Llên Natur
Llên Natur

Y Tywyddiadur

Prif nodwedd y gronfa hon yw'r dyddiad, mis neu'r flwyddyn penodol sydd yn sail i'ch cofnod. Mae'r tywydd wrth gwrs yn rhywbeth sydd yn digwydd "rwan", pryd bynnag yw neu oedd "rwan" i'r cofnodwr gwreiddiol; y bore yma efallai, diwrnod arbennig yn eich plentyndod, neu sylw mewn dyddiadur dwy ganrif yn ôl yn sir Feirionnydd.... efallai. Neu efallai bod cysylltiad y sylw a'r tywydd yn ymddangosiadol wan iawn: tylluan wen yn hela am dri o'r gloch y prynhawn ar ddyddiad arbennig o Chwefror; clywed y gog yn canu ddiwedd mis Mawrth; teilo cae at datws ddechrau’r gwanwyn. Tywydd....? efallai! Ffenoleg...? yn bendant.

Mae'r Tywyddiadur yn rhyngweithiol - hynny yw, mi allwch rhoi gwybodaeth i fewn iddo, neu chael gwybodaeth allan. Y cam cyntaf y byddwch yn cymryd wrth fentro ar y dudalen hon felly fydd dewis pa un rydych am ei wneud.... Chwilio ynteu Mewnbynnu (blychod chwilio ar y chwith mewn glas, blychod mewnbynnu ar y dde mewn coch).

(Ewch i’r gwaelod am ganllawiau cychwynnol).

CHWILIO: Chi biau’r dewis: mis neu gyfnod arbennig efallai, blwyddyn, gair (neu ddau air), neu ddiwrnod penodol (treiwch ddyddiad eich pen-blwydd). Cewch wneud cyfuniad o rhain.

MEWNBYNNU: Trwy fewnbynnu cewch ychwanegu at y gronfa a chreu adnodd mwy cynhwysfawr fyth i ymchwilwyr fel chi. Dim ond tri amod sydd ar eich cofnod: ei fod yn cynnwys rhyw fath o ddyddiad, lleoliad (bras neu fanwl), a bod y cofnod rhywfodd yn gysylltiedig â’r amgylchedd.




Oriel

Tywyddiadur

owen-edwards

2,631 cofnodion a ganfuwyd.
1/5/1826
Fron Olau, Penmorfa
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon)

LLUN Diwrnod sych distaw. Yn hau had gwair yn Buarth yr hen Erw ac yn ei lyfnu, ac yn llyfnu’r Tir Cloron yn y Caelleppa isa a Chae’r Hendra Wil  Prisiart yma’n gwneud Carr Rowlar Sion Hugh yn torri Cloron, Y Bengron yn mynd i ffwrdd


Geiriau Allweddol:
Cyfrannwr: Brenda Jones
Cyf. Gwynt: 0
Nerth.Gwynt : 0
Glawiad : -999
Is Tym : -999
Uch Tym: -99
Safle grid:
2/5/1826
Fron Olau, Penmorfa
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon)

Mawrth Diwrnod dwl distaw claiar wedi gwlitho peth yn y boreu  Yn Teilo i Gae’r Hendre [sic] i Gloron. Morris Jones Siopwr Tremadoc yma efo’r hwyr


Geiriau Allweddol:
Cyfrannwr: Brenda Jones
Cyf. Gwynt: 0
Nerth.Gwynt : 0
Glawiad : -999
Is Tym : -999
Uch Tym: -99
Safle grid:
3/5/1826
Fron Olau, Penmorfa
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon)

Mercher. Diwrnod sych distaw. Yn Teilo i Gloron i Gae’r hendra. Sion Hugh yn Planu Ffa yn yr Ardd ucha Fi wedi bod yn Tremadoc, Wil y Saer Coed yn ymadael


Geiriau Allweddol:
Cyfrannwr: Brenda Jones
Cyf. Gwynt: 0
Nerth.Gwynt : 0
Glawiad : -999
Is Tym : -999
Uch Tym: -99
Safle grid:
4/5/1826
Fron Olau, Penmorfa
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon)

Iau Diwrnod sych distaw. Y DERCHAFAEL. [sic] Yn darfod Teilo i Gloron i Gae’r Hendra.erbyn hanner dydd. Dafydd a Harri wedi bod yn y Morfa mawr yn nol y Ferlan oedd wedi diengyd [sic] yno. Gwyl y Prydnhawn Y ddwy Anner wedi dwad a Lloia [sic, tanlinellu]. Morris Llewelyn a Dyn arall ym [sic] yn hel Arian at ddanfon Cenhadon Wesleaidd i Wledydd Tramor


