Llên Natur
Llên Natur

Y Tywyddiadur

Prif nodwedd y gronfa hon yw'r dyddiad, mis neu'r flwyddyn penodol sydd yn sail i'ch cofnod. Mae'r tywydd wrth gwrs yn rhywbeth sydd yn digwydd "rwan", pryd bynnag yw neu oedd "rwan" i'r cofnodwr gwreiddiol; y bore yma efallai, diwrnod arbennig yn eich plentyndod, neu sylw mewn dyddiadur dwy ganrif yn ôl yn sir Feirionnydd.... efallai. Neu efallai bod cysylltiad y sylw a'r tywydd yn ymddangosiadol wan iawn: tylluan wen yn hela am dri o'r gloch y prynhawn ar ddyddiad arbennig o Chwefror; clywed y gog yn canu ddiwedd mis Mawrth; teilo cae at datws ddechrau’r gwanwyn. Tywydd....? efallai! Ffenoleg...? yn bendant.

Mae'r Tywyddiadur yn rhyngweithiol - hynny yw, mi allwch rhoi gwybodaeth i fewn iddo, neu chael gwybodaeth allan. Y cam cyntaf y byddwch yn cymryd wrth fentro ar y dudalen hon felly fydd dewis pa un rydych am ei wneud.... Chwilio ynteu Mewnbynnu (blychod chwilio ar y chwith mewn glas, blychod mewnbynnu ar y dde mewn coch).

(Ewch i’r gwaelod am ganllawiau cychwynnol).

CHWILIO: Chi biau’r dewis: mis neu gyfnod arbennig efallai, blwyddyn, gair (neu ddau air), neu ddiwrnod penodol (treiwch ddyddiad eich pen-blwydd). Cewch wneud cyfuniad o rhain.

MEWNBYNNU: Trwy fewnbynnu cewch ychwanegu at y gronfa a chreu adnodd mwy cynhwysfawr fyth i ymchwilwyr fel chi. Dim ond tri amod sydd ar eich cofnod: ei fod yn cynnwys rhyw fath o ddyddiad, lleoliad (bras neu fanwl), a bod y cofnod rhywfodd yn gysylltiedig â’r amgylchedd.




Oriel

Tywyddiadur

owen-edwards

2,631 cofnodion a ganfuwyd.
20/6/1826
Fron Olau, Penmorfa
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon)

Mawrth Diwrnod gwresog iawn. Yn lladd gwair Glofer Morfa’r Garreg, yn mynd wedi [sic] i dynu [sic. tynnu] Cerrig at wneud Cwttar i ddwad o’r Morfa’r Garreg at Feudy’r Morfa. Y GWENUN [sic] yn heidio


Geiriau Allweddol:
Cyfrannwr: Brenda Jones
Cyf. Gwynt: 0
Nerth.Gwynt : 0
Glawiad : -999
Is Tym : -999
Uch Tym: -99
Safle grid:
21/6/1826
Fron Olau, Penmorfa
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon)

Mercher Diwrnod gwresog iawn. Fi efo Wil Prisiart a Gutto yn gwneud y Gwttar i ddwad o Forfa’r Garreg a Morfa’r Goedan at Feudy’r Morfa hyd amser ciniaw. Wil, Gutto, Sion Hugh a Neli yn mynd i droi’r gwair glofer i Forfa’r Goedan. Dafydd a Wil Lloyd yn carrio Mawn o Gaegronw isa


Geiriau Allweddol:
Cyfrannwr: Brenda Jones
Cyf. Gwynt: 0
Nerth.Gwynt : 0
Glawiad : -999
Is Tym : -999
Uch Tym: -99
Safle grid:
22/6/1826
Fron Olau, Penmorfa
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon)

Iau. Diwrnod gwresog iawn. Y Meibion yn rhengcio [sic. rhencio] y gwair Glofer yn y Morfa’r Goedan a’r Morfa’r Garreg. Dafydd a Wil lloyd yn mynd attynt [sic. atynt] wedi bod yn carrio Mawn hyd amser Ciniaw,


