Prif nodwedd y gronfa hon yw'r dyddiad, mis neu'r flwyddyn penodol sydd yn sail i'ch cofnod. Mae'r tywydd wrth gwrs yn rhywbeth sydd yn digwydd "rwan", pryd bynnag yw neu oedd "rwan" i'r cofnodwr gwreiddiol; y bore yma efallai, diwrnod arbennig yn eich plentyndod, neu sylw mewn dyddiadur dwy ganrif yn ôl yn sir Feirionnydd.... efallai. Neu efallai bod cysylltiad y sylw a'r tywydd yn ymddangosiadol wan iawn: tylluan wen yn hela am dri o'r gloch y prynhawn ar ddyddiad arbennig o Chwefror; clywed y gog yn canu ddiwedd mis Mawrth; teilo cae at datws ddechrau’r gwanwyn. Tywydd....? efallai! Ffenoleg...? yn bendant.
Mae'r Tywyddiadur yn rhyngweithiol - hynny yw, mi allwch rhoi gwybodaeth i fewn iddo, neu chael gwybodaeth allan. Y cam cyntaf y byddwch yn cymryd wrth fentro ar y dudalen hon felly fydd dewis pa un rydych am ei wneud.... Chwilio ynteu Mewnbynnu (blychod chwilio ar y chwith mewn glas, blychod mewnbynnu ar y dde mewn coch).
(Ewch i’r gwaelod am ganllawiau cychwynnol).
CHWILIO: Chi biau’r dewis: mis neu gyfnod arbennig efallai, blwyddyn, gair (neu ddau air), neu ddiwrnod penodol (treiwch ddyddiad eich pen-blwydd). Cewch wneud cyfuniad o rhain.
MEWNBYNNU: Trwy fewnbynnu cewch ychwanegu at y gronfa a chreu adnodd mwy cynhwysfawr fyth i ymchwilwyr fel chi. Dim ond tri amod sydd ar eich cofnod: ei fod yn cynnwys rhyw fath o ddyddiad, lleoliad (bras neu fanwl), a bod y cofnod rhywfodd yn gysylltiedig â’r amgylchedd.
14/2/1826 | |||||||||||||||||
Fron Olau, Penmorfa | |||||||||||||||||
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon) | |||||||||||||||||
Iau. Diwrnod sych distaw wedi bwrw gwlaw’n drwm neithiwr Yn mynd a llwyth o wair o’r Morfa i’r Beudy ucha, ac yn dwad a llwyth o’r Morfa i’r Marchdai. Yn planu Cloron gyntaf eleni [sic]. William Sion a Griffith Evan yn darfod y Trainsia yn yr hên Forfa
|
15/2/1826 | |||||||||||||||||
Fron Olau, Penmorfa | |||||||||||||||||
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon) | |||||||||||||||||
Mercher. Diwrnod dwl sych gwyntog. Yn darfod marlio Gwenith yn yr hen Glawdd llanw yn yr hên Forfa, Gwlaw a dryghin at y Prydnhawn. Sion Hugh a Neli yn nithio ac yn puro Gwenith
|
17/2/1826 | |||||||||||||||||
Fron Olau, Penmorfa | |||||||||||||||||
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon) | |||||||||||||||||
Gwener Diwrnod cymylog ac yn bwrw ambell gawod. Yn rhoi dau Lwyth o Gloron i mewn, ac yn rhoi,helm Haidd i mewn. Dafydd wedi mynd i Briodas Sionun Ellis ei frawd i’r Towyn. Fi wedi bod yn Tremadoc yn y Farchnad Elizabeth Griffith Llangybi yn dwad yma
|
18/2/1826 | |||||||||||||||||
Fron Olau, Penmorfa | |||||||||||||||||
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon) | |||||||||||||||||
Sadwrn Diwrnod cymylog ac yn bwrw Cawodydd o Genllysg wedi bwrw Eira tew hyd y Mynyddau. Wil a Dafydd yn Codi’r Celyn rhwng y ddwy Ardd ac yn eu planu efo’r Ffordd ty ucha i ddrws y Ty. Elizabeth Griffith Llangybi yn mynd adref. Yn cael Ystenaid [llond piser] o Gwrw o’r Undeb Tremadoc
