Llên Natur
Llên Natur

Y Tywyddiadur

Prif nodwedd y gronfa hon yw'r dyddiad, mis neu'r flwyddyn penodol sydd yn sail i'ch cofnod. Mae'r tywydd wrth gwrs yn rhywbeth sydd yn digwydd "rwan", pryd bynnag yw neu oedd "rwan" i'r cofnodwr gwreiddiol; y bore yma efallai, diwrnod arbennig yn eich plentyndod, neu sylw mewn dyddiadur dwy ganrif yn ôl yn sir Feirionnydd.... efallai. Neu efallai bod cysylltiad y sylw a'r tywydd yn ymddangosiadol wan iawn: tylluan wen yn hela am dri o'r gloch y prynhawn ar ddyddiad arbennig o Chwefror; clywed y gog yn canu ddiwedd mis Mawrth; teilo cae at datws ddechrau’r gwanwyn. Tywydd....? efallai! Ffenoleg...? yn bendant.

Mae'r Tywyddiadur yn rhyngweithiol - hynny yw, mi allwch rhoi gwybodaeth i fewn iddo, neu chael gwybodaeth allan. Y cam cyntaf y byddwch yn cymryd wrth fentro ar y dudalen hon felly fydd dewis pa un rydych am ei wneud.... Chwilio ynteu Mewnbynnu (blychod chwilio ar y chwith mewn glas, blychod mewnbynnu ar y dde mewn coch).

(Ewch i’r gwaelod am ganllawiau cychwynnol).

CHWILIO: Chi biau’r dewis: mis neu gyfnod arbennig efallai, blwyddyn, gair (neu ddau air), neu ddiwrnod penodol (treiwch ddyddiad eich pen-blwydd). Cewch wneud cyfuniad o rhain.

MEWNBYNNU: Trwy fewnbynnu cewch ychwanegu at y gronfa a chreu adnodd mwy cynhwysfawr fyth i ymchwilwyr fel chi. Dim ond tri amod sydd ar eich cofnod: ei fod yn cynnwys rhyw fath o ddyddiad, lleoliad (bras neu fanwl), a bod y cofnod rhywfodd yn gysylltiedig â’r amgylchedd.




Oriel

Tywyddiadur

owen-edwards

2,631 cofnodion a ganfuwyd.
10/10/1825
Penmorfa, Gwynedd
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon.)

llun Diwrnod dwl gwyntog. Wil a Robert yn darfod trwsio a rhaffio Dâs y Beudy newydd, yn mynd wedi i ddechreu cau rhwng yr adladd a'r Caea porfa. Harri a Dafydd yn hel yr Wyn at eu gilydd ac yn dwad a'r Ferlan a'r Cyw o'r Mynudd. Richard Thomas Penmorfa yn galw yma wrth Yspaddu moch Hendrahowel ac yn Ciniawa. Fi yn mynd efo fo i Gynhebrwng Sian gwraig Arthur Hughes Penmorfa,  yn ymdroi yn y Wern wrth ddyfod oddi yno


Geiriau Allweddol:
Cyfrannwr: Rwth T.
Cyf. Gwynt: 0
Nerth.Gwynt : 0
Glawiad : -999
Is Tym : -999
Uch Tym: -99
Safle grid:
11/10/1825
Penmorfa, Gwynedd
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon.)

Mawrth. Diwrnod dwl gwyntog. Wil a Harri yn carrio Mawn o Gaegronw ucha, y ddau arall yn tori anialwch yn yr hên Erw.


Geiriau Allweddol:
Cyfrannwr: Rwth T.
Cyf. Gwynt: 0
Nerth.Gwynt : 0
Glawiad : -999
Is Tym : -999
Uch Tym: -99
Safle grid:
12/10/1825
Penmorfa, Gwynedd
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon.)

Mercher Diwrnod sych. Wil a Harri yn dechreu Aredig yr hên Forfa y drydydd waith y ddau arall yn torri Anialwch yn yr hen Erw. Morris Jones Tremadoc yma'n pwyso'r Gwlan.


Geiriau Allweddol:
Cyfrannwr: Rwth T.
Cyf. Gwynt: 0
Nerth.Gwynt : 0
Glawiad : -999
Is Tym : -999
Uch Tym: -99
Safle grid:
13/10/1825
Penmorfa, Gwynedd
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon.)

