Prif nodwedd y gronfa hon yw'r dyddiad, mis neu'r flwyddyn penodol sydd yn sail i'ch cofnod. Mae'r tywydd wrth gwrs yn rhywbeth sydd yn digwydd "rwan", pryd bynnag yw neu oedd "rwan" i'r cofnodwr gwreiddiol; y bore yma efallai, diwrnod arbennig yn eich plentyndod, neu sylw mewn dyddiadur dwy ganrif yn ôl yn sir Feirionnydd.... efallai. Neu efallai bod cysylltiad y sylw a'r tywydd yn ymddangosiadol wan iawn: tylluan wen yn hela am dri o'r gloch y prynhawn ar ddyddiad arbennig o Chwefror; clywed y gog yn canu ddiwedd mis Mawrth; teilo cae at datws ddechrau’r gwanwyn. Tywydd....? efallai! Ffenoleg...? yn bendant.
Mae'r Tywyddiadur yn rhyngweithiol - hynny yw, mi allwch rhoi gwybodaeth i fewn iddo, neu chael gwybodaeth allan. Y cam cyntaf y byddwch yn cymryd wrth fentro ar y dudalen hon felly fydd dewis pa un rydych am ei wneud.... Chwilio ynteu Mewnbynnu (blychod chwilio ar y chwith mewn glas, blychod mewnbynnu ar y dde mewn coch).
(Ewch i’r gwaelod am ganllawiau cychwynnol).
CHWILIO: Chi biau’r dewis: mis neu gyfnod arbennig efallai, blwyddyn, gair (neu ddau air), neu ddiwrnod penodol (treiwch ddyddiad eich pen-blwydd). Cewch wneud cyfuniad o rhain.
MEWNBYNNU: Trwy fewnbynnu cewch ychwanegu at y gronfa a chreu adnodd mwy cynhwysfawr fyth i ymchwilwyr fel chi. Dim ond tri amod sydd ar eich cofnod: ei fod yn cynnwys rhyw fath o ddyddiad, lleoliad (bras neu fanwl), a bod y cofnod rhywfodd yn gysylltiedig â’r amgylchedd.
27/12/1825 | |||||||||||||||||
Penmorfa, Gwynedd | |||||||||||||||||
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon.) | |||||||||||||||||
Mawrth. Diwrnod dwl wedi bwrw peth eira yn y boreu. Fi efo Wil Sion yn gwneud Cafn Eithin Dafydd yn hel gwiail
|
28/12/1825 | |||||||||||||||||
Penmorfa, Gwynedd | |||||||||||||||||
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon.) | |||||||||||||||||
Mercher Diwrnod dwl wedi rhewi'n galed neithiwr. Yn teilo lludw i Fuarth yr hen Erw. William Williams y Bwlchllechog yma.
|
29/12/1825 | |||||||||||||||||
Penmorfa, Gwynedd | |||||||||||||||||
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon.) | |||||||||||||||||
Iau Diwrnod sych distaw wedi rhewi peth neithiwr, yr eira'n parhau. Y Meibion yn nol llwyth o fawn o Reiniog. Fi wedi bod yn Towyn
|
30/12/1825 | |||||||||||||||||
Penmorfa, Gwynedd | |||||||||||||||||
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon.) | |||||||||||||||||
Gwener Diwrnod sych distaw wedi rhewi peth neithiwr Yn teilo lludw i fuarth yr hen Erw. Fi wedi bod yn Tremadoc yn y Farchnad.
