Llên Natur
Llên Natur

Y Tywyddiadur

Prif nodwedd y gronfa hon yw'r dyddiad, mis neu'r flwyddyn penodol sydd yn sail i'ch cofnod. Mae'r tywydd wrth gwrs yn rhywbeth sydd yn digwydd "rwan", pryd bynnag yw neu oedd "rwan" i'r cofnodwr gwreiddiol; y bore yma efallai, diwrnod arbennig yn eich plentyndod, neu sylw mewn dyddiadur dwy ganrif yn ôl yn sir Feirionnydd.... efallai. Neu efallai bod cysylltiad y sylw a'r tywydd yn ymddangosiadol wan iawn: tylluan wen yn hela am dri o'r gloch y prynhawn ar ddyddiad arbennig o Chwefror; clywed y gog yn canu ddiwedd mis Mawrth; teilo cae at datws ddechrau’r gwanwyn. Tywydd....? efallai! Ffenoleg...? yn bendant.

Mae'r Tywyddiadur yn rhyngweithiol - hynny yw, mi allwch rhoi gwybodaeth i fewn iddo, neu chael gwybodaeth allan. Y cam cyntaf y byddwch yn cymryd wrth fentro ar y dudalen hon felly fydd dewis pa un rydych am ei wneud.... Chwilio ynteu Mewnbynnu (blychod chwilio ar y chwith mewn glas, blychod mewnbynnu ar y dde mewn coch).

(Ewch i’r gwaelod am ganllawiau cychwynnol).

CHWILIO: Chi biau’r dewis: mis neu gyfnod arbennig efallai, blwyddyn, gair (neu ddau air), neu ddiwrnod penodol (treiwch ddyddiad eich pen-blwydd). Cewch wneud cyfuniad o rhain.

MEWNBYNNU: Trwy fewnbynnu cewch ychwanegu at y gronfa a chreu adnodd mwy cynhwysfawr fyth i ymchwilwyr fel chi. Dim ond tri amod sydd ar eich cofnod: ei fod yn cynnwys rhyw fath o ddyddiad, lleoliad (bras neu fanwl), a bod y cofnod rhywfodd yn gysylltiedig â’r amgylchedd.




Oriel

Tywyddiadur

owen-edwards

2,631 cofnodion a ganfuwyd.
12/3/1826
Fron Olau, Penmorfa
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon)

SUL Diwrnod sych distaw teg. Mr.Owen Aberglaslyn yma yn y Prydnhawn


Geiriau Allweddol:
Cyfrannwr: Brenda Jones
Cyf. Gwynt: 0
Nerth.Gwynt : 0
Glawiad : -999
Is Tym : -999
Uch Tym: -99
Safle grid:
13/3/1826
Fron Olau, Penmorfa
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon)

llun Diwrnod sych oer lled wyntog. Yn dechreu Aredig Sofl yn y Buarth gw [sic. gwyn?] Sion Hugh a Dafydd yn trin yr Ardd


Geiriau Allweddol:
Cyfrannwr: Brenda Jones
Cyf. Gwynt: 0
Nerth.Gwynt : 0
Glawiad : -999
Is Tym : -999
Uch Tym: -99
Safle grid:
14/3/1826
Fron Olau, Penmorfa
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon)

Mawrth Diwrnod dwl lled oer ac yn bwrw peth ganol dydd. Yn Aredig yn y Buarth gwyn. Sion Hugh a Dafydd yn trin yr Ardd. Fi wedi bod y Nghynebrwng Ann Humphrey Hendrahowel y Mhenmorfa [sic]


Geiriau Allweddol:
Cyfrannwr: Brenda Jones
Cyf. Gwynt: 0
Nerth.Gwynt : 0
Glawiad : -999
Is Tym : -999
Uch Tym: -99
Safle grid:
15/3/1826
Fron Olau, Penmorfa
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon)

Mercher. Diwrnod sych distaw teg. Yn darfod , Aredig yn y Buarth gwyn ddaliad y Prydnhawn, ac yn mynd i ddechreu Aredig i’r llainhir. Sion Hugh yn trin yr Ardd Fi wedi bod yn Clawddfa llidiart yr Arian efo John Pugh a Richard Thomas.