|
19/2/1826 | |||||||||||||||||
Fron Olau, Penmorfa | |||||||||||||||||
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon) | |||||||||||||||||
SUL Diwrnod dwl lled oer ar ol Gwynt a Gwlaw trwm iawn neithiwr
|
20/2/1826 | |||||||||||||||||
Fron Olau, Penmorfa | |||||||||||||||||
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon) | |||||||||||||||||
llun Diwrnod sych distaw. Yn darfod planu’r [sic] Celyn ty ucha i ddrws y TY erbyn canol dydd, yn mynd wedi [sic] i deilo i’r Ardd Gloron pen ucha i Hendratyfi Fi wedi bod yn TREMADOC [sic] yn nol hoelion at wneud at [sic. y geiriau ‘wneud at’ wedi eu croesi allan] roi cledrau oddiwrth Adwy’r Morfa at Feudy’r morfa
|
21/2/1826 | |||||||||||||||||
Fron Olau, Penmorfa | |||||||||||||||||
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon) | |||||||||||||||||
Mawrth Diwrnod sych distaw. Yn Aredig yn y Weirglawdd ucha. Dafydd yn gorphen chwalu tail yn Weirglawdd isa’r Tymawr, Yn rhoi yr hwch ar Mochyn i fewn iw pesgi at eu lladd. Gwlaw yn y Prydnhawn a dryghinllyd
|
22/2/1826 | |||||||||||||||||
Fron Olau, Penmorfa | |||||||||||||||||
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon) | |||||||||||||||||
Mercher Diwrnod sych teg ar ôl gwlaw trwm yn y boreu, Gwyntog ar hyd y dydd Yn mynd i’r Weirglawdd ucha ddaliad y Prydnhawn ac yn darfod Aredig yno Dafydd yn torri lle i wneud clawdd o flaen drws y Ty. Wil a minau [sic] wedi bod yn codi [darlun o blanhigyn tebyg i goeden heb ddail] yn buarth yr hen Erw
|
23/2/1826 | |||||||||||||||||
Fron Olau, Penmorfa | |||||||||||||||||
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon) | |||||||||||||||||
Iau Diwrnod dwl distaw sych. Wil Sion wedi bod a’r Ceffylau Gweithio yn Efail Sion Evan yn ail osod eu Pedolau. Dafydd yn y Gelli fawr yn Codi Cerrig at Bentanau adwy Cae’r lloia, Yn ^ eu [sic] carrio yno ddaliad y Prydnhawn –
|
24/2/1826 | |||||||||||||||||
Fron Olau, Penmorfa | |||||||||||||||||
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon) | |||||||||||||||||
Gwener Diwrnod sych yn y boreu gwlaw trwm yn y Prydnhawn. Wil Sion a Harri yn carrio mawn o Gaegronw ucha. Sion Hugh a Dafydd yn planu [sic] Cloron, Ffâ a Phys yn yr ardd. William Jones.Gweithiwr o Glawddfa Llidiart yr Arian yma. Fi yn mynd efo fo i Dremadoc i’r Farchnad
|
25/2/1826 | |||||||||||||||||
Fron Olau, Penmorfa | |||||||||||||||||
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon) | |||||||||||||||||
Sadwrn Diwrnod dwl sych yn y Boreu, Cawodydd trymion yn y prydnhawn Wil Sion a Harri yn carrio mawn o Gaegronw ucha, Dafydd yn palu peth yn yr ardd ac yn nol llwdwn oedd wedi dwad tros y Graig wrth dwll y Maen Grisial. Wil o’r Gorllwyn yma’n dal Tyrchod daear. Fi yn gwneud bocs Colomenod
|
26/2/1826 | |||||||||||||||||
Fron Olau, Penmorfa | |||||||||||||||||
