Prif nodwedd y gronfa hon yw'r dyddiad, mis neu'r flwyddyn penodol sydd yn sail i'ch cofnod. Mae'r tywydd wrth gwrs yn rhywbeth sydd yn digwydd "rwan", pryd bynnag yw neu oedd "rwan" i'r cofnodwr gwreiddiol; y bore yma efallai, diwrnod arbennig yn eich plentyndod, neu sylw mewn dyddiadur dwy ganrif yn ôl yn sir Feirionnydd.... efallai. Neu efallai bod cysylltiad y sylw a'r tywydd yn ymddangosiadol wan iawn: tylluan wen yn hela am dri o'r gloch y prynhawn ar ddyddiad arbennig o Chwefror; clywed y gog yn canu ddiwedd mis Mawrth; teilo cae at datws ddechrau’r gwanwyn. Tywydd....? efallai! Ffenoleg...? yn bendant.
Mae'r Tywyddiadur yn rhyngweithiol - hynny yw, mi allwch rhoi gwybodaeth i fewn iddo, neu chael gwybodaeth allan. Y cam cyntaf y byddwch yn cymryd wrth fentro ar y dudalen hon felly fydd dewis pa un rydych am ei wneud.... Chwilio ynteu Mewnbynnu (blychod chwilio ar y chwith mewn glas, blychod mewnbynnu ar y dde mewn coch).
(Ewch i’r gwaelod am ganllawiau cychwynnol).
CHWILIO: Chi biau’r dewis: mis neu gyfnod arbennig efallai, blwyddyn, gair (neu ddau air), neu ddiwrnod penodol (treiwch ddyddiad eich pen-blwydd). Cewch wneud cyfuniad o rhain.
MEWNBYNNU: Trwy fewnbynnu cewch ychwanegu at y gronfa a chreu adnodd mwy cynhwysfawr fyth i ymchwilwyr fel chi. Dim ond tri amod sydd ar eich cofnod: ei fod yn cynnwys rhyw fath o ddyddiad, lleoliad (bras neu fanwl), a bod y cofnod rhywfodd yn gysylltiedig â’r amgylchedd.
4/11/1825 | |||||||||||||||||
Penmorfa, Gwynedd | |||||||||||||||||
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon.) | |||||||||||||||||
Gwener Diwrnod sych distaw. Wil a Dafydd y Nghaegronw yn toi y Dâs mawn. Robt. Griffith efo Owen Owens Portreuddyn yn Cau rhwng Buarth yr hen erw a Phortreuddyn. Richard Williams Dolwgan yn edrych y Moch tewion. Fi yn mynd i Drefmadoc [sic] ac yn eu gwerthu i Harri Owen
|
5/11/1825 | |||||||||||||||||
Penmorfa, Gwynedd | |||||||||||||||||
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon.) | |||||||||||||||||
Sadwrn. Diwrnod sych yn y boreu, dylu ac yn dwad i fwrw gwlaw ac yn wyntog ar hyd y dydd. Y Meibion y boreu yn hel y defaid ar fedr eu Cneifio, yn mynd a'r Wyn i'r Cae banadl, yn mynd wedi ddyrnu ac i wneud Panela. Y Ceffylau gwylltion yn mynd i lawr i'r Morfa
|
6/11/1825 | |||||||||||||||||
Penmorfa, Gwynedd | |||||||||||||||||
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon.) | |||||||||||||||||
Sul Diwrnod dwl sych gwyntog, Yn mynd a'r Anner ddu Goeswen at y Tarw
|
7/11/1825 | |||||||||||||||||
Penmorfa, Gwynedd | |||||||||||||||||
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon.) | |||||||||||||||||
llun Diwrnod dwl ac yn bwrw cawodydd o Genllysg Eira yn isel hyd y mynuddau. Yn tynu Cloron iw Cadw
|
8/11/1825 | |||||||||||||||||
Penmorfa, Gwynedd | |||||||||||||||||
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon.) | |||||||||||||||||
Mawrth Diwrnod dwl ac yn bwrw eirwlaw ar hyd y dydd bron Y Meibion yn tynu rhai Cloron
|
9/11/1825 | |||||||||||||||||
Penmorfa, Gwynedd | |||||||||||||||||
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon.) | |||||||||||||||||
Mercher. Diwrnod dwl ac yn bwrw Cawodydd y rhan amlaf. Wil a Dafydd yn agor Cwttar efo ochr y Beudy newydd. Robt. Griffith yn Dyrnu, Yn gosod Clawdd Terfyn rhwng y Caeglas a'r Caea porfa Tymawr i Sion Morris iw wneud am bump swllt y Rhwd
|
10/11/1825 | |||||||||||||||||
Penmorfa, Gwynedd | |||||||||||||||||
