Prif nodwedd y gronfa hon yw'r dyddiad, mis neu'r flwyddyn penodol sydd yn sail i'ch cofnod. Mae'r tywydd wrth gwrs yn rhywbeth sydd yn digwydd "rwan", pryd bynnag yw neu oedd "rwan" i'r cofnodwr gwreiddiol; y bore yma efallai, diwrnod arbennig yn eich plentyndod, neu sylw mewn dyddiadur dwy ganrif yn ôl yn sir Feirionnydd.... efallai. Neu efallai bod cysylltiad y sylw a'r tywydd yn ymddangosiadol wan iawn: tylluan wen yn hela am dri o'r gloch y prynhawn ar ddyddiad arbennig o Chwefror; clywed y gog yn canu ddiwedd mis Mawrth; teilo cae at datws ddechrau’r gwanwyn. Tywydd....? efallai! Ffenoleg...? yn bendant.
Mae'r Tywyddiadur yn rhyngweithiol - hynny yw, mi allwch rhoi gwybodaeth i fewn iddo, neu chael gwybodaeth allan. Y cam cyntaf y byddwch yn cymryd wrth fentro ar y dudalen hon felly fydd dewis pa un rydych am ei wneud.... Chwilio ynteu Mewnbynnu (blychod chwilio ar y chwith mewn glas, blychod mewnbynnu ar y dde mewn coch).
(Ewch i’r gwaelod am ganllawiau cychwynnol).
CHWILIO: Chi biau’r dewis: mis neu gyfnod arbennig efallai, blwyddyn, gair (neu ddau air), neu ddiwrnod penodol (treiwch ddyddiad eich pen-blwydd). Cewch wneud cyfuniad o rhain.
MEWNBYNNU: Trwy fewnbynnu cewch ychwanegu at y gronfa a chreu adnodd mwy cynhwysfawr fyth i ymchwilwyr fel chi. Dim ond tri amod sydd ar eich cofnod: ei fod yn cynnwys rhyw fath o ddyddiad, lleoliad (bras neu fanwl), a bod y cofnod rhywfodd yn gysylltiedig â’r amgylchedd.
6/4/1826 | |||||||||||||||||
Fron Olau, Penmorfa | |||||||||||||||||
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon) | |||||||||||||||||
Iau Diwrnod diataw niwlog yn darfod llyfnu yn y Weirglawdd [sic] ucha ac yn dechreu yn y Caebanadl Fi wedi bod yn Tynllan Penmorfa yn achos gosod Clawddia yn mynudd [sic. mynydd] llwytmor
|
7/4/1826 | |||||||||||||||||
Fron Olau, Penmorfa | |||||||||||||||||
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon) | |||||||||||||||||
Gwener Diwrnod distaw niwlog Yn darfod llyfnu’r Caebanadl a’r Buarth gwyn. Wil Sion wedi bod yn y Farmiard [sic. Farmyard] yn nol pegaid o Geirch gwyn hâd Fi wedi bod yn Tremadoc yn y Farchnad
|
8/4/1826 | |||||||||||||||||
Fron Olau, Penmorfa | |||||||||||||||||
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon) | |||||||||||||||||
Sadwrn Diwrnod distaw niwlog yn llyfnu’r Caelleppa isa Y Meibion i gyd wedi wedi bod ganol dydd yn danfon Corph Alys Gwraig Sion Jones Glanygors. Fi wedi bod yn y Festri yr oedd y Gorchwilwyr y Tylodion [sic. tlodion] yn Cymeryd lle am y flwyddyn ganlynol
|
9/4/1826 | |||||||||||||||||
Fron Olau, Penmorfa | |||||||||||||||||
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon) | |||||||||||||||||
SUL Diwrnod dwl lled wyntog ac yn bwrw peth gwlaw weithia
|
10/4/1826 | |||||||||||||||||
Fron Olau, Penmorfa | |||||||||||||||||
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon) | |||||||||||||||||
llun. Diwrnod sych gwyntog lled oer. Harri wedi bod a’r tri Cheffyl gweithio yn Efail Sion Evan yn ail osod eu Pedolau. Yn mynd ddaliad y Prydnhawn i Aredig i’r hên Forfa. Dafydd yn y Tymawr yn llyfnu tail
|
11/4/1826 | |||||||||||||||||
Fron Olau, Penmorfa | |||||||||||||||||
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon) | |||||||||||||||||
Mawrth. Diwrnod dwl gwyntog. Wil Sion wedi bod yn Mynudd [sic] Ednyfed fawr yn nol dau begaid o Geirch gwyn a phedwar Hobad o Gloron hâd y lleill yn curo Biswail yn y Morfa a pheth caea sychion
|
12/4/1826 | |||||||||||||||||
Fron Olau, Penmorfa | |||||||||||||||||
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon) | |||||||||||||||||
Mercher. Diwrnod gwyntog dryghinllyd ac yn bwrw gwlaw’n drwm iawn yn y boreu, sych yn y Prydnhawn. Wil a Harri a [sic] wedi bod beth yn y Morfa y boreu yn Nithio peth Haidd hyd hanner dydd. Y Cwbl yn mynd wedi [sic] i guro Biswail Y Fuwch Goeswen wedi dwad a Llô Heddyw [sic]. Owen Roberts Tynlon yn dwad yma efo’r nos
