Llên Natur
Llên Natur

Y Tywyddiadur

Prif nodwedd y gronfa hon yw'r dyddiad, mis neu'r flwyddyn penodol sydd yn sail i'ch cofnod. Mae'r tywydd wrth gwrs yn rhywbeth sydd yn digwydd "rwan", pryd bynnag yw neu oedd "rwan" i'r cofnodwr gwreiddiol; y bore yma efallai, diwrnod arbennig yn eich plentyndod, neu sylw mewn dyddiadur dwy ganrif yn ôl yn sir Feirionnydd.... efallai. Neu efallai bod cysylltiad y sylw a'r tywydd yn ymddangosiadol wan iawn: tylluan wen yn hela am dri o'r gloch y prynhawn ar ddyddiad arbennig o Chwefror; clywed y gog yn canu ddiwedd mis Mawrth; teilo cae at datws ddechrau’r gwanwyn. Tywydd....? efallai! Ffenoleg...? yn bendant.

Mae'r Tywyddiadur yn rhyngweithiol - hynny yw, mi allwch rhoi gwybodaeth i fewn iddo, neu chael gwybodaeth allan. Y cam cyntaf y byddwch yn cymryd wrth fentro ar y dudalen hon felly fydd dewis pa un rydych am ei wneud.... Chwilio ynteu Mewnbynnu (blychod chwilio ar y chwith mewn glas, blychod mewnbynnu ar y dde mewn coch).

(Ewch i’r gwaelod am ganllawiau cychwynnol).

CHWILIO: Chi biau’r dewis: mis neu gyfnod arbennig efallai, blwyddyn, gair (neu ddau air), neu ddiwrnod penodol (treiwch ddyddiad eich pen-blwydd). Cewch wneud cyfuniad o rhain.

MEWNBYNNU: Trwy fewnbynnu cewch ychwanegu at y gronfa a chreu adnodd mwy cynhwysfawr fyth i ymchwilwyr fel chi. Dim ond tri amod sydd ar eich cofnod: ei fod yn cynnwys rhyw fath o ddyddiad, lleoliad (bras neu fanwl), a bod y cofnod rhywfodd yn gysylltiedig â’r amgylchedd.




Oriel

Tywyddiadur

owen-edwards

2,631 cofnodion a ganfuwyd.
26/7/1825
Penmorfa, Gwynedd
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon.)

Mawrth Diwrnod gwresog Yn darfod lladd gwair y Wirglawdd ucha. ar Cyweiriwrs wedi bod yn tyru gwair y Caelleppa ucha


Geiriau Allweddol:
Cyfrannwr: Rwth T.
Cyf. Gwynt: 0
Nerth.Gwynt : 0
Glawiad : -999
Is Tym : -999
Uch Tym: -99
Safle grid:
27/7/1825
Penmorfa, Gwynedd
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon.)

Mercher Diwrnod gwresog Yn darfod Lladd y Gwair erbyn dau o'r gloch y Prydnhawn, Yn mynd wedi i dyru gwair Wernclowna Caetycoch a'r Weirglawdd ucha


Geiriau Allweddol:
Cyfrannwr: Rwth T.
Cyf. Gwynt: 0
Nerth.Gwynt : 0
Glawiad : -999
Is Tym : -999
Uch Tym: -99
Safle grid:
28/7/1825
Penmorfa, Gwynedd
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon.)

Iau Diwrnod gwresog, Yn carrio gwair Wern clowna, Cae tycoch, a'r Weirglawdd ucha, ar Caelleppa ucha Diwedd Cael Y Gwair Cynhauaf da hynod Sion Hugh a Sion Morris yn Ymadael


Geiriau Allweddol:
Cyfrannwr: Rwth T.
Cyf. Gwynt: 0
Nerth.Gwynt : 0
Glawiad : -999
Is Tym : -999
Uch Tym: -99
Safle grid:
29/7/1825
Penmorfa, Gwynedd
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon.)

Gwener Diwrnod gwresog Y Meibion cyn boreufwyd yn tori brwyn hyd yr hen Forfa, Fi gartref, yn mynd wedi i wneud penna Dasau'r Morfa, Dafydd a Harri yn hel brwyn yn yr hen Forfa. Elizabeth Griffith Llangybi yn dwad yma


Geiriau Allweddol:
Cyfrannwr: Rwth T.
Cyf. Gwynt: 0
Nerth.Gwynt : 0
Glawiad : -999
Is Tym : -999
Uch Tym: -99
Safle grid:
30/7/1825
Penmorfa, Gwynedd
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon.)