Geiriau Allweddol:
Cyfrannwr: Brenda Jones
Cyf. Gwynt: 0
Nerth.Gwynt : 0
Glawiad : -999
Is Tym : -999
Uch Tym: -99
Safle grid:
16/3/1826
Fron Olau, Penmorfa
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon)

Iau Diwrnod sych distaw teg . Yn Aredig yn y llain hir. Y lleill yn nithio Ha [sic] 


Geiriau Allweddol:
Cyfrannwr: Brenda Jones
Cyf. Gwynt: 0
Nerth.Gwynt : 0
Glawiad : -999
Is Tym : -999
Uch Tym: -99
Safle grid:
17/3/1826
Fron Olau, Penmorfa
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon)

Gwener Diwrnod sych distaw teg wedi llwyd rewi neithiwr. Yn darfod Aredig y llain hir, ac yn dechreu aredig y Caebanadl. Dafydd yno’n chwalu Tail. Sion Hugh a Neli yn darfod nithio’r Haidd. Sion Hugh yn mynd wedi [sic[ i balu i’r Ardd. Fi wedi bod yn Tremadoc yn y Farchnad


Geiriau Allweddol:
Cyfrannwr: Brenda Jones
Cyf. Gwynt: 0
Nerth.Gwynt : 0
Glawiad : -999
Is Tym : -999
Uch Tym: -99
Safle grid:
18/3/1826
Fron Olau, Penmorfa
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon)

Sadwrn Diwrnod sych yn y boreu ac yn bwrw peth gwlaw yn y Prydnhawn Yn Aredig yn y Cae banadl. Sion Hugh yn hau Winiwns yn yr Ardd isa. Mr.Ralphs Llyfrwerthwr o Gaernarfon a John Jones o’r un lle yn galw yma yn y Prydnhawn. Owen Roberts Tynlôn yn danfon sachau yma i fynd i nol Ceirch hâd ac yn mynd adref y noson


Geiriau Allweddol:
Cyfrannwr: Brenda Jones
Cyf. Gwynt: 0
Nerth.Gwynt : 0
Glawiad : -999
Is Tym : -999
Uch Tym: -99
Safle grid:
19/3/1826
Fron Olau, Penmorfa
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon)

SUL Diwrnod sych oer. Fi wedi bod yn llan.ac yn ymdroi y Nhy [sic] Richard Thomas


Geiriau Allweddol:
Cyfrannwr: Brenda Jones
Cyf. Gwynt: 0
Nerth.Gwynt : 0
Glawiad : -999
Is Tym : -999
Uch Tym: -99
Safle grid:
20/3/1826
Fron Olau, Penmorfa
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon)

llun Diwrnod dwl sych. Wil Sion wedi bod yn y Towyn yn nol Calch. Sion Hugh Sion Morris a Dafydd yn yr hen Forfa hyd hanner dydd yn rhoi clâdd yn y Trainsia yn dwad wedi [sic] i roi helm Haidd i mewn, ac yn lladd deuddeg o Lygod Ffreinig ynddi. Besi a Brithan wedi dwad a lloia ganol dydd [sic. wedi tanlinellu]


Geiriau Allweddol:
Cyfrannwr: Brenda Jones
Cyf. Gwynt: 0
Nerth.Gwynt : 0
Glawiad : -999
Is Tym : -999
Uch Tym: -99
Safle grid:
21/3/1826
Fron Olau, Penmorfa
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon)

Mawrth. Diwrnod sych oer wedi rhewi peth neithiwr. Yn Aredig yn y Caebanadl, Seren wedi dwad a Llo [sic. tanlinellu]. Fi wedi bod ef [sic] Mr.Lloyd y Wern yn Llwytmor yn edrych y Terfyna rhwng Mr.Gore a Sir Joseph Huddard i’r diben i’w gosod iw cau.


