Prif nodwedd y gronfa hon yw'r dyddiad, mis neu'r flwyddyn penodol sydd yn sail i'ch cofnod. Mae'r tywydd wrth gwrs yn rhywbeth sydd yn digwydd "rwan", pryd bynnag yw neu oedd "rwan" i'r cofnodwr gwreiddiol; y bore yma efallai, diwrnod arbennig yn eich plentyndod, neu sylw mewn dyddiadur dwy ganrif yn ôl yn sir Feirionnydd.... efallai. Neu efallai bod cysylltiad y sylw a'r tywydd yn ymddangosiadol wan iawn: tylluan wen yn hela am dri o'r gloch y prynhawn ar ddyddiad arbennig o Chwefror; clywed y gog yn canu ddiwedd mis Mawrth; teilo cae at datws ddechrau’r gwanwyn. Tywydd....? efallai! Ffenoleg...? yn bendant.
Mae'r Tywyddiadur yn rhyngweithiol - hynny yw, mi allwch rhoi gwybodaeth i fewn iddo, neu chael gwybodaeth allan. Y cam cyntaf y byddwch yn cymryd wrth fentro ar y dudalen hon felly fydd dewis pa un rydych am ei wneud.... Chwilio ynteu Mewnbynnu (blychod chwilio ar y chwith mewn glas, blychod mewnbynnu ar y dde mewn coch).
(Ewch i’r gwaelod am ganllawiau cychwynnol).
CHWILIO: Chi biau’r dewis: mis neu gyfnod arbennig efallai, blwyddyn, gair (neu ddau air), neu ddiwrnod penodol (treiwch ddyddiad eich pen-blwydd). Cewch wneud cyfuniad o rhain.
MEWNBYNNU: Trwy fewnbynnu cewch ychwanegu at y gronfa a chreu adnodd mwy cynhwysfawr fyth i ymchwilwyr fel chi. Dim ond tri amod sydd ar eich cofnod: ei fod yn cynnwys rhyw fath o ddyddiad, lleoliad (bras neu fanwl), a bod y cofnod rhywfodd yn gysylltiedig â’r amgylchedd.
20/8/1825 | |||||||||||||||||
Penmorfa, Gwynedd | |||||||||||||||||
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon.) | |||||||||||||||||
Sadwrn. Diwrnod dwl mwll yn y boreu sychu at y Prydnhawn Robt. Griffith a Dafydd yn torri Ceirch pen isa i Gae'r hendra, a Wil Sion yn aredig yn yr hen Forfa hyd amser ciniaw yn mynd wedi i hel yr haidd yn morfa'r Goedau a Morfa'r Garreg yn Sieldremi. Fi wedi bod yn Ffair Benmorfa
|
21/8/1825 | |||||||||||||||||
Penmorfa, Gwynedd | |||||||||||||||||
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon.) | |||||||||||||||||
Sul Diwrnod gwresog mwll Gwen William Caeddafydd yma
|
22/8/1825 | |||||||||||||||||
Penmorfa, Gwynedd | |||||||||||||||||
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon.) | |||||||||||||||||
llun Diwrnod gwresog mwll. Yn lladd Ceirch yn y Caebanadl hyd amser boreufwyd, yn mynd wedi i'r morfa i ladd Haidd, Yn darfod lladd Haidd Morfa Goedan ac yn lladd peth yn Morfa'r Garreg
|
23/8/1825 | |||||||||||||||||
Prenteg, Penmorfa | |||||||||||||||||
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Prenteg | |||||||||||||||||
23 Mawrth Diwrnod gwresog. Yn lladd ceirch yn y Caebanadl hyd amser boreufwyd. yn mynd wedi i'r morfa i ladd Haidd. Yn darfod lladd Haidd Morfa Goedan ac yn lladd peth yn Morfa'r Garreg
|
24/8/1825 | |||||||||||||||||
Penmorfa, Gwynedd | |||||||||||||||||
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon.) | |||||||||||||||||
Mercher Diwrnod gwresog mwll, ac yn Cymylu at yr hwyr Yn darfod lladd Haidd yn Morfa'r garreg ac yn darfod lladd Ceirch y Cae Banadl. Owen Owens Portreuddyn yn mynd a'r Ceffyl i Bwllheli i nol fy Mam hithau yn dwad efo fo i'r Tynllan Criccieth
|
25/8/1825 | |||||||||||||||||
Penmorfa, Gwynedd | |||||||||||||||||
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon.) | |||||||||||||||||
Iau Diwrnod sych mwll iawn. Y Meibion cyn boreufwyd yn Cynull Ceirch pen isa i Gae'r hendra, yn mynd wedi i gynull Haidd Morfa'r Goedan. Fy Mam yn dwad yma efo'r Hwyr
|
26/8/1825 | |||||||||||||||||
Penmorfa, Gwynedd | |||||||||||||||||
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon.) | |||||||||||||||||
