Llên Natur
Llên Natur

Y Tywyddiadur

Prif nodwedd y gronfa hon yw'r dyddiad, mis neu'r flwyddyn penodol sydd yn sail i'ch cofnod. Mae'r tywydd wrth gwrs yn rhywbeth sydd yn digwydd "rwan", pryd bynnag yw neu oedd "rwan" i'r cofnodwr gwreiddiol; y bore yma efallai, diwrnod arbennig yn eich plentyndod, neu sylw mewn dyddiadur dwy ganrif yn ôl yn sir Feirionnydd.... efallai. Neu efallai bod cysylltiad y sylw a'r tywydd yn ymddangosiadol wan iawn: tylluan wen yn hela am dri o'r gloch y prynhawn ar ddyddiad arbennig o Chwefror; clywed y gog yn canu ddiwedd mis Mawrth; teilo cae at datws ddechrau’r gwanwyn. Tywydd....? efallai! Ffenoleg...? yn bendant.

Mae'r Tywyddiadur yn rhyngweithiol - hynny yw, mi allwch rhoi gwybodaeth i fewn iddo, neu chael gwybodaeth allan. Y cam cyntaf y byddwch yn cymryd wrth fentro ar y dudalen hon felly fydd dewis pa un rydych am ei wneud.... Chwilio ynteu Mewnbynnu (blychod chwilio ar y chwith mewn glas, blychod mewnbynnu ar y dde mewn coch).

(Ewch i’r gwaelod am ganllawiau cychwynnol).

CHWILIO: Chi biau’r dewis: mis neu gyfnod arbennig efallai, blwyddyn, gair (neu ddau air), neu ddiwrnod penodol (treiwch ddyddiad eich pen-blwydd). Cewch wneud cyfuniad o rhain.

MEWNBYNNU: Trwy fewnbynnu cewch ychwanegu at y gronfa a chreu adnodd mwy cynhwysfawr fyth i ymchwilwyr fel chi. Dim ond tri amod sydd ar eich cofnod: ei fod yn cynnwys rhyw fath o ddyddiad, lleoliad (bras neu fanwl), a bod y cofnod rhywfodd yn gysylltiedig â’r amgylchedd.




Oriel

Tywyddiadur

owen-edwards

2,631 cofnodion a ganfuwyd.
14/9/1825
Penmorfa, Gwynedd
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon.)

Mercher. Diwrnod dwl sych mwll. Y Meibion yn carrio'r hên glawdd llanw i wastadhau pantia yn yr hên Forfa


Geiriau Allweddol:
Cyfrannwr: Rwth T.
Cyf. Gwynt: 0
Nerth.Gwynt : 0
Glawiad : -999
Is Tym : -999
Uch Tym: -99
Safle grid:
15/9/1825
Penmorfa, Gwynedd
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon.)

Iau. Diwrnod dwl niwliog yn y boreu, clirio a gwres at y Prydnhawn Y Meibion yn carrio'r hên glawdd llanw i wastadhau pantia yn yr hên Forfa


Geiriau Allweddol:
Cyfrannwr: Rwth T.
Cyf. Gwynt: 0
Nerth.Gwynt : 0
Glawiad : -999
Is Tym : -999
Uch Tym: -99
Safle grid:
16/9/1825
Penmorfa, Gwynedd
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon.)

Gwener. Diwrnod sych dwl mwll. Y Meibion yn darfod gwastadhau yn yr hen Forfa. Fi wedi bod y Mhenmorfa y nghfarfod Owen Roberts y Fo ai was yn dwad yma. Y Lloia yn mynd i'r Glofer i Forfa'r Goedan. Yn Godro gyntaf erioed i mi wybod yn y Morfa.


Geiriau Allweddol:
Cyfrannwr: Rwth T.
Cyf. Gwynt: 0
Nerth.Gwynt : 0
Glawiad : -999
Is Tym : -999
Uch Tym: -99
Safle grid:
17/9/1825
Penmorfa, Gwynedd
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon.)

Sadwrn. Diwrnod sych mwll, Wil Sion a Dafydd wedi bod yn danfon y ddau Eidion a'r ddwy Anner i Dremadoc i gyfarfod y GyrrbbWil a Robt. yn mynd wedi i raffio gwair y Morfa Dafydd yn agor y ffôs trwy gongl bella Morfa'r Garreg, Robt. Sion Hendrahowel efo mi yn chwilio am garreg i wneud Rowler  Begi wedi bod a phwn o Haidd yn y Felin isa, Owen Roberts ai Wâs yn mynd i ffwrdd ddau o'r gloch y boreu at Ffair Llanrwst/ Robt. Thomas Llangybi yn dwad yma


Geiriau Allweddol:
Cyfrannwr: Rwth T.
Cyf. Gwynt: 0
Nerth.Gwynt : 0
Glawiad : -999
Is Tym : -999
Uch Tym: -99
Safle grid:
18/9/1825
Penmorfa, Gwynedd
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon.)