Geiriau Allweddol:
Cyfrannwr: Brenda Jones
Cyf. Gwynt: 0
Nerth.Gwynt : 0
Glawiad : -999
Is Tym : -999
Uch Tym: -99
Safle grid:
5/5/1826
Fron Olau, Penmorfa
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon)

Gwener Diwrnod sych lled oer. Yn plannu Cloron yn Caelleppa isa ac yn dechreu yn Cae’r Hendra. Fi wedi bod yn Tremadoc yn y Farchnad


Geiriau Allweddol:
Cyfrannwr: Brenda Jones
Cyf. Gwynt: 0
Nerth.Gwynt : 0
Glawiad : -999
Is Tym : -999
Uch Tym: -99
Safle grid:
6/5/1826
Fron Olau, Penmorfa
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon)

Sadwrn Diwrnod sych dwl oer. Yn Plannu Cloron yn Cae’r Hendra


Geiriau Allweddol:
Cyfrannwr: Brenda Jones
Cyf. Gwynt: 0
Nerth.Gwynt : 0
Glawiad : -999
Is Tym : -999
Uch Tym: -99
Safle grid:
7/5/1826
Fron Olau, Penmorfa
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon)

SUL Diwrnod sych oer


Geiriau Allweddol:
Cyfrannwr: Brenda Jones
Cyf. Gwynt: 0
Nerth.Gwynt : 0
Glawiad : -999
Is Tym : -999
Uch Tym: -99
Safle grid:
8/5/1826
Fron Olau, Penmorfa
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon)

llun Diwrnod dwl tyner, Yn darfod plannu Cloron yn Cae’r hendra


Geiriau Allweddol:
Cyfrannwr: Brenda Jones
Cyf. Gwynt: 0
Nerth.Gwynt : 0
Glawiad : -999
Is Tym : -999
Uch Tym: -99
Safle grid:
9/5/1826
Fron Olau, Penmorfa
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon)

Mawrth Diwrnod teg tyner wedi bwrw peth gwlaw neithiwr, Yn teilo i’r hên Ardd Gloron hyd hanner dydd. Yn mynd i’r Towyn i nol hanner Tunell o Glo [sic]. Dafydd yn palu yn yr Ardd. Wil Prisiart y Saer Coed yma yn rhoi heirns [sic. heyrn] yn y Rowler a’r llidiart. William Robert y Marchogwr yma efo Chaseg Morris Jones y Parcia. Wm.Jones y Fronhaulog yma yn settlio cyfri Clawddfa Llidiart yr Arian


Geiriau Allweddol:
Cyfrannwr: Brenda Jones
Cyf. Gwynt: 0
Nerth.Gwynt : 0
Glawiad : -999
Is Tym : -999
Uch Tym: -99
Safle grid:
10/5/1826
Fron Olau, Penmorfa
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon)

Mercher Diwrnod sych tyner. Yn darfod planu Cloron yn yr hen Ardd erbyn hanner Dafydd yn mynd at Sion Hugh i’r Ardd Harri a Neli yn hel Cerrig yn pen isa  [sic. y geiriau ‘Dafydd yn mynd at Sion Hugh i’r Ardd Harri a Neli yn hel Cerrig yn pen isa  ’ wedi eu croesi allan] yn mynd wedi [sic] i gladdu’r Cloron ac i lanhau o ei Cwmpas. Elin a Minau wedi bod yn Tremadoc


Geiriau Allweddol:
Cyfrannwr: Brenda Jones
Cyf. Gwynt: 0
Nerth.Gwynt : 0
Glawiad : -999
Is Tym : -999
Uch Tym: -99
Safle grid:
11/5/1826
Fron Olau, Penmorfa
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon)

Iau Diwrnod tyner ac yn bwrw Cawod drom i wlaw Taranau ganol dydd Wil yn dechreu Cau rhwng y Caea Gwair a’r caea porfa. Dafydd a Sion Hugh yn yr Ardd. Harri a Neli yn hel Cerrig yn pen isa i Gae’r hendra. Fi wedi bod yn Pwllheli yn y Correcsiwn 


Geiriau Allweddol:
Cyfrannwr: Brenda Jones
Cyf. Gwynt: 0
Nerth.Gwynt : 0
Glawiad : -999
Is Tym : -999
Uch Tym: -99
Safle grid:
12/5/1826
Fron Olau, Penmorfa
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon)