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon.) | |||||||||||||||||
Iau. Diwrnod dwl sych ac yn chwythu'n drwm o'r dwyrain. Yn tynu Cloron Fi wedi bod yn Cerrigyrhwydwr yn Cyttuno efo Sion Hugh i ddwad yma'r gauaf
|
11/11/1825 | |||||||||||||||||
Penmorfa, Gwynedd | |||||||||||||||||
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon.) | |||||||||||||||||
Gwener. Diwrnod dwl sych distaw. Yn tynu Cloron iw cadw
|
12/11/1825 | |||||||||||||||||
Penmorfa, Gwynedd | |||||||||||||||||
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon.) | |||||||||||||||||
Sadwrn Diwrnod distaw sych. Ffair y Mhenmorfa. Fi wedi bod yno yn Cyflogi'r Gweision. Y Cyflogau yn uchel
|
13/11/1825 | |||||||||||||||||
Penmorfa, Gwynedd | |||||||||||||||||
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon.) | |||||||||||||||||
Sul. Diwrnod dwl claiar ac yn bwrw gwlaw dwys ar hyd y dydd
|
14/11/1825 | |||||||||||||||||
Penmorfa, Gwynedd | |||||||||||||||||
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon.) | |||||||||||||||||
llun Diwrnod cymylog ac yn bwrw ambell gawod fechan. Yn tynu Cloron yn Buarth yr hen Erw
|
15/11/1825 | |||||||||||||||||
Penmorfa, Gwynedd | |||||||||||||||||
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon.) | |||||||||||||||||
Mawrth. Diwrnod clir sych wedi rhewi peth a barugo neithiwr Yn tynu Cloron yn Buarth yr hen Erw.
|
16/11/1825 | |||||||||||||||||
Penmorfa, Gwynedd | |||||||||||||||||
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon.) | |||||||||||||||||
Mercher. Diwrnod niwliog ac yn gwlithio yn y boreu clirio ac yn sychu at y Prydnhawn. Yn darfod tynu Cloron, ar ol cael tywydd gwlyb iawn
|
17/11/1825 | |||||||||||||||||
Penmorfa, Gwynedd | |||||||||||||||||
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon.) | |||||||||||||||||
Iau Diwrnod dwl ac yn dwad i fwrw gwlaw trwm at ddau o'r gloch. clirio at yr hwyr. Wil Sion a Harri wedi bod yn y Dref. Dafydd yn clirio yr Houwel ac yn gwastadhau ei gwaelod
|
18/11/1825 | |||||||||||||||||
Penmorfa, Gwynedd | |||||||||||||||||
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon.) | |||||||||||||||||
Gwener Diwrnod dwl ac yn bwrw gwlaw agos ar hyd y dydd Fi wedi bod efo Wil a Dafydd yn tori rhai polion yn y Tymawr Lewis, Gwehydd o Lanfrothen yn danfon Gwrthbeni yma. Y Forwyn newydd yn dwad iw lle. Fi heb Fod yn y Farchnad
|
19/11/1825 | |||||||||||||||||
Penmorfa, Gwynedd | |||||||||||||||||
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon.) | |||||||||||||||||
Sadwrn Diwrnod dwl sych. Yn Cneifio, wedi ein dal hyd yn ddiweddar iawn gan gwlybaniaeth. Wm. Williams y Bwlchllechog yma yn prynu'r Caws ac yn eu pwyso. Ellis Williams Cigydd Tremadoc yma yn edrych y Fuwch dew. Robt. Griffith yn ymadael
|
20/11/1825 | |||||||||||||||||
Penmorfa, Gwynedd | |||||||||||||||||
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon.) | |||||||||||||||||
Sul Diwrnod dwl ac yn bwrw gwlaw'n drwm drwy'r Prydnhawn
|
21/11/1825 | |||||||||||||||||
Penmorfa, Gwynedd | |||||||||||||||||
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon.) | |||||||||||||||||
llun Diwrnod dwl ac yn bwrw Cawodydd o wlaw. Y Meibion yn darfod gwasdadhau [sic] o flaen drws yr Ysgubor ac yn chwalu'r Cwt Eithin Fi wedi bod yn Tremadoc Sion Hugh yn dwad yma i ddyrnu ac i Borthi
|
22/11/1825 | |||||||||||||||||
Penmorfa, Gwynedd | |||||||||||||||||
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon.) | |||||||||||||||||