Geiriau Allweddol:
Cyfrannwr: Brenda Jones
Cyf. Gwynt: 0
Nerth.Gwynt : 0
Glawiad : -999
Is Tym : -999
Uch Tym: -99
Safle grid:
23/6/1826
Fron Olau, Penmorfa
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon)

Gwener Diwrnod gwresog iawn. Y GWENUN [sic] yn Heidio. Y Meibion yn Modylu’r [sic. mydylu] Gwair Glofer Morfa’r Goedan a Morfa’r Garreg.yn mynd wedi [sic] i dorri peth tan y Dâs ac i wasdadhau o gwmpas y Gwttar wrth Feudy’r Morfa. Fi wedi bod yn Tremadoc yn y Farchnad


Geiriau Allweddol:
Cyfrannwr: Brenda Jones
Cyf. Gwynt: 0
Nerth.Gwynt : 0
Glawiad : -999
Is Tym : -999
Uch Tym: -99
Safle grid:
24/6/1826
Fron Olau, Penmorfa
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon)

Sadwrn. Diwrnod gwresog iawn. Y Gwresfesurydd cyn uched a 76 o raddau Yn carrio Y Gwair Glofer Morfa’r Goedan a pheth o Forfa’r Garreg


Geiriau Allweddol:
Cyfrannwr: Brenda Jones
Cyf. Gwynt: 0
Nerth.Gwynt : 0
Glawiad : -999
Is Tym : -999
Uch Tym: -99
Safle grid:
25/6/1826
Fron Olau, Penmorfa
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon)

SUL Diwrnod gwresog iawn. Y Gwres Fesurydd cyn uched a 78 o raddau [sic] 


Geiriau Allweddol:
Cyfrannwr: Brenda Jones
Cyf. Gwynt: 0
Nerth.Gwynt : 0
Glawiad : -999
Is Tym : -999
Uch Tym: -99
Safle grid:
26/6/1826
Fron Olau, Penmorfa
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon)

llun. Diwrnod gwresog iawn. Yn darfod carrio gwair glofer Morfa’r Garreg ac yn dechreu lladd gwair yn y Morfa bach Y Gwres Fesurydd cyn uched a 78 o raddau Robt.Morris.Dyn sydd yn gweithio Clawdd yn Llwytmor i Mr.Gore yma’n nol Arian Yn bwrw cafod [sic. cawod] fechan o wlaw efo’r nos


Geiriau Allweddol:
Cyfrannwr: Brenda Jones
Cyf. Gwynt: 0
Nerth.Gwynt : 0
Glawiad : -999
Is Tym : -999
Uch Tym: -99
Safle grid:
27/6/1826
Fron Olau, Penmorfa
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon)

Mawrth Diwrnod cymylog gwresog mwll iawn, ac yn Taranu mewn mewn [sic] mannau, wedi bwrw ‘sgrip o gawod o wlaw o gwmpas unarddeg o’r gloch Y Meibion wedi y boreu yn hel y Defaid, yn gyru dau ar hugain o Wyn i Gaegronw yn mynd wedi [sic] i’r Morfa bach i ladd gwair, Mari Thomas Cwmystrallyn yma, Y Buwchod [sic. buchod] yn mynd o flaen y Coed i Gae’r Hafotty Mab Mr Lloyd y Wern yma’n danfon llythur [sic] eisiau i mi ddwad iw gyfarfod y foru [sic] i fynd i Lwytmor i osod clawdd terfyn rhwng Mr.Gore a Sir Joseph Huddart


Geiriau Allweddol:
Cyfrannwr: Brenda Jones
Cyf. Gwynt: 0
Nerth.Gwynt : 0
Glawiad : -999
Is Tym : -999
Uch Tym: -99
Safle grid:
28/6/1826
Penmorfa, Gwynedd
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon.)