Gwener Diwrnod sych tyner. Wil Sion yn Rowlio’r Gwenith yn yr hên forfa. Dafydd a Sion Hugh yn yr Ardd. Fi heb fynd i’r Farchnad


Geiriau Allweddol:
Cyfrannwr: Brenda Jones
Cyf. Gwynt: 0
Nerth.Gwynt : 0
Glawiad : -999
Is Tym : -999
Uch Tym: -99
Safle grid:
13/5/1826
Fron Olau, Penmorfa
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon)

Sadwrn Diwrnod sych tyner. Wil Sion a Harri yn Carrio mawn o Gaegronw isa Sion Hugh a Dafydd yn yr Ardd


Geiriau Allweddol:
Cyfrannwr: Brenda Jones
Cyf. Gwynt: 0
Nerth.Gwynt : 0
Glawiad : -999
Is Tym : -999
Uch Tym: -99
Safle grid:
14/5/1826
Fron Olau, Penmorfa
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon)

SUL Diwrnod sych dwl wedi taflu dafnau o wlaw ganol dydd Y SULGWYN. Fi wedi bod yn y Llan –


Geiriau Allweddol:
Cyfrannwr: Brenda Jones
Cyf. Gwynt: 0
Nerth.Gwynt : 0
Glawiad : -999
Is Tym : -999
Uch Tym: -99
Safle grid:
15/5/1826
Fron Olau, Penmorfa
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon)

llun. Diwrnod sych gwresog. Ffair y Mhenmorfa. Elin a minau wedi bod yno. Elin yn cyflogi dwy Forwyn, minau yn Cyflogi pedwar Gwas


Geiriau Allweddol:
Cyfrannwr: Brenda Jones
Cyf. Gwynt: 0
Nerth.Gwynt : 0
Glawiad : -999
Is Tym : -999
Uch Tym: -99
Safle grid:
16/5/1826
Fron Olau, Penmorfa
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon)

Mawrth Diwrnod sych mwll. Wil Sion a Harri yn ymadael. Sion Hugh a Dafydd yn darfod planu [sic] ffa yn yr Ardd, Sion Hugh yn ymadael


Geiriau Allweddol:
Cyfrannwr: Brenda Jones
Cyf. Gwynt: 0
Nerth.Gwynt : 0
Glawiad : -999
Is Tym : -999
Uch Tym: -99
Safle grid:
17/5/1826
Fron Olau, Penmorfa
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon)

Mercher. Diwrnod sych gwresog. Dafydd yn codi Tafol yn Buarth yr hen Erw, ac yn chwynu peth yn yr Ardd. Neli yn ymadael Gutto yn dwad iw le. Siani Morwyn y plant yn dwad iw lle


Geiriau Allweddol:
Cyfrannwr: Brenda Jones
Cyf. Gwynt: 0
Nerth.Gwynt : 0
Glawiad : -999
Is Tym : -999
Uch Tym: -99
Safle grid:
18/5/1826
Fron Olau, Penmorfa
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon)

Iau Diwrnod sych gwresog, Dafydd a Gutto yn planu [sic] Cloron Cynnar yn y Morfa i’w cael at hâd y flwyddyn nesaf, ac yn dechreu palu rhwng Cloron yn yr Ardd wrth y Beudy newydd


Geiriau Allweddol:
Cyfrannwr: Brenda Jones
Cyf. Gwynt: 0
Nerth.Gwynt : 0
Glawiad : -999
Is Tym : -999
Uch Tym: -99
Safle grid:
19/5/1826
Fron Olau, Penmorfa
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon)

Gwener Diwrnod sych mwll yn y boreu yn dylu ac yn bwrw Cawod efo’r nos. Wil y Gwas mwyaf a Wil y Gwas lleiaf yn dwad i’w lle. Yn rhoi’r Das Cloron i gid [sic] i mewn. Fi wedi bod yn Trefmadog yn y Farchnad.


Geiriau Allweddol:
Cyfrannwr: Brenda Jones
Cyf. Gwynt: 0
Nerth.Gwynt : 0
Glawiad : -999
Is Tym : -999
Uch Tym: -99
Safle grid:
20/5/1826
Fron Olau, Penmorfa
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon)

Sadwrn. Diwrnod dwl mwll sych.lled wyntog. Y ddau Wil  a Dafydd yn cau rhwng y caea porfa a’r caea Gwair.ac yn dechreu hel Cerrig yn y Tymawr. Gutto wedi mynd i Ffestiniog. Bachgen Richard Thomas Penmorfa yma eisia i mi fynd yno at Glarc Mr.Williams y Stiwart Will Williams yn mynd a phwn o Haidd i Felin Tanrallt ar ol Prydnhawnbryd ac yn dwad a Slêd efo fo adref oeddwn wedi gael gan Mr.Williams y Stiwart a Heurns [sic] at Lidiart Cae’r lloia