|
13/4/1826 | |||||||||||||||||
Fron Olau, Penmorfa | |||||||||||||||||
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon) | |||||||||||||||||
Iau Diwrnod dwl sych distaw claiar Y Meibion yn llyfnu branàr [sic] yn Cae’r hendra, a Buarth yr hèn [sic] Erw. Wil Sion yn Crynu John Wyne [sic. Wynne ?] arwydd y Cnùf Aur Tremadoc yma yn prynu dwy Fuwch Gyflo. Llwydig y Fuwch a werthais i John Wyne wedi dwad a Llo. Fi wedi bod yn Ffair Tremadoc
|
14/4/1826 | |||||||||||||||||
Fron Olau, Penmorfa | |||||||||||||||||
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon) | |||||||||||||||||
Gwener Diwrnod dwl niwlog Wil Sion a Harri yn Aredig yn yr hen Forfa Dafydd yno yn gwasdadhau’r Dalar efo’r Fford [sic. ffordd] Sion Hugh yn planu Bresych yn yr Ardd uch [sic. ucha] tu cefn i’r Gwenun [sic]. Fi heb fod yn y Farchnad
|
15/4/1826 | |||||||||||||||||
Fron Olau, Penmorfa | |||||||||||||||||
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon) | |||||||||||||||||
Sadwrn Diwrnod sych distaw Wil Sion yn Crynu. Dafydd yn yr hen Forfa yn gwasdadhau’r Dalar efo’r Ffordd. Fi wedi bod yn Tremadoc yn Siarad efo Ellis Williams y Cigydd am ddwad yma i ladd y ddau Fochyn.ac yn Siarad efo Robert Prisiart am ddwad yma i wneud Carr Rholfaen
|
16/4/1826 | |||||||||||||||||
Fron Olau, Penmorfa | |||||||||||||||||
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon) | |||||||||||||||||
SUL Diwrnod distaw sych teg
|
17/4/1826 | |||||||||||||||||
Fron Olau, Penmorfa | |||||||||||||||||
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon) | |||||||||||||||||
llun Diwrnod distaw sych teg Yn darfod Aredig yn yr hen Forfa ddaliad y boreu, yn mynd ddaliad y Prydnhawn i ddechreu Aredig i Haidd i Fuarth yr hen Erw. Sion Hugh a Dafydd yn yr hen Forfa yn y boreu yn gwasdadhau’r Dalar efo’r Ffordd. Sion Hugh yn mynd wedi [sic] i’r Ardd i barottoi [sic] lle i hau Morron [sic. moron] a Dafydd yn mynd i garrio drain i gau Clawdd y Mynudd [sic]
|
18/4/1826 | |||||||||||||||||
Fron Olau, Penmorfa | |||||||||||||||||
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon) | |||||||||||||||||
Mawrth Diwrnod distaw sych teg Wil Sion a Harri yn Aredig Buarth yr hen Erw. Sion Hugh a Dafydd y boreu yn yr Ardd yn dwad wedi [sic] at Ellis Williams Cigydd Tremadoc i ladd y DDAU FOCHUN [sic]. Owen Roberts Tynlon yn galw yma
|
19/4/1826 | |||||||||||||||||
Fron Olau, Penmorfa | |||||||||||||||||
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon) | |||||||||||||||||
Mercher Diwrnod distaw dwl sych teg. Yn dechreu llyfnu Ceirch gwyn yn yr hanner agosaf i’r Ffordd fawr o’r hen Forfa.Ellis William y Cigydd yma’n tori’r ddau fochyn
|
20/4/1826 | |||||||||||||||||
Fron Olau, Penmorfa | |||||||||||||||||
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon) | |||||||||||||||||
Iau Diwrnod sych teg Yn llyfnu’r Ceirch gwyn yn yr hen Forfa DARFOD LLYFNU CEIRCH [sic]
|
21/4/1826 | |||||||||||||||||
Fron Olau, Penmorfa | |||||||||||||||||
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon) | |||||||||||||||||
Gwener. Diwrnod sych distaw teg Wil Sion a Dafydd yn cau Clawdd y Mynudd [sic] Sion Hugh yn planu [sic] Ffa yn yr Ardd isa. Sion Hugh a Harri wedi bod yn danfon y ddwy Fuwch oeddwn wedi werthu i John Wyne [sic. Wynne] i’r Dref Fi wedi bod yn y Farchnad
|
22/4/1826 | |||||||||||||||||
Fron Olau, Penmorfa | |||||||||||||||||
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon) | |||||||||||||||||
Sadwrn. Diwrnod dwl distaw wedi bwrw gwlaw’n ddwys hyd hanner dydd Y Meibion y boreu yn nithio yn mynd y Prydnhawn i droi’r defaid hespion i’r mynudd [sic], Y Fuwch a aeth i John Wyne [sic] ddoe yn diengyd [dianc] ac yn dwad i’r Morfa ac yn dwad a llo