Sul. Diwrnod dwl mwll sych yn y boreu bwrw Cawodydd y Prydnhawn


Geiriau Allweddol:
Cyfrannwr: Rwth T.
Cyf. Gwynt: 0
Nerth.Gwynt : 0
Glawiad : -999
Is Tym : -999
Uch Tym: -99
Safle grid:
19/9/1825
Penmorfa, Gwynedd
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon.)

llun. Diwrnod dwl mwll iawn. Dafydd wedi bod a'r tri Cheffyl gwethu Yn Efail Sion Evan Robt. Griffith a Wil Sion yn rhaffio Dasau gwair y Morfa  Robt. Thomas Llangybi yn mynd adref


Geiriau Allweddol:
Cyfrannwr: Rwth T.
Cyf. Gwynt: 0
Nerth.Gwynt : 0
Glawiad : -999
Is Tym : -999
Uch Tym: -99
Safle grid:
20/9/1825
Penmorfa, Gwynedd
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon.)

Mawrth. Diwrnod dwl sych mwll, wedi bwrw peth gwlaw yn y boreu  Y Meibion y boreu yn gwneud rhaffa yn mynd wedi i garrio To at y Dasau mawn Caegronw, Fi wedi bod y Mhenmorfa mewn Festri. Elin yn dwad efo mi i'r Dref, gwlaw trwm iawn yn ein dal yno hyd rhwng hanner nos ac un o'r gloch y boreu


Geiriau Allweddol:
Cyfrannwr: Rwth T.
Cyf. Gwynt: 0
Nerth.Gwynt : 0
Glawiad : -999
Is Tym : -999
Uch Tym: -99
Safle grid:
21/9/1825
Penmorfa, Gwynedd
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon.)

Mercher Diwrnod dwl sych mwll ar ol gwlaw trwm a Llifeiriant mawr anghyffredin neithiwr. Wil Sion wedi bod yn y Towyn yn nol dau Lwyth o Galch y lleill yn rhaffio peth ar yr helmi ac yn toi Das mawn Cae Gronw isa


Geiriau Allweddol:
Cyfrannwr: Rwth T.
Cyf. Gwynt: 0
Nerth.Gwynt : 0
Glawiad : -999
Is Tym : -999
Uch Tym: -99
Safle grid:
22/9/1825
Penmorfa, Gwynedd
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon.)

Iau Diwrnod dwl sych. Wil Sion wedi bod yn y Towyn yn nol dwy Siwrna o Galch. Y ddau arall wedi bod yn Caegronw yn Toi'r Mawn Robt. Thomas y Caecoch yn dwad a llo gwryw yma.


Geiriau Allweddol:
Cyfrannwr: Rwth T.
Cyf. Gwynt: 0
Nerth.Gwynt : 0
Glawiad : -999
Is Tym : -999
Uch Tym: -99
Safle grid:
23/9/1825
Penmorfa, Gwynedd
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon.)

Gwener Diwrnod dwl sych Wil Sion wedi bod yn y Towyn yn nol dwy Siwrna o Galch, Y ddau arall yn Caegronw yn toi'r Mawn  Morwyn y Cefncoch isa yma'n dweyd fod Maharen wedi dod yno imi o Bwllheli oddiwrth Evan Evans i Barcker. Fi gartref heb fynd i'r Farchnad, Yn lladd Ceinach yn yr Allt


Geiriau Allweddol:
Cyfrannwr: Rwth T.
Cyf. Gwynt: 0
Nerth.Gwynt : 0
Glawiad : -999
Is Tym : -999
Uch Tym: -99
Safle grid:
24/9/1825
Penmorfa, Gwynedd
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon.)

Sadwrn Diwrnod dwl ac yn bwrw gwlaw'n ddwys  Dafydd wedi bod yn y Cefncoch isa yn nol Maharen oedd wedi dwad yno o Bwllheli. Wil Sion yn dwad a thair Siwrna o Galch o'r Towyn. Robt. a Dafydd wedi bod yn chwalu peth Calch yn yr hên Forfa, yn mynd wedi i wneud rhaffa, ar ol prydnhawnbryd i raffio'r helmi Haidd.


Geiriau Allweddol:
Cyfrannwr: Rwth T.
Cyf. Gwynt: 0
Nerth.Gwynt : 0
Glawiad : -999
Is Tym : -999
Uch Tym: -99
Safle grid:
25/9/1825
Penmorfa, Gwynedd
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon.)