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon) | |||||||||||||||||
SUL Diwrnod clir sych distaw
|
27/2/1826 | |||||||||||||||||
Fron Olau, Penmorfa | |||||||||||||||||
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon) | |||||||||||||||||
llun. Diwrnod dwl dryghinog yn y boreu hindda distaw at y Prydnhawn Wil a Harri yn carrio mawn o Gaegronw ucha. Dafydd yn gollwng y Gwartheg allan, ac yn mynd wedi [sic] i ‘sgwrio’r Clawdd rhwng Morfa’r Goedan a’r Morfa glofer
|
28/2/1826 | |||||||||||||||||
Fron Olau, Penmorfa | |||||||||||||||||
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon) | |||||||||||||||||
Mawrth. Diwrnod dwl budr yn bwrw gwlaw man ar hyd y Dydd Wil Sion a Harri yn cario Mawn o Gaegronw ucha. Dafydd yn gollwng y Gwartheg allan ac yn mynd wedi [sic] i sgwrio’r Cawdd [sic. clawdd] rhwng y Morfa’r Goedan a’r Morfa Glofer. Sionun Morris yn dwad yma i ddechreu gwneud y Clawdd rhwng y ddwy Ardd
|
1/3/1826 | |||||||||||||||||
Fron Olau, Penmorfa | |||||||||||||||||
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon) | |||||||||||||||||
Mercher, Diwrnod dwl gwyntog. Wil Sion a Harri yn carrio Mawn o Gaegronw ucha, Dafydd yn gollwng y Gwartheg allan ac yn mynd wedi [sic] i ysgwrio’r Clawdd rhwng morfa’r Goedan a’r Morfa Glofer Sion Morris yn gwneud y Clawdd rhwng y ddwy Ardd. Fi wedi bod yn Nhremadog yn y Cyfarfod Cyffredinol Cymdeithas Eifionydd er Cospi Drwgweithredwyr –
|
2/3/1826 | |||||||||||||||||
Fron Olau, Penmorfa | |||||||||||||||||
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon) | |||||||||||||||||
Iau Diwrnod distaw sych teg. Wil Sion wedi bod a’r Gaseg a’r Ebol coch yn Efail Sion Evan yn gosod eu Pedolau yn mynd wedi [sic] i garrio mawn o Gaegonw [sic] ucha Dafydd ysgwrio’r clawdd rhwng Morfa’r Goedan a’r Morfa Glofer, Sion Morris yn gwneud y clawdd rhwng y ddwy Ardd
|
3/3/1826 | |||||||||||||||||
Fron Olau, Penmorfa | |||||||||||||||||
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon) | |||||||||||||||||
Gwener Diwrnod distaw sych teg. Yn mynd a llwyth o’r hen wair o’r Morfa i’r Beudy ucha ac yn dwad a llwyth o Wair o’r Morfa i’r Marchdai. Sion Morris yn gwneud y clawdd rhwng y ddwy Ardd. Fi wedi bod yn Tremadoc yn y Farchnad
|
4/3/1826 | |||||||||||||||||
Fron Olau, Penmorfa | |||||||||||||||||
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon) | |||||||||||||||||
Sadwrn Diwrnod sych distaw teg. Wil Sion a Harri yn carrio mawn o Gaegronw ucha. Dafydd yn ysgwrio’r Clawdd rhwng Morfa’r Goedan a’r Morfa Glofer. Sion Morris yn gwneud y Clawdd rhwng y ddwy ardd
|
5/3/1826 | |||||||||||||||||
Fron Olau, Penmorfa | |||||||||||||||||
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon) | |||||||||||||||||
SUL. Diwrnod dwl ac yn rhai cawodydd [sic. y geiriau ‘ac yn rhai cawodydd’ wedi eu croesi allan] gwyntog wedi bwrw Cawod o Genllysg yn y boreu
|
6/3/1826 | |||||||||||||||||
Fron Olau, Penmorfa | |||||||||||||||||