|
31/12/1825 | |||||||||||||||||
Penmorfa, Gwynedd | |||||||||||||||||
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon.) | |||||||||||||||||
Sadwrn Diwrnod sych distaw yn y boreu, yn bwrw peth yn y Prydnhawn. Yn darfod teilo'r lludw i fuarth yr hen Erw, ac yn mynd a llwyth o Wellt i'r Beudy ucha. Fi yn gosod y Trainsia yn yr hen Forfa i Griffith Evan a William Sion am saith geiniog a dimeu y rhwd iw cau a Cherrig
|
1/1/1826 | |||||||||||||||||
Fron Olau, Penmorfa | |||||||||||||||||
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon) | |||||||||||||||||
SUL DYDD CALAN NEWYDD. Diwrnod dwl sych lled wyntog yn y boreu.gwlaw a dryghin at yr hwyr
|
2/1/1826 | |||||||||||||||||
Fron Olau, Penmorfa | |||||||||||||||||
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon) | |||||||||||||||||
llun. Diwrnod dwl gwlawog yn y boreu, sych yn y Prydnhawn. Y Meibion wedi bod yn Reiniog yn nol llwyth o Fawn. Fi wedi bod y Nghynebrwng mab John Williams PantydwrOer yn Llanfrothon [sic. Llanfrothen] oedd wedi marw yn y Wern Penmorfa nos Fercher diwaethaf [sic] mewn llewig [sic. llewyg] ar y gadlas (yard) wrth swpperu y Gwartheg o gwmpas wyth o’r gloch y nos – William Sion a Griffith Evan yn dechreu codi cerrig at gau y Trainsia yn yr hen Forfa
|
2/1/1826 | |||||||||||||||||
Penmorfa, Gwynedd | |||||||||||||||||
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon.) | |||||||||||||||||
Mawrth Diwrnod dwl ac yn bwrw peth Eira. Yn Darllaw. Hugh Evans Tyn y Maes Criccieth yn galw yma Sion Hugh yn Dyrnu Gwenith
|
3/1/1826 | |||||||||||||||||
Fron Olau, Penmorfa | |||||||||||||||||
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon) | |||||||||||||||||
Mawrth Diwrnod dwl sych oer. Yn dwad a’r llwyth diwaethaf o Fawn o Reiniog Mrs. Jones y Siop a Mrs.Jones.yr Ysgolfeistres Tremadoc yma
|
4/1/1826 | |||||||||||||||||
Fron Olau, Penmorfa | |||||||||||||||||
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon) | |||||||||||||||||
Mercher Diwrnod sych oer gwyntog wedi rhewi peth neithiwr. Yn dechreu teilo oddiwrth y Beudy newydd i’r Caelleppa isa. Yn cael Sieced [sic. siaced] lwyd newydd o dy’r Tailiwr [sic. teiliwr]
|
5/1/1826 | |||||||||||||||||
Fron Olau, Penmorfa | |||||||||||||||||
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon) | |||||||||||||||||
Iau Diwrnod dwl sych oer gwyntog. Yn teilo oddiwrth y Beudy newydd i’r Caelleppa isa.
|
7/1/1826 | |||||||||||||||||
Fron Olau, Penmorfa | |||||||||||||||||
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon) | |||||||||||||||||
Sadwrn Diwrnod sych gwyntog . Yn teilo oddiwrth y Beudy newydd ir Caelleppa isa. Fi wedi bod y Mhenmorfa [sic]
|
8/1/1826 | |||||||||||||||||
Fron Olau, Penmorfa | |||||||||||||||||
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon) | |||||||||||||||||
SUL Diwrnod sych gwyntog wedi rhewi’n galed neithiwr
|
9/1/1826 | |||||||||||||||||
Fron Olau, Penmorfa | |||||||||||||||||
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon) | |||||||||||||||||
llun. Diwrnod sych distaw wedi rhewi’n galed neithiwr Dafydd wedi bod a’r Ceffylau gweithio yn Efail Sion Evan yn durio eu Pedolau, ac yn mynd ac Olwynion y Drol i’r Dref at Robt.Prisiart y Saer iw trwsio. Ellis Williams cigydd o Drefmadog yma’n lladd y Fuwch. Wil Sion yn danfon y Croen i’r Plasnewydd. Fy Ewythr Owen Edwards Tyddynygwynt yma’n talu ei Ardreth
|
10/1/1826 | |||||||||||||||||
Fron Olau, Penmorfa | |||||||||||||||||
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon) | |||||||||||||||||
Mawrth. Diwrnod dwl distaw sych wedi rhewi’n galed neithiwr Yn teilo oddiwrth y Beudy newydd i’r Caelleppa isa. Ellis William [sic] y Cigydd yma’n torri’r Fuwch Yn bwrw Eira tew efo’r nos