Sul Diwrnod dwl claiar


Geiriau Allweddol:
Cyfrannwr: Rwth T.
Cyf. Gwynt: 0
Nerth.Gwynt : 0
Glawiad : -999
Is Tym : -999
Uch Tym: -99
Safle grid:
26/9/1825
Penmorfa, Gwynedd
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon.)

llun Diwrnod sych mwll. Y Meibion y boreu yn rhaffio'r helmi Haidd Yn mynd wedi i'r hên Forfa i chwalu Calch. Dafydd wedi bod y boreu yn Pant ifan yn nol y Maharen, Wil Sion a Dafydd yn mynd i Benmorfa i'r Ffair. Fi wedi bod yn y Ffair. Griffith Jones y Tailiwr yn dwad yma


Geiriau Allweddol:
Cyfrannwr: Rwth T.
Cyf. Gwynt: 0
Nerth.Gwynt : 0
Glawiad : -999
Is Tym : -999
Uch Tym: -99
Safle grid:
27/9/1825
Penmorfa, Gwynedd
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon.)

Mawrth. Diwrnod sych mwll Fi wedi bod yn Criccieth yn y Cyfarfod Ustusiad yn danfon llechres o'r rheithiwr o'r plwyf yma Wil a Rhobert wedi bod yn Caegronw yn gorphen toi'r Mawn Dafydd wedi bod yn tori anialwch


Geiriau Allweddol:
Cyfrannwr: Rwth T.
Cyf. Gwynt: 0
Nerth.Gwynt : 0
Glawiad : -999
Is Tym : -999
Uch Tym: -99
Safle grid:
28/9/1825
Penmorfa, Gwynedd
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon.)

Mercher Diwrnod sych mwll, Yn rhaffio'r helmi Haidd yn y boreu  Yn mynd wedi i ddechreu llyfnu branâr i'r hen Forfa, ar ol Prydnhawnbryd Wil Sion yn mynd yno i ddechreu Aredig, a Dafydd yn llyfnu


Geiriau Allweddol:
Cyfrannwr: Rwth T.
Cyf. Gwynt: 0
Nerth.Gwynt : 0
Glawiad : -999
Is Tym : -999
Uch Tym: -99
Safle grid:
29/9/1825
Penmorfa, Gwynedd
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon.)

Iau Diwrnod sych mwll. Dydd Gwyl St. Mihengel. Dafydd wedi bod a'r Ebol Coch yn Efail Sion Ifan yn ei bedoli gyntaf erioed. yn mynd wedi i'r hen Forfa i lyfnu, Wil Sion yno'n Aredig. Robt. Griffith yn rhaffio Dâs gwair y Beudy ucha Fi wedi bod y Nghriccieth yn y Ciniaw Gwyl mihengel Elin yn dwad efo mi i fynd i'r Tynlon at y Sasiwn


Geiriau Allweddol:
Cyfrannwr: Rwth T.
Cyf. Gwynt: 0
Nerth.Gwynt : 0
Glawiad : -999
Is Tym : -999
Uch Tym: -99
Safle grid:
30/9/1825
Penmorfa, Gwynedd
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon.)

Gwener Diwrnod dwl sych, Wil Sion yn Aredig yn yr hen Forfa Dafydd yno'n llyfnu Robt. Griffith yn rhaffio Dâs gwair y Beudy ucha. Fi heb fod yn y Farchnad. Dafydd wedi bod yn y Mynudd yn nol y Maharen penfrych oedd wedi marw yno yn ei gwplws


Geiriau Allweddol:
Cyfrannwr: Rwth T.
Cyf. Gwynt: 0
Nerth.Gwynt : 0
Glawiad : -999
Is Tym : -999
Uch Tym: -99
Safle grid:
1/10/1825
Penmorfa, Gwynedd
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon.)

Sadwrn Diwrnod sych lled gwyntog. Wil Sion yn Aredig yn yr hen Forfa  Dafydd yno'n llyfnu. Fi a Robert Griffith ef Robert Sion Hendrahowel yn Hafod y budredd yn gwneud Rowler


Geiriau Allweddol:
Cyfrannwr: Rwth T.
Cyf. Gwynt: 0
Nerth.Gwynt : 0
Glawiad : -999
Is Tym : -999
Uch Tym: -99
Safle grid:
2/10/1825
Penmorfa, Gwynedd
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon.)

