Prif nodwedd y gronfa hon yw'r dyddiad, mis neu'r flwyddyn penodol sydd yn sail i'ch cofnod. Mae'r tywydd wrth gwrs yn rhywbeth sydd yn digwydd "rwan", pryd bynnag yw neu oedd "rwan" i'r cofnodwr gwreiddiol; y bore yma efallai, diwrnod arbennig yn eich plentyndod, neu sylw mewn dyddiadur dwy ganrif yn ôl yn sir Feirionnydd.... efallai. Neu efallai bod cysylltiad y sylw a'r tywydd yn ymddangosiadol wan iawn: tylluan wen yn hela am dri o'r gloch y prynhawn ar ddyddiad arbennig o Chwefror; clywed y gog yn canu ddiwedd mis Mawrth; teilo cae at datws ddechrau’r gwanwyn. Tywydd....? efallai! Ffenoleg...? yn bendant.
Mae'r Tywyddiadur yn rhyngweithiol - hynny yw, mi allwch rhoi gwybodaeth i fewn iddo, neu chael gwybodaeth allan. Y cam cyntaf y byddwch yn cymryd wrth fentro ar y dudalen hon felly fydd dewis pa un rydych am ei wneud.... Chwilio ynteu Mewnbynnu (blychod chwilio ar y chwith mewn glas, blychod mewnbynnu ar y dde mewn coch).
(Ewch i’r gwaelod am ganllawiau cychwynnol).
CHWILIO: Chi biau’r dewis: mis neu gyfnod arbennig efallai, blwyddyn, gair (neu ddau air), neu ddiwrnod penodol (treiwch ddyddiad eich pen-blwydd). Cewch wneud cyfuniad o rhain.
MEWNBYNNU: Trwy fewnbynnu cewch ychwanegu at y gronfa a chreu adnodd mwy cynhwysfawr fyth i ymchwilwyr fel chi. Dim ond tri amod sydd ar eich cofnod: ei fod yn cynnwys rhyw fath o ddyddiad, lleoliad (bras neu fanwl), a bod y cofnod rhywfodd yn gysylltiedig â’r amgylchedd.
26/5/1826 | |||||||||||||||||
Fron Olau, Penmorfa | |||||||||||||||||
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon) | |||||||||||||||||
Gwener Diwrnod sych dwl gwyntog wedi bwrw peth gwlaw efo’r nos neithiwr. Dafydd a Gutto yn lladd Gwair [sic. ‘Gwair’ wedi ei groesi allan] Mawn yn Caegronw. Wil cyn brecwast yn Rowlio’r Tir Cloron yn Cae’r Hendra. Y ddau Wil yn mynd wedi [sic] i Gau rhwng y Morfa Glofer a Morfa trwyn y Garreg. Fi wedi bod yn Tremadoc yn y Farchnad
|
27/5/1826 | |||||||||||||||||
Fron Olau, Penmorfa | |||||||||||||||||
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon) | |||||||||||||||||
Sadwrn. Diwrnod dwl yn Taranu peth y Prydnhawn ac yn bwrw cawod drom o wlaw hefyd yn un amser. Dafydd a Gutto yn lladd mawn yn Caegronw ucha Y ddau wil [sic] yn tynnu Cerrig at bentana adwy Cae’r lloia. Richard Jones yn galw yma efo Ystalwyn
|
28/5/1826 | |||||||||||||||||
Fron Olau, Penmorfa | |||||||||||||||||
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon) | |||||||||||||||||
SUL Diwrnod sych teg Y GASEG DENBI WEDI DWAD AC [sic. mewn priflythrennau a Bold] Ebolas bach neithiwr
|
29/5/1826 | |||||||||||||||||
Fron Olau, Penmorfa | |||||||||||||||||
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon) | |||||||||||||||||
llun Diwrnod sych gwresog. Dafydd a Gutto yn Caegronw yn lladd mawn Fi efo Wil Prisiart yn gwneud pentan Adwy Cae’r lloia
|
30/5/1826 | |||||||||||||||||
Fron Olau, Penmorfa | |||||||||||||||||
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon) | |||||||||||||||||
Mawrth. Diwrnod sych gwresog. Dafydd a Gutto yn Caegronw yn lladd mawn. Fi efo Wil Prisiart yn darfod pentanau adwy Cae’r lloia ac yn gosod y llidiart. Mr.Owen Aberglaslyn yn galw yma yn y Prydnhawn Wm.Williams y Bwlchllechog yma hefyd
|
31/5/1826 | |||||||||||||||||
Fron Olau, Penmorfa | |||||||||||||||||
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon) | |||||||||||||||||
Mercher Diwrnod sych gwresog Dafydd a Gutto yn darfod lladd Mawn yn Caegronw. Y ddau Wil yn trwsio Tomen y Beudy newydd ar Ciniaw [sic] yn mynd i Gymysgu Tomen Beudy’r Morfa a’r ddau arall yn mynd attynt [sic] ar ôl dwad i lawr.