Iau Diwrnod sych teg. Wil Sion a Harri yn Aredig yn yr hen forfa  y Prydnhawn yn danfon y Gwlan i Dremadoc ac yn [dod] a hanner Tunell o Glo efo fo Adref  y ddau arall yn darfod torri Anialwch yr hen Erw. Robt. Griffith byn mynd adref i aros am ddau ddiwrnod neu dri. Yn darllaw.


Geiriau Allweddol:
Cyfrannwr: Rwth T.
Cyf. Gwynt: 0
Nerth.Gwynt : 0
Glawiad : -999
Is Tym : -999
Uch Tym: -99
Safle grid:
14/10/1825
Penmorfa, Gwynedd
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon.)

Gwener Diwrnod [?] ac wedi bwrw ambell gawod. Wil Sion a Harri yn Aredig yn yr hen Forfa. Dafydd yn torri Anialwch. Fi wedi bod yn y Farchnad


Geiriau Allweddol:
Cyfrannwr: Rwth T.
Cyf. Gwynt: 0
Nerth.Gwynt : 0
Glawiad : -999
Is Tym : -999
Uch Tym: -99
Safle grid:
15/10/1825
Penmorfa, Gwynedd
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon.)

Sadwrn. Diwrnod sych, Yn darfod Aredig ddaliad y boreu, yn mynd ddaliad y Prydnhawn i ddechreu llyfnu Gwenith yno


Geiriau Allweddol:
Cyfrannwr: Rwth T.
Cyf. Gwynt: 0
Nerth.Gwynt : 0
Glawiad : -999
Is Tym : -999
Uch Tym: -99
Safle grid:
16/10/1825
Penmorfa, Gwynedd
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon.)

Sul Diwrnod dwl gwyntog ac yn bwrw ambell gawod weithia


Geiriau Allweddol:
Cyfrannwr: Rwth T.
Cyf. Gwynt: 0
Nerth.Gwynt : 0
Glawiad : -999
Is Tym : -999
Uch Tym: -99
Safle grid:
17/10/1825
Penmorfa, Gwynedd
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon.)

llun Diwrnod dwl wedi bwrw gwlaw'n drwm yn y boreu. Yn cau peth rhwng y Buarth gwyn a'r Caemain, yn mynd wedi i deilo oddiwrth Feudy'r Morfa hyd at yr hen glawdd llanw. Robt. Griffith yn dyrnu Ydwellt Haidd. Mr. Broster Bangor yn galw yma i ymofyn tal am Gyhoeddi Cyfarfod Cymdeithas Eifionydd


Geiriau Allweddol:
Cyfrannwr: Rwth T.
Cyf. Gwynt: 0
Nerth.Gwynt : 0
Glawiad : -999
Is Tym : -999
Uch Tym: -99
Safle grid:
18/10/1825
Penmorfa, Gwynedd
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon.)

Mawrth, Diwrnod dwl ac yn bwrw gwlaw lled drwm ar hyd y dydd. Y Meibion yn glanhau yr Ysgubor a Robt. Griffith yn dechreu dyrnu Ceirch


Geiriau Allweddol:
Cyfrannwr: Rwth T.
Cyf. Gwynt: 0
Nerth.Gwynt : 0
Glawiad : -999
Is Tym : -999
Uch Tym: -99
Safle grid:
19/10/1825
Penmorfa, Gwynedd
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon.)

Mercher Diwrnod dwl ac yn bwrw ambell gawod lled drom. Dafydd a Wil Sion yn gollwng dwr o'r tir gwenith yn yr hen Forfa ac yn chwalu tail yno. Yn mynd a'r chwech Bustach o'r Morfa i Weirglawdd y Tymawr ac yn mynd a'r Gwartheg Hespion yno yn eu lle. Y Fuwch sydd yn ei phesgi yn tori ei Chorn


Geiriau Allweddol:
Cyfrannwr: Rwth T.
Cyf. Gwynt: 0
Nerth.Gwynt : 0
Glawiad : -999
Is Tym : -999
Uch Tym: -99
Safle grid:
20/10/1825
Penmorfa, Gwynedd
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon.)

Iau Diwrnod sych gwyntog oer ac Eira tew hyd benau'r Mynyddau  Dafydd a Harri yn carrio mawn o Gaegronw, Jac yn colli ei bedol  Harri wedi bod a fo yn Efail y Dref yn ei gosod  Robt. Griffith yn Dyrnu


Geiriau Allweddol:
Cyfrannwr: Rwth T.
Cyf. Gwynt: 0
Nerth.Gwynt : 0
Glawiad : -999
Is Tym : -999
Uch Tym: -99
Safle grid:
21/10/1825
Penmorfa, Gwynedd
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon.)

