Llên Natur
Llên Natur

Y Tywyddiadur

Prif nodwedd y gronfa hon yw'r dyddiad, mis neu'r flwyddyn penodol sydd yn sail i'ch cofnod. Mae'r tywydd wrth gwrs yn rhywbeth sydd yn digwydd "rwan", pryd bynnag yw neu oedd "rwan" i'r cofnodwr gwreiddiol; y bore yma efallai, diwrnod arbennig yn eich plentyndod, neu sylw mewn dyddiadur dwy ganrif yn ôl yn sir Feirionnydd.... efallai. Neu efallai bod cysylltiad y sylw a'r tywydd yn ymddangosiadol wan iawn: tylluan wen yn hela am dri o'r gloch y prynhawn ar ddyddiad arbennig o Chwefror; clywed y gog yn canu ddiwedd mis Mawrth; teilo cae at datws ddechrau’r gwanwyn. Tywydd....? efallai! Ffenoleg...? yn bendant.

Mae'r Tywyddiadur yn rhyngweithiol - hynny yw, mi allwch rhoi gwybodaeth i fewn iddo, neu chael gwybodaeth allan. Y cam cyntaf y byddwch yn cymryd wrth fentro ar y dudalen hon felly fydd dewis pa un rydych am ei wneud.... Chwilio ynteu Mewnbynnu (blychod chwilio ar y chwith mewn glas, blychod mewnbynnu ar y dde mewn coch).

(Ewch i’r gwaelod am ganllawiau cychwynnol).

CHWILIO: Chi biau’r dewis: mis neu gyfnod arbennig efallai, blwyddyn, gair (neu ddau air), neu ddiwrnod penodol (treiwch ddyddiad eich pen-blwydd). Cewch wneud cyfuniad o rhain.

MEWNBYNNU: Trwy fewnbynnu cewch ychwanegu at y gronfa a chreu adnodd mwy cynhwysfawr fyth i ymchwilwyr fel chi. Dim ond tri amod sydd ar eich cofnod: ei fod yn cynnwys rhyw fath o ddyddiad, lleoliad (bras neu fanwl), a bod y cofnod rhywfodd yn gysylltiedig â’r amgylchedd.




Oriel

Tywyddiadur

owen-edwards

2,631 cofnodion a ganfuwyd.
19/7/1820
Fron Olau, Penmorfa
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon)

Dydd mercher. Diwrnod gwresog hynod. Fi yn trwsio Llidiart Cae’r Lloia Y Buchod yn mynd i’r Morfa a’r Lloia i’r Henerw, Y Meibion yn gorphen Lladd gwair Cae’r Hendra. Y Merched yn coccio gwair Hendratyfi a buarth tair derwan [sic], dechreu lladd gwair buarthgwyn


Geiriau Allweddol:
Cyfrannwr: Brenda Jones
Cyf. Gwynt: 0
Nerth.Gwynt : 0
Glawiad : -999
Is Tym : -999
Uch Tym: -99
Safle grid:
20/7/1820
Fron Olau, Penmorfa
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon)

Dydd iau  Diwrnod dwl tebig i wlaw yn y boreu ac yn wres at y Prydnhawn  Cathrine Morris a Mary Caeglas yma yn coccio Cae’r Hendra ac yn tyrru gwair Hendratyfi a buarth tair derwen Y Meibion yn Gorphen Lladd gwair Dâs Beudy Newydd. Fi saethu Llygoden ffreinig [sic] wrth y Pistill. Y Colomenod wedi mynd i Ffwrdd


Geiriau Allweddol:
Cyfrannwr: Brenda Jones
Cyf. Gwynt: 0
Nerth.Gwynt : 0
Glawiad : -999
Is Tym : -999
Uch Tym: -99
Safle grid:
21/7/1820
Fron Olau, Penmorfa
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon)

Dydd gwener Diwrnod dwl yn y boreu, gwres brâf at hanner Dydd  dechreu carrio gwar [sic gwair?] ar ol Ciniaw  Cathrine Morris, Mary Caeglas ac Elin Pantllwyd yma, Chwaer Neli yma, Dyn o Ffestiniog oedd yn gwneud Cisd ar Fedd fy Mrodyr yma yn dweud ei bod yn barod


Geiriau Allweddol:
Cyfrannwr: Brenda Jones
Cyf. Gwynt: 0
Nerth.Gwynt : 0
Glawiad : -999
Is Tym : -999
Uch Tym: -99
Safle grid:
22/7/1820
Fron Olau, Penmorfa
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon)