|
1/6/1826 | |||||||||||||||||
Fron Olau, Penmorfa | |||||||||||||||||
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon) | |||||||||||||||||
Iau. Diwrnod sych gwresog. Dafydd a Gutto efo Owain Portreuddyn yn ago [sic. y geiriau ‘Dafydd a Gutto efo Owain Portreuddyn yn ago’ wedi eu croesi allan] Y Meibion yn Cymysgu Tomen Beudy’r Morfa, ac yn dechreu agor y Ffos yn congl yr hen Forfa wrth y Gottal [sic. Gwter? na... goetal]. Fi wedi bod yn Tanybwlch yn Ciniawa
|
2/6/1826 | |||||||||||||||||
Fron Olau, Penmorfa | |||||||||||||||||
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon) | |||||||||||||||||
Gwener Diwrnod sych gwresog. Dafydd a Gutto efo Owen Owens Portreuddyn yn agor y Marwddwr Terfyn y lleill yn Nithio Ceirch. Elin a minau wedi bod yn Caeddafydd y Mhriodas [sic] Gwen Williams Prichard yn cysgu [sic. y geiriau ‘Prichard yn cysgu’ wedi eu dileu]
|
3/6/1826 | |||||||||||||||||
Fron Olau, Penmorfa | |||||||||||||||||
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon) | |||||||||||||||||
Sadwrn Diwrnod dwl mwll. Y Meibion yn agor ffosydd yn y Morfa Evan James yma yma [sic] er boreu dde [sic] yn trwsio hen lestri. Yn cael dau haner BARIL [sic] o Borter oddiwrth Morris Jones Tremadoc J Prichard wedi bod yma’n cysgu neithiwr.wedi ei gael ar y Ffordd wedi meddwi
|
4/6/1826 | |||||||||||||||||
Fron Olau, Penmorfa | |||||||||||||||||
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon) | |||||||||||||||||
SUL. Diwrnod dwl mwll wedi bwrw peth gwlaw yn y boreu, gwresog iawn yn y Prydnhawn. Y GWENUN YN HEIDIO [sic] gyntaf Eleni
|
5/6/1826 | |||||||||||||||||
Fron Olau, Penmorfa | |||||||||||||||||
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon) | |||||||||||||||||
llun. Diwrnod gwresog. Dafydd, Gutto, Wil Lloyd a Neli, yn codi mawn Reiniog ac yn dechreu yn Caegronw. Wil Prisiart wedi bod a’r tri cheffyl Gweithio yn Efail Sion Evan yn gosod eu Pedolau. Fi efo fo wedi [sic] yn Bocs i’r Colomenod fo yn mynd wedi [sic] i settio’r Clawddia. [sic. colddiau]. Fi yn dwad a dwsin o Sîls Brithylliad i Gwttar Hendratyfi o Ffôs y Morfa –
|
6/6/1826 | |||||||||||||||||
Fron Olau, Penmorfa | |||||||||||||||||
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon) | |||||||||||||||||
Mawrth. Diwrnod gwresog. Yn cneifio torra ac yn nodi wyth deg o Wyn. Evan James yma’n trwsio hen lestri. Wm.Williams y Bwlchllechog ac Edward Edward y Cloddiwr yma eisia cael mynd i godi Maen Grisial
|
7/6/1826 | |||||||||||||||||
Fron Olau, Penmorfa | |||||||||||||||||
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon) | |||||||||||||||||
Mercher Diwrnod gwresog iawn. Wil, Sion Hugh a Dafydd yn rhoi’r Helm Ha [sic. Haidd ?] diwaethaf i mewn. Wil yn mynd wedi [sic] a Cheirch i’r Odyn, Dafydd yn agor ffos yn y Morfa. Y lleill yn Caegronw yn Codi Mawn Evan James yn darfod
|
8/6/1826 | |||||||||||||||||
Fron Olau, Penmorfa | |||||||||||||||||
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon) | |||||||||||||||||
Iau Diwrnod gwresog iawn. Wil a Gutto yn agor ffôs yn y Morfa Dafydd a Wil Lloyd yn Carrio Mawn o Gaegronwisa. Y GWENUN [sic] yn Heidio
|
9/6/1826 | |||||||||||||||||
Fron Olau, Penmorfa | |||||||||||||||||
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon) | |||||||||||||||||
Gwener Diwrnod gwresog iawn, Wil a Dafydd wedi bod yn y Felin isa’n Silio. Gutto a Wil Lloyd yn agor Ffôs yn y Morfa. Elizabeth Griffith Llangybi wedi bod yma. Fi wedi bod yn Tremadoc yn y Farchnad
|
10/6/1826 | |||||||||||||||||
Fron Olau, Penmorfa | |||||||||||||||||
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon) | |||||||||||||||||
Sadwrn Diwrnod gwresog. Y Meibion yn darfod agor ffosydd yn y Morfa. Fi yn mynd efo hwy i’r Mynudd [sic] i chwilio am Wyn dinod, yn cael saith, yn tynu [sic. tynnu] Cloron gyntaf eleni