Geiriau Allweddol:
Cyfrannwr: Brenda Jones
Cyf. Gwynt: 0
Nerth.Gwynt : 0
Glawiad : -999
Is Tym : -999
Uch Tym: -99
Safle grid:
22/3/1826
Fron Olau, Penmorfa
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon)

Mercher Diwrnod sych distaw wedi rhewi neithiwr. Wil Sion yn Aredig yn y Caebanadl. Sion Morris a Dafydd yn rhoi Cladd yn y Trainsia yn yr hên Forfa. Dafydd wedi bod efo mi yn danfon y Gwartheg i Drefmadoc [sic] i fynd i ffordd [sic. ffwrdd ?]


Geiriau Allweddol:
Cyfrannwr: Brenda Jones
Cyf. Gwynt: 0
Nerth.Gwynt : 0
Glawiad : -999
Is Tym : -999
Uch Tym: -99
Safle grid:
23/3/1826
Fron Olau, Penmorfa
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon)

Iau Diwrnod dwl distaw ac yn taflu dafnau o wlaw weithiau Elin yn mynd yn sal, Yn gyru Dafydd i Gwmystrallyn [sic] i nol Mari Tomas [bydwraig] hanner awr wedi un o’r gloch y boreu. Yma erbyn hanner awr wedi tri yr Eneth fach newydd ei geni. [sic. ysgrifen Bold]. Wil Sion wedi bod yn nol chwech Pegaid o Geirch du had yn Ty nant Sion Francis sef dau i mi a Phedwar i Owen Roberts Tynlôn. Sion Morris a Dafydd yn yr hên Forfa yn rhoi cladd ar y Trainsia


Geiriau Allweddol:
Cyfrannwr: Brenda Jones
Cyf. Gwynt: 0
Nerth.Gwynt : 0
Glawiad : -999
Is Tym : -999
Uch Tym: -99
Safle grid:
24/3/1826
Fron Olau, Penmorfa
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon)

Gwener. Diwrnod sych oer Gwyntog. Wil a Harri yn Aredig yn y Caebanadl. Sion Morris a Dafydd yn cau y Trainsia yn yr hên Forfa. Wm.Jones y Glawddfa [sic. cloddfa] Llidiart yr Arian yma. Robt. a Thomas Bryn yr hydd yma. Fi wedi bod yn Tremadoc yn y Farchnad. Blackan wedi dwad a Llô [sic]


Geiriau Allweddol:
Cyfrannwr: Brenda Jones
Cyf. Gwynt: 0
Nerth.Gwynt : 0
Glawiad : -999
Is Tym : -999
Uch Tym: -99
Safle grid:
25/3/1826
Fron Olau, Penmorfa
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon)

Sadwrn Diwrnod sych oer Gwyntog. Yn Aredig yn y Caebanadl. Sion Morris a Dafydd yn cau y Trainsia yn yr hen Forfa. Gwas Tynlon yma yn nol Ceirch hâd. Sion Morris yn mynd adref yn sâl yn y Prydnhawn


Geiriau Allweddol:
Cyfrannwr: Brenda Jones
Cyf. Gwynt: 0
Nerth.Gwynt : 0
Glawiad : -999
Is Tym : -999
Uch Tym: -99
Safle grid:
26/3/1826
Fron Olau, Penmorfa
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon)

Sul y Pasg Diwrnod sych oer Gwyntog wedi rhewi neithiwr  Fi wedi bod yn y Llan Elizabeth Griffith Llangybi yn dwad yma