Dydd Sadwrn  Diwrnod dwl ac yn bwrw peth, prysurdeb mawr yn Mwdyly [sic]  gwair yn Caemain a pheth o wair y buarth gwyn ac yn coccio’r llall a gwair y ddau Caelleppa. Gwair Cae’rhendra a Hendratyfi a buarth tair derwen wedi ei gario ddoe. gwlaw trwm at y Prydnhawn. y Meibion yn hel Tô at ac yn toi Dâs y morfa  Dic wedi bod a Farmer [ceffyl] yn yr Efail. yn lladd peth gwair yn Wernclowna


Geiriau Allweddol:
Cyfrannwr: Brenda Jones
Cyf. Gwynt: 0
Nerth.Gwynt : 0
Glawiad : -999
Is Tym : -999
Uch Tym: -99
Safle grid:
23/7/1820
Fron Olau, Penmorfa
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon)

Dydd Sul  Diwrnod dwl cymylog heb fwrw dim gwlaw 


Geiriau Allweddol:
Cyfrannwr: Brenda Jones
Cyf. Gwynt: 0
Nerth.Gwynt : 0
Glawiad : -999
Is Tym : -999
Uch Tym: -99
Safle grid:
24/7/1820
Fron Olau, Penmorfa
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon)

Dydd llun  Diwrnod teg ac weithiau’n lled ddwl  Y Meibion rai yn gwneud pen Dâs Caegoronw ar lleill yn Carrio Tô atto  Fi yn mynd I Dremadoc yn y Prydnhawn. Yn bwrw peth gwlaw. Will a sion Morris yn toi Dâs Caegoronw


Geiriau Allweddol:
Cyfrannwr: Brenda Jones
Cyf. Gwynt: 0
Nerth.Gwynt : 0
Glawiad : -999
Is Tym : -999
Uch Tym: -99
Safle grid:
25/7/1820
Fron Olau, Penmorfa
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon)

 Dydd Mawrth  Diwrnod anwadal. Fi yn cychwyn y Meibion i Gaegoronw i wneud mawn, yn dwad i dywynu haul yn eu gyru i’r buarth gwyn i chalu [sic] cocia eu stopio ar ol iddynt chwalu ‘chydig  a gwneud iddyn ei fwdylu. a byta eu ciniaw, ac yna mynd i Gaegoronw i wneud mawn wedi’r anwadalwch. Mam yn sâl o’r hen gyrsia a fyddai arferol gael. Fi yn mynd i Ffestiniog i edrych y Beddlechau at Fedd fy Mrodyr ac yn gwneuthud yr Englyn Canlynol i Domas Owen Ffestiniog ynghlyn iddo gymeryd gofal am dorri’n iawn ar y garreg fedd.

 Gwyliwch roi gwaeledd wrth dori    Masw                                         

Os misio wna Twmi                                                                                

Gwrthuni roi gwarth arni                                           [ysgrifen yn aneglur] Sal Iawn yn wir [?]

Feddlêch hardd heb fael i chwi                                  

 



Geiriau Allweddol:
Cyfrannwr: BJ
Cyf. Gwynt: 0
Nerth.Gwynt : 0
Glawiad : -999
Is Tym : -999
Uch Tym: -99
Safle grid:
26/7/1820
Fron Olau, Penmorfa
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon)

Dydd Mercher  Diwrnod dwl, ond yn sychu’n lled dda yn taenu [darlun o jwg a chwpan ar ochr y dudalen] gwair buarth gwyn a’r Cae main yn dechreu Carrio o gwmpas un o’r gloch yn ofni gwlaw yn arw. Y Meibion wedi bod y boreu yn gorphen lladd gwair Caetycoch  Cathrine Morris, Elin Pantllwyd a Elin Robert Griffith Prenteg yma. yn Clirio’n brâf at yr Hwyr

 



Geiriau Allweddol:
Cyfrannwr: BJ
Cyf. Gwynt: 0
Nerth.Gwynt : 0
Glawiad : -999
Is Tym : -999
Uch Tym: -99
Safle grid:
27/7/1820
Fron Olau, Penmorfa
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon)