|
11/6/1826 | |||||||||||||||||
Fron Olau, Penmorfa | |||||||||||||||||
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon) | |||||||||||||||||
11 SUL. Diwrnod gwresog iawn, Yn Gollwng yr hanner Baril o’r [sic ‘B’ wedi ei dileu] Arweddlyn Brownstowt [y gair Brownstowt wedi ei groesi allan] Cadarn Gwineu
|
12/6/1826 | |||||||||||||||||
Fron Olau, Penmorfa | |||||||||||||||||
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon) | |||||||||||||||||
llun. Diwrnod gwresog. Y gwres fesurydd cyn uched a 71 [21.7C] mewn cysgod Yn hel y Defaid ac yn eu golchi. Gutto yn eu cadw yn y Garn. W.Lloyd wedi bod yn y Dref yn ymofyn pethau at Gneifio y ddau arall yn dechreu palu rhwng Cloron yn yr hen Ardd isaf. Owen William Ismael yma efo Grut [sic] Fi yn prynu 26lbs ganddo, Y Gwenun [sic] yn codi, ac yn ^mynd yn ei hola i’r Cwch
|
13/6/1826 | |||||||||||||||||
Fron Olau, Penmorfa | |||||||||||||||||
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon) | |||||||||||||||||
Mawrth. Diwrnod dwl mwll. Yn Cneifio.triugainarddeg o Ddefaid a Myllt ac yn nodi pymtheg o Wyn at a Nodais o’r blaen hynnu [sic] yn eu gwneud.Pedwar Ugain a phymtheg. Fy Modryb TyddynyGwynt yma
|
14/6/1826 | |||||||||||||||||
Fron Olau, Penmorfa | |||||||||||||||||
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon) | |||||||||||||||||
Mercher. Diwrnod dwl yn y boreu wedi bwrw peth gwlaw, gwres at y Prydnhawn, Y Meibion yn palu rhwng Cloron. Dafydd a Wil Lloyd wedi bod yn y Mynudd [sic] yn chwilio am Oen wrth glawdd y Reiniog Y GWENUN [sic] yn Heidio William Williams y Bwlchllechog ag Edward Edward Cloddiwr yn gweithio yn y Twll Grisial, wedi dechreu ddoe
|
15/6/1826 | |||||||||||||||||
Fron Olau, Penmorfa | |||||||||||||||||
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon) | |||||||||||||||||
Iau. Diwrnod dwl mwll iawn. Yn gwneud Mawn y Reiniog Yn bwrw peth gwlaw ganol dydd, yn oeri ac yn codi’n Wynt at yr hwyr. Sion Glangors yn dwad a naw o Frithylliad [sic] llyn Cwmystrallyn yma
|
16/6/1826 | |||||||||||||||||
Fron Olau, Penmorfa | |||||||||||||||||
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon) | |||||||||||||||||
Gwener. Diwrnod dwl mwll, Yn gwneud Mawn yn Caegronw ucha Fi wedi bod yn Tremadoc yn y Farchnad – Ann Williams Caeddafydd yma
|
17/6/1826 | |||||||||||||||||
Fron Olau, Penmorfa | |||||||||||||||||
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon) | |||||||||||||||||
sadwrn Diwrnod dwl mwll iawn. Y Meibion yn codi at Gloron Dafydd y Mhriodas [sic].Ned y Gorllwyn, Gutto wedi bod yn Melin Tanrallt yn danfon pwnn [sic] o Haidd ac yn nol blawd Telaid o Wenith
|
18/6/1826 | |||||||||||||||||
Fron Olau, Penmorfa | |||||||||||||||||
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon) | |||||||||||||||||
SUL Diwrnod cymylog mwll iawn Y GWENUN [sic] yn HEIDIO
|
19/6/1826 | |||||||||||||||||
Fron Olau, Penmorfa | |||||||||||||||||
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon) | |||||||||||||||||
LLUN Diwrnod gwresog iawn. Yn lladd Gwair GLOFER yn Morfa’r Goedan Fi ar fedr mynd i Bwllheli i fynd i’r Lecsiwn.
|
CANLLAWIAU CHWILIO:
Dyma enghreifftiau o’r codau (“Bwleaidd”) i’w defnyddio wrth chwilio’r Tywyddiadur:
Y chwiliad symlaf yw gair ar ei ben ei hun (ee wennol), neu dau air wedi eu gwahanu gan A, NEU neu DIM (ee. wennol NEU gwennol)
Ond i chwilio ar draws y meysydd:
Rhowch + o flaen pob maes/elfen o’ch chwiliad a : (colon) ar ei ôl..
Dynodir dyddiadau fel diwrnod, mis, blwyddyn (dd/mm/bb)
Ee. I godi pob cofnod sy’n cynnwys Faenol ym mis Ionawr 1877:
+lle:Faenol +mm/bb:1/1877
Dyma ychydig o engreifftiau eraill:
+nodiadau:llosgfynydd +bb:1815
+ffynhonnell:Edwards +nodiadau:moch
+nodiadau:wartheg +nodiadau:ffridd
Mwy yn fan hyn:
Apache Lucene - Query Parser Syntax
|