Gwener Diwrnod gwresog mwll iawn, Yn Cunull [sic] Haidd Morfa'r Garreg. Fi heb fod yn y Farchnad, Yn dylu ac yn taflu dafnau gwlaw gyda'r nos
|
27/8/1825 | |||||||||||||||||
Penmorfa, Gwynedd | |||||||||||||||||
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon.) | |||||||||||||||||
Sul Diwrnod gwresog yn y boreu dylu yn y Prydnhawn
|
28/8/1825 | |||||||||||||||||
Prenteg, Penmorfa | |||||||||||||||||
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Prenteg | |||||||||||||||||
28 SUL [Sic.] Diwrnod gwresog yn y boreu dylu yn y Prydnhawn
|
29/8/1825 | |||||||||||||||||
Penmorfa, Gwynedd | |||||||||||||||||
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon.) | |||||||||||||||||
llun Diwrnod niwliog mwll wedi bwrw gwlaw'n drwm yn y boreu. Y Meibion ddau yn cau Trains y Pistyll bach y lleill yn gorphen y ffordd i ddwad i lawr at gefn y Ty, ar ol Prydnhawnbryd Wil Sion a Dafydd yn mynd i godi ystycia yn mynd wedi i settio'r Clawddia, Harri wedi mynd a phwn o Haidd i Felin Tan'rallt. Fi wedi bod yn u--ctio'r Carriwr i yru ysten (jar) efo fo i Gaernarfon i nol Gin
|
30/8/1825 | |||||||||||||||||
Penmorfa, Gwynedd | |||||||||||||||||
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon.) | |||||||||||||||||
Mawrth. Diwrnod sych dwl mwll iawn. Y Meibion wedi bod cyn borefwyd yn settio'r Clawddia, Robt. a Dafydd yn mynd wedi i dacluso'r Ystycia, yn mynd i settio'r Clawddia, Wil Sion a Harri yn Aredig yn yr hên Forfa. Sychu'n dda at y Prydnhawn. Evan James yn dwad yma
|
31/8/1825 | |||||||||||||||||
Penmorfa, Gwynedd | |||||||||||||||||
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon.) | |||||||||||||||||
Mercher Diwrnod dwl yn y boreu sychu peth at y Prydnhawn Yn Carrio'r Haidd o'r Morfa'r Goedau a'r Morfa'r Garreg Owen Owens Portreuddyn ym yn ein helpu
|
1/9/1825 | |||||||||||||||||
Penmorfa, Gwynedd | |||||||||||||||||
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon.) | |||||||||||||||||
Iau Diwrnod gwresog mwll, Y Meibion yn trwsio'r Helmi Haidd cyn boreufwyd, yn mynd wedi Wil at yr helmi a Robert, Y lleill yn mynd i droi Ceirch i'r Buarth gwyn y Weirglawdd ucha a'r llain hir, yn Cynull peth yn y Caebanadl ac yn tynu pennau yr ystycia yno, yn mynd wedi i rwymo peth Gwenith i fuarth yr hên Erw ac i nol llwyth o DO i fynu, yn dwad a'r Ydwellt Haidd, wedi yn carrio'r Gwenith a cheirch pen isa i Gae'r Hendra
|
2/9/1825 | |||||||||||||||||
Penmorfa, Gwynedd | |||||||||||||||||
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon.) | |||||||||||||||||
Diwrnod sychmwll,Yn cynull Ceirch y Buarth Gwyn ac yn ei Garrio a Cheirch y Cae Banadl. Fi heb fynd i'r Farchnad
|
3/9/1825 | |||||||||||||||||
Penmorfa, Gwynedd | |||||||||||||||||
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon.) | |||||||||||||||||
Sadwrn. Diwrnod dwl distaw mwll. Yn cynull Ceirch y Weirglawdd ucha a'r llain hir, ac yn ei garrio i gid Diwedd Cael Yr Yd Wedicael Cynhauaf da hynod, Y Ceirch yn lled wan o achos cymmaint [sic] gwres yn yr hâf. Yn ail wneud yr Helmi Haidd achos eu bod yn twymo gormod. Fi wedi bod yn Portreuddyn yn Yspaddu'r Wyn Evan Williams Cae Dafydd yma
|
4/9/1825 | |||||||||||||||||
Penmorfa, Gwynedd | |||||||||||||||||
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon.) | |||||||||||||||||
Diwrnod sych gwresog. Fi wedi bod yn y llan
|
5/9/1825 | |||||||||||||||||
Penmorfa, Gwynedd | |||||||||||||||||
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon.) | |||||||||||||||||
llun Diwrnod sych gwresog Yn Cneifio yr Wyn. Bedwar ugain ac wyth. Yn mynd wedi i gau o gwmpas Wernclowna, i'r lloia ac i dorri rhedyn i rhoi ymhen yr Helmi