|
23/4/1826 | |||||||||||||||||
Fron Olau, Penmorfa | |||||||||||||||||
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon) | |||||||||||||||||
Diwrnod sych lled oer, Fi wedi bod yn Aberglaslyn efo Mr Owen
|
24/4/1826 | |||||||||||||||||
Fron Olau, Penmorfa | |||||||||||||||||
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon) | |||||||||||||||||
llun Diwrnod sych lled oer. Yn Aredig yn Buarth yr hen Erw. Y Gwartheg Hespion yn mynd o’r Beudy ucha i Gaegronw. Robert Prisiart y Saer wedi bod yna’n edrych coed ar wneud Carr Rowlar
|
25/4/1826 | |||||||||||||||||
Fron Olau, Penmorfa | |||||||||||||||||
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon) | |||||||||||||||||
Mawrth Diwrnod sych dwl. Yn troi’r Defaid a’r Wyn i’r Mynudd [sic] ac yn marcio Pedwar ugain a phedwar o Wyn. Yn mynd wedi hanner dydd i ddarfod Aredig y buarth yr hen Erw, ac i ddechreu Aredig tir Colron i ben isa’r Cae lleppa isa. Dafydd yn torri anialwch efo chlawdd Buarth yr hen Erw. Sion Hugh a Mari yn puro Haidd. Yn bwrw peth gwlaw at y Prydnhawn [sic. wedi tanlinellu]
|
26/4/1826 | |||||||||||||||||
Fron Olau, Penmorfa | |||||||||||||||||
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon) | |||||||||||||||||
Mercher Diwrnod dwl sych. Yn darfod Aredig y Tir i roi Cloron yn y Caelleppa isa ac yn dechreu Aredig Tir i roi Cloron yn Cae’r Hendra. Dafydd a Neli yn yr hen Forfa yn cribinio toccia brwyn hyd y Tir Ceirch. Meibion Robt.Prisiart Saer Coed Tremadoc yn dwad yma i ddechreu gwneud Carr Rowlar. Y Fuwch gynffonwen wedi dwad a llo. Y Fuwch Blacan wedi cymeryd Tarw ddoe a’r Fuwch Seren Heddyw[sic]. Harri wedi bod yn y Dref yn nol had Gwair
|
27/4/1826 | |||||||||||||||||
Fron Olau, Penmorfa | |||||||||||||||||
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon) | |||||||||||||||||
Iau Diwrnod dwl ac yn bwrw Cawodydd trymion o Genllysg a Gwlaw o’r Gogledd. Yn darfod Aredig y tir Cloron yn Cae’r hendra erbyn hanner dydd Dafydd a Neli yn yr hên Forfa yn gorphen hel y toccia brwyn. Yn mynd yno iw carrio efo’r Drol ar ol Canol dydd.
|
28/4/1826 | |||||||||||||||||
Fron Olau, Penmorfa | |||||||||||||||||
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon) | |||||||||||||||||
Gwener Diwrnod dwl ac eira tew hyd y Mynyddau ac wedi rhewi’n lled galed neithiwr, ac yn bwrw Cawodydd o Eira trymion ganol dydd. Yn darfod carrio’r toccia brwyn yn yr hen Forfa erbyn hanner dydd. Yn mynd wedi [sic] i gau adwyon. Sion Hugh yn plannu Pys yn yr Ardd ucha. Fi heb fynd i’r Farchnad
|
29/4/1826 | |||||||||||||||||
Fron Olau, Penmorfa | |||||||||||||||||
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon) | |||||||||||||||||
Sadwrn Diwrnod clir sych. Fi wedi bod efo Dafydd a Wil yn nol y Rowlar Carreg o Gargronw, a Harri wedi bod a phwn o Haidd yn Melin Tanrallt Yn mynd ar ol hanner dydd ac yn llyfnu Haidd Buarth yr hên Erw i gyd
|
30/4/1826 | |||||||||||||||||
Fron Olau, Penmorfa | |||||||||||||||||
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon) | |||||||||||||||||
SUL Diwrnod sych distaw, wedi rhewi a barrigo [sic. barugo] neithiwr
|
CANLLAWIAU CHWILIO:
Dyma enghreifftiau o’r codau (“Bwleaidd”) i’w defnyddio wrth chwilio’r Tywyddiadur:
Y chwiliad symlaf yw gair ar ei ben ei hun (ee wennol), neu dau air wedi eu gwahanu gan A, NEU neu DIM (ee. wennol NEU gwennol)
Ond i chwilio ar draws y meysydd:
Rhowch + o flaen pob maes/elfen o’ch chwiliad a : (colon) ar ei ôl..
Dynodir dyddiadau fel diwrnod, mis, blwyddyn (dd/mm/bb)
Ee. I godi pob cofnod sy’n cynnwys Faenol ym mis Ionawr 1877:
+lle:Faenol +mm/bb:1/1877
Dyma ychydig o engreifftiau eraill:
+nodiadau:llosgfynydd +bb:1815
+ffynhonnell:Edwards +nodiadau:moch
+nodiadau:wartheg +nodiadau:ffridd
Mwy yn fan hyn:
Apache Lucene - Query Parser Syntax
|