|
11/1/1826 | |||||||||||||||||
Fron Olau, Penmorfa | |||||||||||||||||
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon) | |||||||||||||||||
Mercher Diwrnod distaw ac yn bwrw ambell gawod o Eira, yr Eira yn parhau. Yn teilo oddiwrth y Beudy ucha i ben isa’r Weirglawdd [sic] ucha
|
12/1/1826 | |||||||||||||||||
Fron Olau, Penmorfa | |||||||||||||||||
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon) | |||||||||||||||||
Iau. Diwrnod sych distaw teg wedi rhewi peth neithiwr yr Eira’n parhau. Yn teilo oddiwrth y Beudy ucha i ben isa’r Weirglawdd ucha
|
13/1/1826 | |||||||||||||||||
Fron Olau, Penmorfa | |||||||||||||||||
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon) | |||||||||||||||||
Gwener Diwrnod sych distaw wedi rhewi’n galed neithiwr yn [sic. ‘yn’ wedi ei groesi allan] yr Eira n [sic] parhau. Yn teilo oddiwrth y Beudy ucha i ben isa’r Weirglawdd ucha Fi wedi bod yn Tremadoc yn y Farchnad. Yn gwerthu’r Ymenun [sic] i Richard Jones yn dwad yma iw bwyso ac yn cysgu yma
|
14/1/1826 | |||||||||||||||||
Fron Olau, Penmorfa | |||||||||||||||||
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon) | |||||||||||||||||
Sadwrn. Diwrnod sych distaw wedi rhewi’n galed yr Eira yn parhau. Yn darfod teilo oddiwrth y Beudy ucha i ben isa’r Weirglawdd ucha. Wedi bod yn y Dref yn danfon yr ymenun [sic. tanlinellu]. Wm.Jones y chwarelwr wedi bod yma
|
15/1/1826 | |||||||||||||||||
Fron Olau, Penmorfa | |||||||||||||||||
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon) | |||||||||||||||||
SUL Diwrnod distaw sych wedi rhewi’n galed neithiwr yr Eira’n parhau
|
16/1/1826 | |||||||||||||||||
Fron Olau, Penmorfa | |||||||||||||||||
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon) | |||||||||||||||||
llun Diwrnod distaw sych, Y Meibion yn mynd i’r Tymawr i ddechreu Teilo
|
17/1/1826 | |||||||||||||||||
Fron Olau, Penmorfa | |||||||||||||||||
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon) | |||||||||||||||||
Mawrth Diwrnod distaw sych, yn meirioli peth, yr Eira yn parhau. Y Meibion yn y Tymawr yn Teilo. Fi wedi bod yn Tremadoc
|
18/1/1826 | |||||||||||||||||
Fron Olau, Penmorfa | |||||||||||||||||
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon) | |||||||||||||||||
Mercher. Diwrnod dwl distaw yn meirioli ac yn dwad i fwrw gwlaw yn drwm at hanner dydd. Yn teilo yn y Tymawr. Fi wedi bod y [sic] Llanfihangel y Pennant y Nghynebrwng Elin.Gwraig Morris Dafydd Braich y Dinas, gartref cyn y nos
|
19/1/1826 | |||||||||||||||||
Fron Olau, Penmorfa | |||||||||||||||||
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon) | |||||||||||||||||
Iau Diwrnod dwl sych mwll. Yn darfod teilo yn y Tymawr ac yn teilo peth oddiwrth y Beudy newydd i’r Buarth gwyn
|
20/1/1826 | |||||||||||||||||
Fron Olau, Penmorfa | |||||||||||||||||
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon) | |||||||||||||||||
Gwener Diwrnod dwl distaw mwll. Yn dechreu Aredig yn Cae’r hendra Fi wedi bod yn Tremadoc yn y Farchnad. Sion Hugh a Mari yn puro’r Haidd
|
CANLLAWIAU CHWILIO:
Dyma enghreifftiau o’r codau (“Bwleaidd”) i’w defnyddio wrth chwilio’r Tywyddiadur:
Y chwiliad symlaf yw gair ar ei ben ei hun (ee wennol), neu dau air wedi eu gwahanu gan A, NEU neu DIM (ee. wennol NEU gwennol)
Ond i chwilio ar draws y meysydd:
Rhowch + o flaen pob maes/elfen o’ch chwiliad a : (colon) ar ei ôl..
Dynodir dyddiadau fel diwrnod, mis, blwyddyn (dd/mm/bb)
Ee. I godi pob cofnod sy’n cynnwys Faenol ym mis Ionawr 1877:
+lle:Faenol +mm/bb:1/1877
Dyma ychydig o engreifftiau eraill:
+nodiadau:llosgfynydd +bb:1815
+ffynhonnell:Edwards +nodiadau:moch
+nodiadau:wartheg +nodiadau:ffridd
Mwy yn fan hyn:
Apache Lucene - Query Parser Syntax
|