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon) | |||||||||||||||||
llun Diwrnod dwl gwyntog ac yn bwrw peth gwlaw ganol dydd. Wil Sion a Harri yn darfod carrio mawn o Gaegronw ucha, Harri wedi bod y boreu yn Cwm-ystrallyn [sic. Cwmystradllyn] yn nol llwdn. Sion Morris yn ^darfod y clawdd rhwng y ddwy Ardd, ac yn dechreu y clawdd o flaen y drws. Sion Hugh wedi bod yn dechreu palu lle i Winiwns [sic] yn pen draw i’r Ardd isa.gwlaw yn ei rwystro
|
7/3/1826 | |||||||||||||||||
Fron Olau, Penmorfa | |||||||||||||||||
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon) | |||||||||||||||||
Mawrth Diwrnod dryghinllyd ac yn bwrw’n drwm y boreu, hindda at y Prydnhawn Ffair y Mhenmorfa [sic] yn mynd a’r Gwartheg allan i Dremadoc i fynd a hwy i’r Ffair yn eu troi adref oddi yno. Fi yn mynd i’r Ffair ac yn eu Gwerthu i Silvanus Jones ar ol iddo eu hedrych yn Tremadoc
|
8/3/1826 | |||||||||||||||||
Fron Olau, Penmorfa | |||||||||||||||||
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon) | |||||||||||||||||
Mercher Diwrnod sych teg, Wil a Dafydd yn teilo oddiwrth y Beudy ucha i’r llain hir. Fi wedi bod ^ [sic] Ffair Ffestiniog yn prynu Ceirch hâd
|
9/3/1826 | |||||||||||||||||
Fron Olau, Penmorfa | |||||||||||||||||
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon) | |||||||||||||||||
Iau Diwrnod sych teg. Wil a Dafydd yn Teilo i’r Buarth gwyn. Sion Hugh yn Planu Winiwns [sic] yn yr Ardd. Sion Hugh [sic. ‘Hugh’ wedi ei groesi allan] Morris yn gwneud y Clawdd o flaen y Drws
|
10/3/1826 | |||||||||||||||||
Fron Olau, Penmorfa | |||||||||||||||||
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon) | |||||||||||||||||
Gwener Diwrnod sych teg mwll. Wil Sion a Dafydd yn teilo oddiwrth y Beudy newydd i’r Caebanadl. Sion Hugh yn trin yr Ardd. Yr oen bach cyntaf wedi dwad ddoe Fi wedi bod yn Tremadoc yn y Farchnad
|
11/3/1826 | |||||||||||||||||
Fron Olau, Penmorfa | |||||||||||||||||
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon) | |||||||||||||||||
Sadwrn Diwrnod sych gwyntog. Yn teilo oddiwrth y Beudy newydd i’r Cae banadl. Sion Hugh yn trin yr Ardd. William Jones o Glawddfa llidiart yr Arian wedi bod yma. Mwinig wedi dwad a Llo neithiwr [sic. ‘neithiwr’ wedi ei groesi allan] y boreu heddyw [sic. heddiw] –
|
CANLLAWIAU CHWILIO:
Dyma enghreifftiau o’r codau (“Bwleaidd”) i’w defnyddio wrth chwilio’r Tywyddiadur:
Y chwiliad symlaf yw gair ar ei ben ei hun (ee wennol), neu dau air wedi eu gwahanu gan A, NEU neu DIM (ee. wennol NEU gwennol)
Ond i chwilio ar draws y meysydd:
Rhowch + o flaen pob maes/elfen o’ch chwiliad a : (colon) ar ei ôl..
Dynodir dyddiadau fel diwrnod, mis, blwyddyn (dd/mm/bb)
Ee. I godi pob cofnod sy’n cynnwys Faenol ym mis Ionawr 1877:
+lle:Faenol +mm/bb:1/1877
Dyma ychydig o engreifftiau eraill:
+nodiadau:llosgfynydd +bb:1815
+ffynhonnell:Edwards +nodiadau:moch
+nodiadau:wartheg +nodiadau:ffridd
Mwy yn fan hyn:
Apache Lucene - Query Parser Syntax
|