Dydd iau  Diwrnod Dwl claiar ac yn bwrw peth  Y Meibion yn lladd gwair yn y Weirglawdd ucha yn y boreu. yn mynd ar ol Ciniaw i Gaegoronw i wneud mawn. Dic yn mynd a Thelaid o Wenith i Felin rhydbenllaig i’w falu, Thomas Owen Ffestiniog yma yn ymofyn Cynllun i’w roi ar Feddlech fy mrodyr. Elizabeth Griffith Llangybi an dwad ac Aderyn bach yma mewn Caits a Dwy Golomen

 



Geiriau Allweddol:
Cyfrannwr: BJ
Cyf. Gwynt: 0
Nerth.Gwynt : 0
Glawiad : -999
Is Tym : -999
Uch Tym: -99
Safle grid:
28/7/1820
Fron Olau, Penmorfa
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon)

Dydd Gwener  Diwrnod teg y Meibion yn mynd ar ol brecwest [sic] i Gaegoronw isa i wneud mawn yn dwad i lawr at a Giniaw i daenu gwair y ddau Gaelleppa ac yn ei garrio  Diwedd carrio Dâs y beudy newydd. Trol Llangybi yn dwad yma i nol y gwlan Deuddeg pwys am Ddeg swllt y pwys. Elin yn mynd efo’i Mam i fynd i ymdrochi i ffynnon Nantcyll  Fi yn gosod bocs y Colomenod ar dalcen y Ty, ac yn rhoi y Colomenod ynddo a rhwyd ar wyneb y bocs


Geiriau Allweddol:
Cyfrannwr: BJ
Cyf. Gwynt: 0
Nerth.Gwynt : 0
Glawiad : -999
Is Tym : -999
Uch Tym: -99
Safle grid:
29/7/1820
Prenteg, Penmorfa
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Prenteg

Dydd Sadwrn Diwrnod lled ddwl ond yn sychu'n bur dda. Yn carrio gwair Gwernclowna a'r Caetycoch. Fi yn tynu y rhwyd oddiar Focs y Colomenod hwytha yn mynd i ffwrdd. John Hugh Cerrig y rhwydwr yn ymadael o'r Cynhauaf [sic. cynhaeaf] wedi bod yma Fis a dau ddiwrnod


Geiriau Allweddol:
Cyfrannwr: BJ > DB
Cyf. Gwynt: 0
Nerth.Gwynt : 0
Glawiad : -999
Is Tym : -999
Uch Tym: -99
Safle grid:
30/7/1820
Penmorfa, Gwynedd
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon.)

Dydd Sul. Diwrnod gwresog. Fi wedi bod yn y Llan. y Colomenod wedi dwad yn ol. Fi yn mynd i Dremadoc y Prynhawn ac yn ymdroi hyd hanner nos efo Morris Jones Siopwr a Robt Jones Tafarnwr.


Geiriau Allweddol:
Cyfrannwr: Rwth T.
Cyf. Gwynt: 0
Nerth.Gwynt : 0
Glawiad : -999
Is Tym : -999
Uch Tym: -99
Safle grid:
31/7/1820
Penmorfa, Gwynedd
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon.)

Dydd llun. Diwrnod teg yn y boreu, yn dwad i fwrw Cawodydd yn y Prydnhawn. Yn mwdylu [sic] ac yn cocio gwair pen isaf y weirglawdducha. Y  Meibion yn gorphen Lladd gwair. Morris Dafudd yma'n lladd gwair am fenthig y Tarw yn trwsio peth ar Ddai [sic (tas? tai - treiglad ar dreiglad, mae OE yn gwneud hyn ee tas > y ddas efallai] y Beudy newydd yn y Prydnhawn yn dwad yn wlaw trwm cyn y nos.


Geiriau Allweddol:
Cyfrannwr: Rwth T.
Cyf. Gwynt: 0
Nerth.Gwynt : 0
Glawiad : -999
Is Tym : -999
Uch Tym: -99
Safle grid:
1/8/1820
Penmorfa, Gwynedd
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon.)

Dydd Mawrth. Cawodydd trymion yn y boreu a gwynt trwm iawn ar hyd y Dydd. Guto ac Ellis a'r Merched yn gorphen gwneud mawn Caegoronw isa y ddau yn mynd i gau rhwng dwy Weirglawdd Cae goronw ac yn Cau o gwmpas y Das Mawn ucha. Y lleill yn Carrio To at ddas y Beudy newydd. Harry Edward Hendrasela yma yn gofyn a gai hel To yn y Morfa ac yn cael cennad i wneud. ..........


