghreifftiau o’r codau (“Bwleaidd”) i’w defnyddio wrth chwilio’r Tywyddiadur:

Y chwiliad symlaf yw gair ar ei ben ei hun (ee wennol), neu dau air wedi eu gwahanu gan A, NEU neu DIM (ee. wennol NEU gwennol)

Ond i chwilio ar draws y meysydd:

Rhowch + o flaen pob maes/elfen o’ch chwiliad a : (colon) ar ei ôl..

Dynodir dyddiadau fel diwrnod, mis, blwyddyn (dd/mm/bb)

Ee. I godi pob cofnod sy’n cynnwys Faenol ym mis Ionawr 1877:

+lle:Faenol +mm/bb:1/1877

Dyma ychydig o engreifftiau eraill:

+nodiadau:llosgfynydd +bb:1815

+ffynhonnell:Edwards +nodiadau:moch

+nodiadau:wartheg +nodiadau:ffridd

Mwy yn fan hyn:

Apache Lucene - Query Parser Syntax



Apache Lucene - Query Parser Syntax