Geiriau Allweddol:
Cyfrannwr: Brenda Jones
Cyf. Gwynt: 0
Nerth.Gwynt : 0
Glawiad : -999
Is Tym : -999
Uch Tym: -99
Safle grid:
21/5/1826
Fron Olau, Penmorfa
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon)

SUL Diwrnod sych gwresog


Geiriau Allweddol:
Cyfrannwr: Brenda Jones
Cyf. Gwynt: 0
Nerth.Gwynt : 0
Glawiad : -999
Is Tym : -999
Uch Tym: -99
Safle grid:
22/5/1826
Fron Olau, Penmorfa
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon)

llun Diwrnod sych gwresog iawn. Sion Morris efo Dafydd a Gutto yn Reiniog yn lladd mawn. Wil yn Rowlio’r [sic] yn yr hen Forfa ac yn Rowlio Haidd yn Buarth yr hen Erw. Fi wedi bod yn Tremadoc yn Settlio Cyfri Clawddfa llidiart yr Arian


Geiriau Allweddol:
Cyfrannwr: Brenda Jones
Cyf. Gwynt: 0
Nerth.Gwynt : 0
Glawiad : -999
Is Tym : -999
Uch Tym: -99
Safle grid:
23/5/1826
Fron Olau, Penmorfa
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon)

Mawrth. Diwrnod sych gwresog iawn. Dafydd a Gutto yn lladd mawn yn Caegronw ucha. Y ddau Wil yn hel Cerrig. Ffair y Nghriccieth. Fi heb fod yno


Geiriau Allweddol:
Cyfrannwr: Brenda Jones
Cyf. Gwynt: 0
Nerth.Gwynt : 0
Glawiad : -999
Is Tym : -999
Uch Tym: -99
Safle grid:
24/5/1826
Fron Olau, Penmorfa
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon)

Mercher Diwrnod sych gwresog iawn wedi taflu rhai dafnau o wlaw yn y boreu, Dafydd a Gutto yn llad mawn yn Caegronw ucha, Wil wedi bod yn cau rhwng y ddau Caegronw. Fi yn yspaddu y pedwar Dyniewad. Yn troi unarhugain o Wartheg i Gaegronw i borfa a Deg i Gaea porfa y Tymawr


Geiriau Allweddol:
Cyfrannwr: Brenda Jones
Cyf. Gwynt: 0
Nerth.Gwynt : 0
Glawiad : -999
Is Tym : -999
Uch Tym: -99
Safle grid:
25/5/1826
Fron Olau, Penmorfa
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon)

Iau Diwrnod gwyntog sychlyd. Dafydd a Harri [sic. ‘Harri ‘ wedi ei groesi allan] Gutto yn Caegronw ucha yn lladd Mawn. Yn rhoi’r Helm i mewn [sic. ‘i mewn’ wedi ei groesi allan] Geirch i mewn.ac yn mynd wedi [sic] i hel Cerrig Sion Hugh yn dwad yma i ddyrnu


Geiriau Allweddol:
Cyfrannwr: Brenda Jones
Cyf. Gwynt: 0
Nerth.Gwynt : 0
Glawiad : -999
Is Tym : -999
Uch Tym: -99
Safle grid:

CANLLAWIAU CHWILIO:

Dyma enghreifftiau o’r codau (“Bwleaidd”) i’w defnyddio wrth chwilio’r Tywyddiadur:

Y chwiliad symlaf yw gair ar ei ben ei hun (ee wennol), neu dau air wedi eu gwahanu gan A, NEU neu DIM (ee. wennol NEU gwennol)

Ond i chwilio ar draws y meysydd:

Rhowch + o flaen pob maes/elfen o’ch chwiliad a : (colon) ar ei ôl..

Dynodir dyddiadau fel diwrnod, mis, blwyddyn (dd/mm/bb)

Ee. I godi pob cofnod sy’n cynnwys Faenol ym mis Ionawr 1877:

+lle:Faenol +mm/bb:1/1877

Dyma ychydig o engreifftiau eraill:

+nodiadau:llosgfynydd +bb:1815

+ffynhonnell:Edwards +nodiadau:moch

+nodiadau:wartheg +nodiadau:ffridd

Mwy yn fan hyn:

Apache Lucene - Query Parser Syntax



Apache Lucene - Query Parser Syntax