Geiriau Allweddol:
Cyfrannwr: Rwth T.
Cyf. Gwynt: 0
Nerth.Gwynt : 0
Glawiad : -999
Is Tym : -999
Uch Tym: -99
Safle grid:
2/8/1820
Penmorfa, Gwynedd
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon.)

Dydd Mercher. Diwrnod dwl gwyntog yn y boreu yn dwad yn Diwrnod da at ganol dydd gwynt trwm trwy dydd yn trin gwair y Weirglawdd ucha ac yn ei garrio i gyd hyd at 'chydig o fwdwlau, gwlaw trwm yn ein dal cyn y nos. Y cwbl wedyn yn mynd i'r Dremadoc i wrando ar John Elias Pregethwr mawr a phoblogaidd  ymhlith y Methodistiaid Calfinaidd sydd yn goresgyn y rhan hon o'r Wlad. ........... Doctor Jones Tremadoc yma yn y Prydnhawn yn yfed Te ac yn swpera.


Geiriau Allweddol:
Cyfrannwr: Rwth T.
Cyf. Gwynt: 0
Nerth.Gwynt : 0
Glawiad : -999
Is Tym : -999
Uch Tym: -99
Safle grid:
3/8/1820
Penmorfa, Gwynedd
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon.)

Dydd iau. Diwrnod lled niwlog ac yn bwrw gwlaw lled drwm. Mab Will Dafydd James yma y boreu cyn i ni godi yn ymofyn hynu o arian oedd yn dwad iddo oddiwrth y Degwm blith yn gofyn am Arian Pasg minau yn dweyd na thalwn monun, fyntau, yn dweyd y rhoi o nhw--i mi minau yn dweyd nad oedd arnai'i eisiau i neb eu rhoi i mi, nathalswn i erioed monunt ac na thalwn monunt chwaith ac ar hynnu y fo yn mynd i ffwrdd.  Will a Sionun Morus yn rhaffio Das Caegoronw. Y Dau arall yn torri rhedyn yn Caeglas. Fi yn mynd at y Beudy uchaf ar gwn bach efo mi, yn Saethu Bran yn y Caelleppa ucha wrth ddyfod i lawr, ac yn brifo un arall.


Geiriau Allweddol:
Cyfrannwr: Rwth T.
Cyf. Gwynt: 0
Nerth.Gwynt : 0
Glawiad : -999
Is Tym : -999
Uch Tym: -99
Safle grid:
4/8/1820
Penmorfa, Gwynedd
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon.)

Dydd gwener yn bwrw cawodydd trymion yn y boreu ac yn dwad i sychu'n dda y Prydnhawn, Y Meibion yn gwneud mawn yn y Reiniog. Fi yn mynd i Dremadoc i'r Farchnad


Geiriau Allweddol:
Cyfrannwr: Rwth T.
Cyf. Gwynt: 0
Nerth.Gwynt : 0
Glawiad : -999
Is Tym : -999
Uch Tym: -99
Safle grid:
5/8/1820
Penmorfa, Gwynedd
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon.)

Dydd Sadwrn Diwrnod lled wyntog ac yn sychu yn bur dda. yn gorphen cael y gwair. Fi yn mynd i Langybi. Ellis Evans a Sion Morris y Pladurwrs yn ymadael. Gwlaw trwm iawn y Prydnhawn


Geiriau Allweddol:
Cyfrannwr: Rwth T.
Cyf. Gwynt: 0
Nerth.Gwynt : 0
Glawiad : -999
Is Tym : -999
Uch Tym: -99
Safle grid:
6/8/1820
Penmorfa, Gwynedd
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon.)

Dydd Sul Fi yn Llangybi


Geiriau Allweddol:
Cyfrannwr: Rwth T.
Cyf. Gwynt: 0
Nerth.Gwynt : 0
Glawiad : -999
Is Tym : -999
Uch Tym: -99
Safle grid:
7/8/1820
Penmorfa, Gwynedd
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon.)

 Dydd llunDiwrnod teg lled wyntog ac yn bygwth gwlaw yn y Prydnhawn.Y Meibion yn gorphen hel gwair o gwmpas yd y Cae canol a'r Gelliwasdad


Geiriau Allweddol:
Cyfrannwr: Rwth T.
Cyf. Gwynt: 0
Nerth.Gwynt : 0
Glawiad : -999
Is Tym : -999
Uch Tym: -99
Safle grid:
8/8/1820
Penmorfa, Gwynedd
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon.)