Sul. Diwrnod sych mwll gwyntog


Geiriau Allweddol:
Cyfrannwr: Rwth T.
Cyf. Gwynt: 0
Nerth.Gwynt : 0
Glawiad : -999
Is Tym : -999
Uch Tym: -99
Safle grid:
3/10/1825
Penmorfa, Gwynedd
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon.)

lun Diwrnod dwl mwl ac yn bwrw cawodydd yn y Prydnhawn. Wil yn Aredig yn yr hên Forfa. Dafydd yno'n llyfnu. Robt. Griffith yn torri Anialwch yn yr hên Erw . Gwas Tynlon yn danfon Elin adref. Griffith William yma'n hel y chweched Treth Tylodion. Yn gwerthu'r gwlan i Morris Jones y Siopwr.


Geiriau Allweddol:
Cyfrannwr: Rwth T.
Cyf. Gwynt: 0
Nerth.Gwynt : 0
Glawiad : -999
Is Tym : -999
Uch Tym: -99
Safle grid:
4/10/1825
Penmorfa, Gwynedd
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon.)

Mawrth. Diwrnod dwl ac yn bwrw ambell gawod. Yn darfod ail Aredig yr hen Forfa ac yn dechreu ei ail lyfnu, Fi yn prynu Maharen gan William Croesawr a Sionun y Fâchgôch


Geiriau Allweddol:
Cyfrannwr: Rwth T.
Cyf. Gwynt: 0
Nerth.Gwynt : 0
Glawiad : -999
Is Tym : -999
Uch Tym: -99
Safle grid:
5/10/1825
Penmorfa, Gwynedd
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon.)

Mercher Diwrnod dwl ac yn bwrw amball gawod. Yn darfod ail lyfnu'r hen Forfa ac yn dechreu carrio'r gwraidd brwyn. Fi yn tarawo Ceinach wrth y Gamfa fawr efo fy Mhastwn.


Geiriau Allweddol:
Cyfrannwr: Rwth T.
Cyf. Gwynt: 0
Nerth.Gwynt : 0
Glawiad : -999
Is Tym : -999
Uch Tym: -99
Safle grid:
7/10/1825
Penmorfa, Gwynedd
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon.)

Gwener Diwrnod dwl gwyntog wedi bwrw gwlaw trwm yn y boreu Y Meibion y boreu yn gwneud Panelau, yn mynd wedi i orphen cario'r gwraidd Brwyn. Fi wedi bod yn Tremadog yn y Farchnad


Geiriau Allweddol:
Cyfrannwr: Rwth T.
Cyf. Gwynt: 0
Nerth.Gwynt : 0
Glawiad : -999
Is Tym : -999
Uch Tym: -99
Safle grid:
8/10/1825
Penmorfa, Gwynedd
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon.)

Sadwrn diwrnod dwl gwyntog ac yn bwrw gwlaw y rhan amlaf Y Meibion yn dwad a llwyth o frwyn at ddâs y Beudy newydd, ac yn dechreu ei drwsio, ac yn gwneud Panelau. William Williams y Bwlchllechog yn dwad yma ac yn cysgu yma.


Geiriau Allweddol:
Cyfrannwr: Rwth T.
Cyf. Gwynt: 0
Nerth.Gwynt : 0
Glawiad : -999
Is Tym : -999
Uch Tym: -99
Safle grid:
9/10/1825
Penmorfa, Gwynedd
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon.)

Sul. Diwrnod dwl budr, ac yn bwrw peth y rhan amlaf


Geiriau Allweddol:
Cyfrannwr: Rwth T.
Cyf. Gwynt: 0
Nerth.Gwynt : 0
Glawiad : -999
Is Tym : -999
Uch Tym: -99
Safle grid:

CANLLAWIAU CHWILIO:

Dyma enghreifftiau o’r codau (“Bwleaidd”) i’w defnyddio wrth chwilio’r Tywyddiadur:

Y chwiliad symlaf yw gair ar ei ben ei hun (ee wennol), neu dau air wedi eu gwahanu gan A, NEU neu DIM (ee. wennol NEU gwennol)

Ond i chwilio ar draws y meysydd:

Rhowch + o flaen pob maes/elfen o’ch chwiliad a : (colon) ar ei ôl..

Dynodir dyddiadau fel diwrnod, mis, blwyddyn (dd/mm/bb)

Ee. I godi pob cofnod sy’n cynnwys Faenol ym mis Ionawr 1877:

+lle:Faenol +mm/bb:1/1877

Dyma ychydig o engreifftiau eraill:

+nodiadau:llosgfynydd +bb:1815

+ffynhonnell:Edwards +nodiadau:moch

+nodiadau:wartheg +nodiadau:ffridd

Mwy yn fan hyn:

Apache Lucene - Query Parser Syntax



Apache Lucene - Query Parser Syntax