|
6/9/1825 | |||||||||||||||||
Penmorfa, Gwynedd | |||||||||||||||||
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon.) | |||||||||||||||||
Mawrth. Diwrnod sych gwresog. Wil Sion y boreu yn trwsio'r Helm Geirch y lleill yn tori anialwch ar ol boreufwyd. Yn gwaedu ac yn rhoi peth yn molia dwy Fuwch at eu Pesgi Yn tori brwyn ac yn Aredig yn yr hen Forfa. Yn dwad i fynu rhwng tri a phedwar o'r gloch i wneud penau yr helmi
|
7/9/1825 | |||||||||||||||||
Penmorfa, Gwynedd | |||||||||||||||||
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon.) | |||||||||||||||||
Mercher Diwrnod dwl ac yn dwad i fwrw gwlaw at yr hwyr Yn dwad a dau lwyth o frwyn i doi'r helmi ac yn toi pump
|
8/9/1825 | |||||||||||||||||
Penmorfa, Gwynedd | |||||||||||||||||
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon.) | |||||||||||||||||
Iau Diwrnod cymylog sych. Yn dwad a'r chwech Eidion at y Gwanwyn o Gaegronw i'r Morfa glofer i adladd a'r ddau Eidion at Wyl y Grog hefyd Yn darfod Toi'r Helmi ac yn Parrottoi [sic] at garrio mawn o Gaegronw
|
9/9/1825 | |||||||||||||||||
Penmorfa, Gwynedd | |||||||||||||||||
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon.) | |||||||||||||||||
Gwener Diwrnod dwl gwyntog ac yn bwrw ambell gawod. Yn Carrio Mawn o Gaegronw ucha, ac yn cau rhwng Caegronw ucha a'r Gorllwyn Fi wedi bod yn y Farchnad
|
10/9/1825 | |||||||||||||||||
Penmorfa, Gwynedd | |||||||||||||||||
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon.) | |||||||||||||||||
Sadwrn Diwrnod cymylog gwyntog iawn Wil Sion a Harri yn carrio Mawn o Gaegronw ucha Robt. Griffith yn trwsio To'r Helmi oedd y gwynt yn ei chwalu, yn torri anialwch efo'r Clawddia. Bwriodd gawod drom iawn yn y Prydnhawn a gostegodd y gwynt beth
|
11/9/1825 | |||||||||||||||||
Penmorfa, Gwynedd | |||||||||||||||||
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon.) | |||||||||||||||||
Sul. Diwrnod dwl yn bwrw peth gwlaw ac yn Taranu o amgylch
|
12/9/1825 | |||||||||||||||||
Penmorfa, Gwynedd | |||||||||||||||||
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon.) | |||||||||||||||||
llun Diwrnod mwll sych, Yn darfod Aredig yn yr hen Forfa ac yn dechreu carrio yr hen glawdd llanw i wasdaethau pantia, Y Buwchod yn mynd i'r hen Forfa i'r adladd, Owen Roberts Tynlon yma yn gwertu dau Eidion a dwy Ddyniewad iddo Mari Tomas Cwmystrallyn yma Betty Owen y Dref yma
|
13/9/1825 | |||||||||||||||||
Penmorfa, Gwynedd | |||||||||||||||||
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon.) | |||||||||||||||||
Mawrth. Diwrnod dwl mwll yn chwythu'n drwm yn y boreu ac yn bwrw gwlaw ac yn Taranu peth yn y Prydnhawn. Y Meibion yn carrio'r hên glawdd llanw i wastadhau pantia yn yr hên Forfa. Dafydd wedi bod yn danfon fy Mam i Bwllheli, Yn troi'r ddwy Fuwch at eu pesgi i'r adladd i'r Morfa glofer. Sion Hugh Cerrigyrhwydwr yn dwad a llo yma
|
CANLLAWIAU CHWILIO:
Dyma enghreifftiau o’r codau (“Bwleaidd”) i’w defnyddio wrth chwilio’r Tywyddiadur:
Y chwiliad symlaf yw gair ar ei ben ei hun (ee wennol), neu dau air wedi eu gwahanu gan A, NEU neu DIM (ee. wennol NEU gwennol)
Ond i chwilio ar draws y meysydd:
Rhowch + o flaen pob maes/elfen o’ch chwiliad a : (colon) ar ei ôl..
Dynodir dyddiadau fel diwrnod, mis, blwyddyn (dd/mm/bb)
Ee. I godi pob cofnod sy’n cynnwys Faenol ym mis Ionawr 1877:
+lle:Faenol +mm/bb:1/1877
Dyma ychydig o engreifftiau eraill:
+nodiadau:llosgfynydd +bb:1815
+ffynhonnell:Edwards +nodiadau:moch
+nodiadau:wartheg +nodiadau:ffridd
Mwy yn fan hyn:
Apache Lucene - Query Parser Syntax
|