Dydd Mawrth Diwrnod gwyntog dryghinllyd. Yn Troi y Dau Eidion a naw o'r Lloia i'r Morfa rhif un o ba rai wyth ohonunt oedd yn cael i diddyfnu Y Buchod yn mynd i Gae'r hafotty a'r lloi eraill o'r hen erw. Gosod Degwm Yd yn nhy Richd Thomas Penmorfa. Fi yn mynd yno ac yn cymeryd Parsel oddiar yr allt am ddwy bunt ar bwmtheg a deg swllt. Gwlaw trwm iawn y Prydnhawn Will yn dwad ar Ceffyl i mi i Benmorfa Finau yn dyfod adref erbyn naw o'r gloch y nos


Geiriau Allweddol:
Cyfrannwr: Rwth T.
Cyf. Gwynt: 0
Nerth.Gwynt : 0
Glawiad : -999
Is Tym : -999
Uch Tym: -99
Safle grid:
9/8/1820
Penmorfa, Gwynedd
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon.)

Dydd Mercher Diwrnod teg distaw. Robert Sion Hendrahowel yn dwad yma i rundro'r Ty.


Geiriau Allweddol:
Cyfrannwr: Rwth T.
Cyf. Gwynt: 0
Nerth.Gwynt : 0
Glawiad : -999
Is Tym : -999
Uch Tym: -99
Safle grid:
10/8/1820
Penmorfa, Gwynedd
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon.)

Dydd iau Diwrnod teg Cymylog Y Meibion yn toi Das y Beudy newydd Fi yn gwerthu dwy ddynewid i Evan Williams y Rhosgill gynt am Ddeg punt Fi yn mynd i Dremadoc i nol hoelion i Robt Griffith y saer oedd wedi dyfod yma boreu heddyw


Geiriau Allweddol:
Cyfrannwr: Rwth T.
Cyf. Gwynt: 0
Nerth.Gwynt : 0
Glawiad : -999
Is Tym : -999
Uch Tym: -99
Safle grid:
11/8/1820
Penmorfa, Gwynedd
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon.)

Dydd gwener. Diwrnod teg Y Meibion yn toi Das y Beudy ucha Fi yn mynd i Dyddyn Elen yn y Prydnhawn ac yn cysgu yno y noson


Geiriau Allweddol:
Cyfrannwr: Rwth T.
Cyf. Gwynt: 0
Nerth.Gwynt : 0
Glawiad : -999
Is Tym : -999
Uch Tym: -99
Safle grid:
12/8/1820
Penmorfa, Gwynedd
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon.)

Dydd Sadwrn Diwrnod teg mwll. Fi yn Tyddyn Elen Elizabeth Griffith Llangybi yn dwad yno. i fynu iSiarad efo Mr. Williams Twrna. yngylch Cyfraith au Release Tyn lon Llangybi yn mynd heibio i Benrhos i Mr Williams heb fod gartref ni'yn mynd i Gaernarfon i'r Ffair ac yn Siarad efo Mr. Williams yno. Fi yn dwad adref erbyn deg o'r gloch y nos.


Geiriau Allweddol:
Cyfrannwr: Rwth T.
Cyf. Gwynt: 0
Nerth.Gwynt : 0
Glawiad : -999
Is Tym : -999
Uch Tym: -99
Safle grid:

CANLLAWIAU CHWILIO:

Dyma enghreifftiau o’r codau (“Bwleaidd”) i’w defnyddio wrth chwilio’r Tywyddiadur:

Y chwiliad symlaf yw gair ar ei ben ei hun (ee wennol), neu dau air wedi eu gwahanu gan A, NEU neu DIM (ee. wennol NEU gwennol)

Ond i chwilio ar draws y meysydd:

Rhowch + o flaen pob maes/elfen o’ch chwiliad a : (colon) ar ei ôl..

Dynodir dyddiadau fel diwrnod, mis, blwyddyn (dd/mm/bb)

Ee. I godi pob cofnod sy’n cynnwys Faenol ym mis Ionawr 1877:

+lle:Faenol +mm/bb:1/1877

Dyma ychydig o engreifftiau eraill:

+nodiadau:llosgfynydd +bb:1815

+ffynhonnell:Edwards +nodiadau:moch

+nodiadau:wartheg +nodiadau:ffridd

Mwy yn fan hyn:

Apache Lucene - Query Parser Syntax



Apache Lucene - Query Parser Syntax