Gwener Diwrnod oer gwyntog ac yn bwrw Cawodydd o Genllysg eira hyd bennau'r Mynuddau. Yn carrio Mawn hyd amser Prydnhawnbryd yn mynd wedi i hel y Defaid o'r Mynudd i'r Allt am ei bod gymaint Dryghin


Geiriau Allweddol:
Cyfrannwr: Rwth T.
Cyf. Gwynt: 0
Nerth.Gwynt : 0
Glawiad : -999
Is Tym : -999
Uch Tym: -99
Safle grid:
22/10/1825
Penmorfa, Gwynedd
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon.)

Sadwrn. Diwrnod sych distaw teg. Yn carrio mawn o Gaegronw ucha. Robt. Griffith yn mwsoglu'r llaethdu.[sic] Fi wedi bod yn ffair Griccieth


Geiriau Allweddol:
Cyfrannwr: Rwth T.
Cyf. Gwynt: 0
Nerth.Gwynt : 0
Glawiad : -999
Is Tym : -999
Uch Tym: -99
Safle grid:
23/10/1825
Penmorfa, Gwynedd
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon.)

Sul Diwrnod dwl claiar ac yn bwrw gwlaw man Fi wedi bod yn Aberglaslyn efo Mr. Owen. Gwen Williams Caeddafydd yn dwad yma


Geiriau Allweddol:
Cyfrannwr: Rwth T.
Cyf. Gwynt: 0
Nerth.Gwynt : 0
Glawiad : -999
Is Tym : -999
Uch Tym: -99
Safle grid:
24/10/1825
Penmorfa, Gwynedd
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon.)

llun. Diwrnod gwyntog oer ac yn bwrw Cawodydd oerion  Yn carrio mawn hyd amser Prydnhawnbryd. a Robert yn Dyrnu Yn mynd wedi i hel y Defaid ac i ollwng y Maheryn, ac yn gyru Defaid hespion i Gaegronw


Geiriau Allweddol:
Cyfrannwr: Rwth T.
Cyf. Gwynt: 0
Nerth.Gwynt : 0
Glawiad : -999
Is Tym : -999
Uch Tym: -99
Safle grid:
25/10/1825
Penmorfa, Gwynedd
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon.)

Mawrth. Diwrnod gwyntog ac yn bwrw Cawodydd trymion oerion. Wil Sion a Robt. Griffith yn Marlio Gwenith yn yr hen Forfa  Dafydd a Harri yn carrio Mawn o Gaegronw ucha


Geiriau Allweddol:
Cyfrannwr: Rwth T.
Cyf. Gwynt: 0
Nerth.Gwynt : 0
Glawiad : -999
Is Tym : -999
Uch Tym: -99
Safle grid:
26/10/1825
Penmorfa, Gwynedd
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon.)

Mercher Diwrnod dwl distaw yn y boreu, yn dwad i fwrw gwlaw dwys claiar yn y Prydnhawn. Wil Sion a Robt. Griffith yn marlio Gwenith yn yr hen Forfa. Dafydd a Harri yn Carrio Mawn o Gaegronw ucha


Geiriau Allweddol:
Cyfrannwr: Rwth T.
Cyf. Gwynt: 0
Nerth.Gwynt : 0
Glawiad : -999
Is Tym : -999
Uch Tym: -99
Safle grid:
27/10/1825
Penmorfa, Gwynedd
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon.)

Iau Diwrnod dwl sych distaw. Y Meibion yn yr hên Forfa yn Marlio Gwenith. Dyn yma o Rôsmaelan yn dweud fod Owen Roberts Tad Owen Roberts Tynlôn wedi marw, a gofyniad i mi ddwad iw Gynhebrwng y foru [sic]


Geiriau Allweddol:
Cyfrannwr: Rwth T.
Cyf. Gwynt: 0
Nerth.Gwynt : 0
Glawiad : -999
Is Tym : -999
Uch Tym: -99
Safle grid:
28/10/1825
Penmorfa, Gwynedd
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon.)