Geiriau Allweddol:
Cyfrannwr: Brenda Jones
Cyf. Gwynt: 0
Nerth.Gwynt : 0
Glawiad : -999
Is Tym : -999
Uch Tym: -99
Safle grid:
27/3/1826
Fron Olau, Penmorfa
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon)

llun Diwrnod sych distaw dwl, yn rhoi dau Lwyth o Gloron i mewn


Geiriau Allweddol:
Cyfrannwr: Brenda Jones
Cyf. Gwynt: 0
Nerth.Gwynt : 0
Glawiad : -999
Is Tym : -999
Uch Tym: -99
Safle grid:
28/3/1826
Fron Olau, Penmorfa
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon)

Mawrth Diwrnod dwl distaw ac yn gwlitho peth weithia. Yn Aredig yn y Caebanadl. Dafyd [sic[ a Neli yn hel gwair ar ol y Gwartheg allan. William bâch yn sâl


Geiriau Allweddol:
Cyfrannwr: Brenda Jones
Cyf. Gwynt: 0
Nerth.Gwynt : 0
Glawiad : -999
Is Tym : -999
Uch Tym: -99
Safle grid:
29/3/1826
Fron Olau, Penmorfa
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon)

Mercher Diwrnod lled wyntog ac yn ambell gawod o Eira weithia, yn darfod Aredig y Caebanadl ddaliad y boreu, yn mynd wedi [sic] i garrio [sic. gario] gweddill y Gwartheg allan i’r Domen. Neli wedi bod a schau yn y Farmyard i ^roi Ceirch hâd Yn bwrw cawod drom o Eira efo’r nos [sic. ysgrifen Bold]


Geiriau Allweddol:
Cyfrannwr: Brenda Jones
Cyf. Gwynt: 0
Nerth.Gwynt : 0
Glawiad : -999
Is Tym : -999
Uch Tym: -99
Safle grid:
30/3/1826
Fron Olau, Penmorfa
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon)

Iau Diwrnod oer lled ddwl ac yn bwrw ambell gawod o Eira ar ol bwrw Eira neithiwr nes oedd y ddaear yn wen, Wil a Dafyd yn yr hen Forfa yn parottoi [sic. paratoi] at ddechreu Aredig. Y dechreu [sic] Aredig yno ddaliad y Prydnhawn. Owen Jones o’r Wayn [sic. Waen ?] wedi bod yma neithiwr yn nol Mari Tomas at Wraig oedd yn sâl Fi wedi bod yn y Festri yr oedd yr Oferseers yn rhoi ei Cyfri i fynu [sic] 


Geiriau Allweddol:
Cyfrannwr: Brenda Jones
Cyf. Gwynt: 0
Nerth.Gwynt : 0
Glawiad : -999
Is Tym : -999
Uch Tym: -99
Safle grid:
31/3/1826
Fron Olau, Penmorfa
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon)

Gwener. Diwrnod sych distaw, Wil Sion yn Aredig yn yr hen Forfa Fi wedi bod yn Tremadoc yn y Farchnad –


Geiriau Allweddol:
Cyfrannwr: Brenda Jones
Cyf. Gwynt: 0
Nerth.Gwynt : 0
Glawiad : -999
Is Tym : -999
Uch Tym: -99
Safle grid:
1/4/1826
Fron Olau, Penmorfa
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon)

Sadwrn. Diwrnod sych distaw. Yn Aredig yn yr hen Forfa. Fi wedi bod yn Tyddynygwynt, yn edrych Coed Ynn at eu Torri –


Geiriau Allweddol:
Cyfrannwr: Brenda Jones
Cyf. Gwynt: 0
Nerth.Gwynt : 0
Glawiad : -999
Is Tym : -999
Uch Tym: -99
Safle grid:
2/4/1826
Fron Olau, Penmorfa
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon)

SUL Diwrnod dwl wedi bwrw gwlaw’n drwm neithiwr, ac yn bwrw gwlaw m[?] Claiar Heddyw [sic]. Morris Jones Tremadoc yma yn y Prydnhawn