Sadwrn. Diwrnod gwresog, Yn gwneud pen Das y Beudy newydd ac yn carrio'r Mwdyla mawn o Gae'r Hendra a'r Caemain yno, Dafydd a Harri wedi bod yn Caegronw yn nol yr Anner at y Tarw, Yn ei gymeryd  Mesurwr Tir yma'n Mesur Caegronw


Geiriau Allweddol:
Cyfrannwr: Rwth T.
Cyf. Gwynt: 0
Nerth.Gwynt : 0
Glawiad : -999
Is Tym : -999
Uch Tym: -99
Safle grid:
31/7/1825
Penmorfa, Gwynedd
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon.)

Sul Diwrnod gwresog


Geiriau Allweddol:
Cyfrannwr: Rwth T.
Cyf. Gwynt: 0
Nerth.Gwynt : 0
Glawiad : -999
Is Tym : -999
Uch Tym: -99
Safle grid:
1/8/1825
Penmorfa, Gwynedd
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon.)

llun Diwrnod gwresog. Y Meibion hyd amser Ciniaw yn trwsio Dâs Gwair y Beudy ucha. Yn mynd wedi i orphen gwneud pen Dasau'r Morfa ac i garrio To attynt ac i ddechreu eu Toi, Yn cael Llythur o Blâsybrain


Geiriau Allweddol:
Cyfrannwr: Rwth T.
Cyf. Gwynt: 0
Nerth.Gwynt : 0
Glawiad : -999
Is Tym : -999
Uch Tym: -99
Safle grid:
2/8/1825
Penmorfa, Gwynedd
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon.)

Mawrth Diwrnod sych lled wyntog wedi bwrw gwlaw'n lled drwm yn y boreu, Wil Sion, Robt. Griffith a Dafydd yn Toi Dasau'r Morfa, ac yn dechreu torri peth Haidd yn Morfa'r Goedan. Dic a Harri yn carrio To at Ddâs y Beudy newydd ac yn mynd a dau bwnn o Do at Ddas Cae gronw


Geiriau Allweddol:
Cyfrannwr: Rwth T.
Cyf. Gwynt: 0
Nerth.Gwynt : 0
Glawiad : -999
Is Tym : -999
Uch Tym: -99
Safle grid:
3/8/1825
Penmorfa, Gwynedd
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon.)

Mercher Diwrnod dwl ac yn dwad i fwrw gwlaw at hanner dydd, Wil Sion a Robt. Griffith yn gwneud pen Dâs Caegronw ac yn ei Doi  Wil Sion yn dwad a'r Anner frech a'r Cefn gwyn at y Tarw ac yn mynd i roi To ar ben Dâs y Beudy ucha, Yn mynd wedi i wneud rhaffa


Geiriau Allweddol:
Cyfrannwr: Rwth T.
Cyf. Gwynt: 0
Nerth.Gwynt : 0
Glawiad : -999
Is Tym : -999
Uch Tym: -99
Safle grid:
4/8/1825
Penmorfa, Gwynedd
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon.)

Iau Diwrnod sych dwl mwll. Y Meibion yn Caegronw ucha'n gwneud Mawn, Gwlaw ar hyd y Prydnhawn, Y Meibion yn dwad i'r Beudy newydd i wneud rhaffa


Geiriau Allweddol:
Cyfrannwr: Rwth T.
Cyf. Gwynt: 0
Nerth.Gwynt : 0
Glawiad : -999
Is Tym : -999
Uch Tym: -99
Safle grid:
5/8/1825
Penmorfa, Gwynedd
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon.)

Gwener Diwrnod sych yn y boreu. Cawodydd yn y Prydnhawn. Yn darfod gwneud mawn yn Caegronw ucha. Dafydd wedi bod yn danfon Elin ac Ann i'r Tynlon. Fi heb fod yn y Farchnad


Geiriau Allweddol:
Cyfrannwr: Rwth T.
Cyf. Gwynt: 0
Nerth.Gwynt : 0
Glawiad : -999
Is Tym : -999
Uch Tym: -99
Safle grid:
6/8/1825
Penmorfa, Gwynedd
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon.)

Sadwrn Diwrnod cymylog sych. Yn gyru Cerrig i lawr dros y Pistill du hyd amser boreufwyd yn mynd wedi i wneud pen dâs y Beudy newydd, ac yn Cynull hynu o Haidd oedd wedi ei dorri yn Morfa'r Goeden


Geiriau Allweddol:
Cyfrannwr: Rwth T.
Cyf. Gwynt: 0
Nerth.Gwynt : 0
Glawiad : -999
Is Tym : -999
Uch Tym: -99
Safle grid:
7/8/1825
Penmorfa, Gwynedd
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon.)