Mawrth Diwrnod dwl gwyntog ac yn bwrw Cawodydd o wlaw a Chenllysg Wil yn cau ac yn dwad a'r Buwchod o'r Caea ucha i'r Caea lleppa a'r Cae main. Dafydd a Harri yn carrio mawn o Gaegronw ucha. Y Clawdd Terfyn rhwng y Tymawr a'r Cae glas wedi cael ei dechreu ddoe
|
23/11/1825 | |||||||||||||||||
Penmorfa, Gwynedd | |||||||||||||||||
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon.) | |||||||||||||||||
Mercher. Diwrnod dwl ac yn bwrw gwlaw mân ar hyd y dydd Dafydd a Harri wedi bod yn Caegronw yn nol siwrna o Fawn yn gollwng wedi o ran bod y Gaseg wedi colli ei Phedol. yn mynd wedi i garrio Gwellt i Feudy Tynybwlch. Wil Sion efo minau yn dechreu gwneud y Cwt Eithin
|
24/11/1825 | |||||||||||||||||
Penmorfa, Gwynedd | |||||||||||||||||
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon.) | |||||||||||||||||
Iau Diwrnod dwl sych yn y boreu yn dwad i fwrw'n ddwys at y Prydnhawn. Wil wedi efo mi yn gweithio peth ar y Cwt Eithin yn y boreu yn mynd wedi i hel cerrig i lawr yn y Gelli fawr nes y daeth i fwrw gormod. Dafydd wedi bod a'r tri Cheffyl gweithio yn Efail Sion Evan. Griffith Griffiths Cwrt ucha yma efo Sion William y Brithdir bach yn ysgrifenu llythur i fynd at Mr. Williams Dolgelley Robt. Thomas y Caecoch yn dwad a 2 Fochyn gadael yma
|
25/11/1825 | |||||||||||||||||
Penmorfa, Gwynedd | |||||||||||||||||
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon.) | |||||||||||||||||
Gwener Diwrnod distaw sych teg. Gwas Evan Evans Cyffeithiwr Crwyn Pwllheli yn dwad yma hanner awr wedi deuddeg y boreu i ddweyd fod fy Mam yn sâl finau yn mynd efo fo yno, yno erbyn pedwar o'r gloch y boreu. Dafydd a Harri yn carrio Mawn o Gaegronw ucha
|
26/11/1825 | |||||||||||||||||
Penmorfa, Gwynedd | |||||||||||||||||
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon.) | |||||||||||||||||
Sadwrn Diwrnod dryghinllyd ac yn bwrw gwlaw'n drwm iawn yn y boreu, Wil Sion yn mynd a'r Drol efo Robt. Sion Hendrahowel i fynd cherrig o'r Allt wen i Fonwent [sic] at wneud gwaith yn y bedd, finau yn mynd yno yn y Prydnhawn
|
27/11/1825 | |||||||||||||||||
Penmorfa, Gwynedd | |||||||||||||||||
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon.) | |||||||||||||||||
Sul. Diwrnod dwl sych yn y boreu gwlaw trwm at y Prydnhawn Fi yn mynd i Bwllheli
|
28/11/1825 | |||||||||||||||||
Penmorfa, Gwynedd | |||||||||||||||||
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon.) | |||||||||||||||||
Llun Diwrnod dwl ac yn bwrw Cawodydd trymion Dydd Claddedigaeth Ann, Gwraig y diweddar Risiart Edwards o Fron Oleu a hunodd y Nhy Evan Evans Cyffeithiwr Crwyn, y Mhwllheli, un o'r gloch y boreu Dydd gwener y 25 dydd o fis Tachwedd yn y flwyddyn MDCCCXXV. Claddwyd hi y Mhenmorfa yn bedair ar ddeg a thriugain Oed [Mae'r cofnod uchod wedi amgáu mewn blwch du]
|
CANLLAWIAU CHWILIO:
Dyma enghreifftiau o’r codau (“Bwleaidd”) i’w defnyddio wrth chwilio’r Tywyddiadur:
Y chwiliad symlaf yw gair ar ei ben ei hun (ee wennol), neu dau air wedi eu gwahanu gan A, NEU neu DIM (ee. wennol NEU gwennol)
Ond i chwilio ar draws y meysydd:
Rhowch + o flaen pob maes/elfen o’ch chwiliad a : (colon) ar ei ôl..
Dynodir dyddiadau fel diwrnod, mis, blwyddyn (dd/mm/bb)
Ee. I godi pob cofnod sy’n cynnwys Faenol ym mis Ionawr 1877:
+lle:Faenol +mm/bb:1/1877
Dyma ychydig o engreifftiau eraill:
+nodiadau:llosgfynydd +bb:1815
+ffynhonnell:Edwards +nodiadau:moch
+nodiadau:wartheg +nodiadau:ffridd
Mwy yn fan hyn:
Apache Lucene - Query Parser Syntax
|