Gwener Diwrnod sych distaw. Y Meibion yn darfod Marlio'r Gwenith yn yr hen Forfa. Fi Ynghynhebrwng Owen Roberts Rhosmaelan y Nghlynog. yn dwad i'r Tynlon y noson


Geiriau Allweddol:
Cyfrannwr: Rwth T.
Cyf. Gwynt: 0
Nerth.Gwynt : 0
Glawiad : -999
Is Tym : -999
Uch Tym: -99
Safle grid:
29/10/1825
Penmorfa, Gwynedd
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon.)

Sadwrn. Diwrnod sych distaw, Y Meibion yn Aredig yr hen Glawdd llanw ac yn rhedeg yr Aradr hyd rychau'r Gwenith oedd wedi ei lyfnu. Fi yn dwad adref o Langybi a'r Tynlon


Geiriau Allweddol:
Cyfrannwr: Rwth T.
Cyf. Gwynt: 0
Nerth.Gwynt : 0
Glawiad : -999
Is Tym : -999
Uch Tym: -99
Safle grid:
30/10/1825
Penmorfa, Gwynedd
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon.)

Sul. Diwrnod dwl


Geiriau Allweddol:
Cyfrannwr: Rwth T.
Cyf. Gwynt: 0
Nerth.Gwynt : 0
Glawiad : -999
Is Tym : -999
Uch Tym: -99
Safle grid:
31/10/1825
Penmorfa, Gwynedd
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon.)

llun. Diwrnod dwl sych. Yn darfod hau Gwenith yn yr hen Forfa. Robt. Griffith yn dyrnu.


Geiriau Allweddol:
Cyfrannwr: Rwth T.
Cyf. Gwynt: 0
Nerth.Gwynt : 0
Glawiad : -999
Is Tym : -999
Uch Tym: -99
Safle grid:
1/11/1825
Penmorfa, Gwynedd
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon.)

Mawrth. Diwrnod sych yn y boreu gwlaw dwys at y Prydnhawn Yn dechreu tynu Cloron at eu cadw, gwlaw yn eu curo at y Prydnhawn


Geiriau Allweddol:
Cyfrannwr: Rwth T.
Cyf. Gwynt: 0
Nerth.Gwynt : 0
Glawiad : -999
Is Tym : -999
Uch Tym: -99
Safle grid:
2/11/1825
Penmorfa, Gwynedd
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon.)

Mercher Diwrnod sych yn y boreu gwlaw dwys at y Prydnhawn  Yn tynu Cloron nes y daeth i fwrw gormod. Fi yn gosod melin wynt ar y Gwenith yn yr hen Forfa


Geiriau Allweddol:
Cyfrannwr: Rwth T.
Cyf. Gwynt: 0
Nerth.Gwynt : 0
Glawiad : -999
Is Tym : -999
Uch Tym: -99
Safle grid:
3/11/1825
Penmorfa, Gwynedd
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon.)

Iau Diwrnod dryghinog ac yn bwrw gwlaw lled drwm ar hyd y dydd. Wil a Dafydd wedi bod y boreu yn y Morfa yn cau yn mynd wedi i wneud rhaffa Robt. Griffith yn Dyrnu, y lloia yn dwad i'r Caea lleppa a'r Caemain


Geiriau Allweddol:
Cyfrannwr: Rwth T.
Cyf. Gwynt: 0
Nerth.Gwynt : 0
Glawiad : -999
Is Tym : -999
Uch Tym: -99
Safle grid:

CANLLAWIAU CHWILIO:

Dyma enghreifftiau o’r codau (“Bwleaidd”) i’w defnyddio wrth chwilio’r Tywyddiadur:

Y chwiliad symlaf yw gair ar ei ben ei hun (ee wennol), neu dau air wedi eu gwahanu gan A, NEU neu DIM (ee. wennol NEU gwennol)

Ond i chwilio ar draws y meysydd:

Rhowch + o flaen pob maes/elfen o’ch chwiliad a : (colon) ar ei ôl..

Dynodir dyddiadau fel diwrnod, mis, blwyddyn (dd/mm/bb)

Ee. I godi pob cofnod sy’n cynnwys Faenol ym mis Ionawr 1877:

+lle:Faenol +mm/bb:1/1877

Dyma ychydig o engreifftiau eraill:

+nodiadau:llosgfynydd +bb:1815

+ffynhonnell:Edwards +nodiadau:moch

+nodiadau:wartheg +nodiadau:ffridd

Mwy yn fan hyn:

Apache Lucene - Query Parser Syntax



Apache Lucene - Query Parser Syntax