Sul Diwrnod sych cymylog mwll


Geiriau Allweddol:
Cyfrannwr: Rwth T.
Cyf. Gwynt: 0
Nerth.Gwynt : 0
Glawiad : -999
Is Tym : -999
Uch Tym: -99
Safle grid:
8/8/1825
Penmorfa, Gwynedd
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon.)

llun Diwrnod sych cymylog mwll wedi bwrw gwlaw trwm y boreu Dic yn mynd i'r Cynhauaf Yd. Robt. Griffith yn aros yma yn ei le. Dafydd wedi bod a Flower yn yr Efail Sion Ifan. Wil Sion a Robt. Griffith, y boreu yn tori anialwch hyd Gae'r Coldy. Yn mynd wedi i Doi Dâs gwair y Beudy newydd


Geiriau Allweddol:
Cyfrannwr: Rwth T.
Cyf. Gwynt: 0
Nerth.Gwynt : 0
Glawiad : -999
Is Tym : -999
Uch Tym: -99
Safle grid:
9/8/1825
Penmorfa, Gwynedd
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon.)

Mawrth Diwrnod sych cymylog. Wil Sion a Dafydd cyn boreufwyd wedi bod yn cau clawdd y Mynudd a Robt. Griffith yn cau o gwmpas Hendratyfi ar ol boreufwyd yn mynd i wneud pen Dâs gwair y beudy ucha ac iw Doi  Elin ac Ann yn dwad adref o'r Tynlon


Geiriau Allweddol:
Cyfrannwr: Rwth T.
Cyf. Gwynt: 0
Nerth.Gwynt : 0
Glawiad : -999
Is Tym : -999
Uch Tym: -99
Safle grid:
10/8/1825
Penmorfa, Gwynedd
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon.)

Mercher. Diwrnod dwl ac yn bwrw Cawodydd. Wil Sion a Robt. Griffith cyn boreufwyd yn cau bwlch rhwng yr Allt a Chae'r lloia a Dafydd yn palu'r Dalar yn yr hên Ardd Gloron i hau i Erfin, finau yn eu hau yno  Fi wedi bod yn Tremadoc


Geiriau Allweddol:
Cyfrannwr: Rwth T.
Cyf. Gwynt: 0
Nerth.Gwynt : 0
Glawiad : -999
Is Tym : -999
Uch Tym: -99
Safle grid:
11/8/1825
Penmorfa, Gwynedd
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon.)

Iau Diwrnod dwl mwll ac yn bwrw ambell gawod. Y Meibion yn cau'r Trainsia yn yr hên Forfa efo chladd. Wil Sion wedi bod ac Aradr y Morfa yn yr Efail. Yn mynd ar ol Prydnhawnbryd i ladd Haidd i Forfa'r Goeden  Gwen Owen Tynyberllan yma


Geiriau Allweddol:
Cyfrannwr: Rwth T.
Cyf. Gwynt: 0
Nerth.Gwynt : 0
Glawiad : -999
Is Tym : -999
Uch Tym: -99
Safle grid:
12/8/1825
Penmorfa, Gwynedd
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon.)

Gwener Diwrnod sych. Fi yn mynd i Gaernarvon i'r Sessiwn. Y Meibion efo'r Trainsia yn yr hen Forfa


Geiriau Allweddol:
Cyfrannwr: Rwth T.
Cyf. Gwynt: 0
Nerth.Gwynt : 0
Glawiad : -999
Is Tym : -999
Uch Tym: -99
Safle grid:
13/8/1825
Penmorfa, Gwynedd
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon.)

Sadwrn Diwrnod lled sych ar ol dryghin trwm yn y boreu Y Meibion yn yr hên  Forfa efo'r Trainsia. Wil Sion yn dechreu Aredig yno Fi yn dwad adref o Gaernarfon o'r Sassiwn


Geiriau Allweddol:
Cyfrannwr: Rwth T.
Cyf. Gwynt: 0
Nerth.Gwynt : 0
Glawiad : -999
Is Tym : -999
Uch Tym: -99
Safle grid:
14/8/1825
Penmorfa, Gwynedd
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon.)