Geiriau Allweddol:
Cyfrannwr: Brenda Jones
Cyf. Gwynt: 0
Nerth.Gwynt : 0
Glawiad : -999
Is Tym : -999
Uch Tym: -99
Safle grid:
3/4/1826
Fron Olau, Penmorfa
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon)

llun Diwrnod dwl clair [sic. claiar] ac yn bwrw peth gwlaw mân weithiau Yn Aredig yn yr hên Forfa. Sion Morris a Dafydd yno yn Parottoi [sic] lle  YN DARLLAW [sic. prif lythrennau, bras, Bold] Anner [heffer] o’r Beudy ucha’n cymeryd Tarw


Geiriau Allweddol:
Cyfrannwr: Brenda Jones
Cyf. Gwynt: 0
Nerth.Gwynt : 0
Glawiad : -999
Is Tym : -999
Uch Tym: -99
Safle grid:
4/4/1826
Fron Olau, Penmorfa
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon)

Mawrth Diwrnod dwl distaw claiar, Sion Robert Carriwr o’r Garn yn dwad a Chostrel [potelaid] o Wirod yma. Yn Aredig yn yr hên Forfa ddaliad y boreu. Sion Morris, Dafy [sic] a Sion Hugh yno’n Parrotoi [sic] lle. Wil Sion wedi bod y Prydnhawn yn y Towy [sic. Towyn] yn nol hanner Tunnell o Glô [sic]. Willm.Jones Criccieth wedi bod yma’n rhoi Olew i’r Awrlais [cloc]


Geiriau Allweddol:
Cyfrannwr: Brenda Jones
Cyf. Gwynt: 0
Nerth.Gwynt : 0
Glawiad : -999
Is Tym : -999
Uch Tym: -99
Safle grid:
5/4/1826
Fron Olau, Penmorfa
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon)

Iau [sic. wedi ei groesi allan] Mercher Diwrnod dwl distaw ac yn gwlitho peth weithia  [sic. y geiriau ‘ac yn gwlitho peth weithia’ wedi eu croesi allan] sych, Yn dechreu llyfnu Ceirch du yn y Llainhir a pheth yn y Weirglawdd ucha. geiriau Fi wedi bod yn y Tynllan Penmorfa yn achos gosod Walia yn mynudd llwytmor’ [sic. y geiriau ‘Fi wedi bod yn y Tynllan Penmorfa yn achos gosod Walia yn mynudd llwytmor’ wedi eu croesi allan]


Geiriau Allweddol:
Cyfrannwr: Brenda Jones
Cyf. Gwynt: 0
Nerth.Gwynt : 0
Glawiad : -999
Is Tym : -999
Uch Tym: -99
Safle grid:

CANLLAWIAU CHWILIO:

Dyma enghreifftiau o’r codau (“Bwleaidd”) i’w defnyddio wrth chwilio’r Tywyddiadur:

Y chwiliad symlaf yw gair ar ei ben ei hun (ee wennol), neu dau air wedi eu gwahanu gan A, NEU neu DIM (ee. wennol NEU gwennol)

Ond i chwilio ar draws y meysydd:

Rhowch + o flaen pob maes/elfen o’ch chwiliad a : (colon) ar ei ôl..

Dynodir dyddiadau fel diwrnod, mis, blwyddyn (dd/mm/bb)

Ee. I godi pob cofnod sy’n cynnwys Faenol ym mis Ionawr 1877:

+lle:Faenol +mm/bb:1/1877

Dyma ychydig o engreifftiau eraill:

+nodiadau:llosgfynydd +bb:1815

+ffynhonnell:Edwards +nodiadau:moch

+nodiadau:wartheg +nodiadau:ffridd

Mwy yn fan hyn:

Apache Lucene - Query Parser Syntax



Apache Lucene - Query Parser Syntax