Sul Diwrnod dwl sych


Geiriau Allweddol:
Cyfrannwr: Rwth T.
Cyf. Gwynt: 0
Nerth.Gwynt : 0
Glawiad : -999
Is Tym : -999
Uch Tym: -99
Safle grid:
15/8/1825
Penmorfa, Gwynedd
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon.)

llun Diwrnod gwlawog yn y boreu sychu at y Prydnhawn Y Meibion y boreu yn gwneud rhaffa, Yn mynd wedi i Aredig ac at y Trainsia. G William yma'n hel Treth y Tylodion


Geiriau Allweddol:
Cyfrannwr: Rwth T.
Cyf. Gwynt: 0
Nerth.Gwynt : 0
Glawiad : -999
Is Tym : -999
Uch Tym: -99
Safle grid:
16/8/1825
Penmorfa, Gwynedd
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon.)

Mawrth. Diwrnod dwl sych. Robt. Griffith a Dafydd efo'r Trainsia yn yr hen Forfa. Wil Sion wedi bod y boreu a swch aradr y Morfa yn yr Efail ac yn Aredig hyd amser Ciniaw, yn mynd wedi i drin yr Haidd oedd ei dorri er dydd iau, ac yn torri peth yn Morfa'r Goedan


Geiriau Allweddol:
Cyfrannwr: Rwth T.
Cyf. Gwynt: 0
Nerth.Gwynt : 0
Glawiad : -999
Is Tym : -999
Uch Tym: -99
Safle grid:
17/8/1825
Penmorfa, Gwynedd
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon.)

Mercher. Diwrnod dwl ac yn bwrw gwlaw mân y rhan amla. Y Meibion efo'r Trainsia yn yr hen Forfa. Wil Sion yn aredig hyd amser Prydnhawnbryd Wil Sion yn mynd wedi i godi bwlch ynghlawdd y Mynudd Penycastell, a Robt. Griffith a Dafydd yn mynd at Robert Hendrahowel i gau twll Clawdd terfyn rhwng y ddwy allt


Geiriau Allweddol:
Cyfrannwr: Rwth T.
Cyf. Gwynt: 0
Nerth.Gwynt : 0
Glawiad : -999
Is Tym : -999
Uch Tym: -99
Safle grid:
18/8/1825
Penmorfa, Gwynedd
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon.)

Iau Diwrnod cymylog lled wyntog ac yn bwrw ambell gawod. Y Meibion hyd amser boreufwyd yn gwneud rhaffa, Yn mynd wedi i hel yr Wyn i'w diddyfnu yn gyru Pedwarugain ac wyth i Allt y Tymawr, Yn mynd ar ol Ciniaw i Gynull peth Haidd i Forfa'r Goedan, ac i ddechreu lladd Haidd i Forfa'r Garreg. Sychu'n dda iawn yn y Prydnhawn


Geiriau Allweddol:
Cyfrannwr: Rwth T.
Cyf. Gwynt: 0
Nerth.Gwynt : 0
Glawiad : -999
Is Tym : -999
Uch Tym: -99
Safle grid:
19/8/1825
Penmorfa, Gwynedd
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon.)

Gwener Diwrnod niwliog mwll ac yn bwr gwlaw mân dwys  Y Meibion wedi bod y boreu yn dechreu torri Ceirch yn y Caebanadl  Dafydd a Harri yn mynd ar ol boreufwyd i nol y Dyniewid o Gaegronw i gaea'r Tymawr, yn mynd wedi at y lleill i'r hên Forfa i Aredig ac at y Trainsia


Geiriau Allweddol:
Cyfrannwr: Rwth T.
Cyf. Gwynt: 0
Nerth.Gwynt : 0
Glawiad : -999
Is Tym : -999
Uch Tym: -99
Safle grid:

CANLLAWIAU CHWILIO:

Dyma enghreifftiau o’r codau (“Bwleaidd”) i’w defnyddio wrth chwilio’r Tywyddiadur:

Y chwiliad symlaf yw gair ar ei ben ei hun (ee wennol), neu dau air wedi eu gwahanu gan A, NEU neu DIM (ee. wennol NEU gwennol)

Ond i chwilio ar draws y meysydd:

Rhowch + o flaen pob maes/elfen o’ch chwiliad a : (colon) ar ei ôl..

Dynodir dyddiadau fel diwrnod, mis, blwyddyn (dd/mm/bb)

Ee. I godi pob cofnod sy’n cynnwys Faenol ym mis Ionawr 1877:

+lle:Faenol +mm/bb:1/1877

Dyma ychydig o engreifftiau eraill:

+nodiadau:llosgfynydd +bb:1815

+ffynhonnell:Edwards +nodiadau:moch

+nodiadau:wartheg +nodiadau:ffridd

Mwy yn fan hyn:

Apache Lucene - Query Parser Syntax



Apache Lucene - Query Parser Syntax