Mercher. Diwrnod gwresog. Yn darfod lladd gwair y Morfa bach ac yn dechreu yn y Morfa Glofer. Fi wedi bod yn llwytmor yn ceisio gosod clawdd terfyn rhwng Mr. Gore a Sir Joseph


Geiriau Allweddol:
Cyfrannwr: Rwth T.
Cyf. Gwynt: 0
Nerth.Gwynt : 0
Glawiad : -999
Is Tym : -999
Uch Tym: -99
Safle grid:
29/6/1826
Penmorfa, Gwynedd
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon.)

Iau Diwrnod cymylog mwll sych. Y Meibion yn darfod lladd gwair y Morfa Glofer yn wedi rhai i roi'r Mwdwl y mhen y Das ac i garrio gwair y Morfa bach  Ffair y Nghricieth [sic] Fi wedi bod yno


Geiriau Allweddol:
Cyfrannwr: Rwth T.
Cyf. Gwynt: 0
Nerth.Gwynt : 0
Glawiad : -999
Is Tym : -999
Uch Tym: -99
Safle grid:
30/6/1826
Penmorfa, Gwynedd
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon.)

Gwener Diwrnod dwl mwll wedi bwrw peth gwlaw ganol dydd, yn hel ac yn carrio gwair y Morfa Glofer ond ychydig oedd yn y pant wrth glawdd y Traeth erbyn Prydnhawnbryd. Sion Morris a Dafydd yn mynd i'r Mynudd i chwilio a oedd wyn yn pryfedi. Wil a Gutto yn mynd i'r Morfa i balu rhwng Cloron. Sion Hugh yn mynd efo'r Merched i buro pwnn [sic]  o Haidd


Geiriau Allweddol:
Cyfrannwr: Rwth T.
Cyf. Gwynt: 0
Nerth.Gwynt : 0
Glawiad : -999
Is Tym : -999
Uch Tym: -99
Safle grid:
1/7/1826
Penmorfa, Gwynedd
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon.)

Sadwrn Diwrnod sych gwresog. Y Meibion y boreu yn codi at Gloron yn mynd ar ol boreufwyd i Gaegronw ucha i ddechreu lladd gwair. Fi wedi bod y Mhenmorfa mewn Festri.


Geiriau Allweddol:
Cyfrannwr: Rwth T.
Cyf. Gwynt: 0
Nerth.Gwynt : 0
Glawiad : -999
Is Tym : -999
Uch Tym: -99
Safle grid:
2/7/1826
Penmorfa, Gwynedd
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon.)

Sul. Diwrnod sych gwresog wedi bwrw Cawod drom o wlaw yn y boreu  Elin, Finau y Plant, a'r Merched wedi bod yn y Traeth yn cerdded ar ol Ciniaw


Geiriau Allweddol:
Cyfrannwr: Rwth T.
Cyf. Gwynt: 0
Nerth.Gwynt : 0
Glawiad : -999
Is Tym : -999
Uch Tym: -99
Safle grid:
3/7/1826
Penmorfa, Gwynedd
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon.)

llun. Diwrnod sych gwresog. Yn darfod lladd Gwair Caegronw ucha erbyn Prydnhawnbryd, yn mynd wedi i orphen carrio hynnu o wair oedd yn y Morfa Glofer. Y Gaseg Fflower Wedi Dwad Ag Ebol Bach neithiwr yn Hafod y Budredd


Geiriau Allweddol:
Cyfrannwr: Rwth T.
Cyf. Gwynt: 0
Nerth.Gwynt : 0
Glawiad : -999
Is Tym : -999
Uch Tym: -99
Safle grid:
4/7/1826
Penmorfa, Gwynedd
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon.)

Mawrth Diwrnod gwresog mwll ac yn Taranu yn y Deau Ddwyrain. Yn darfod carrio Gwair Caegronw ucha erbyn Prydnhawnbryd. yn mynd wedi i godi at Gloron i Gae'r Hendra. Dwy Ddynes o Lawr y wlad yma'n prynu peth gwlan


Geiriau Allweddol:
Cyfrannwr: Rwth T.
Cyf. Gwynt: 0
Nerth.Gwynt : 0
Glawiad : -999
Is Tym : -999
Uch Tym: -99
Safle grid:
5/7/1826
Penmorfa, Gwynedd
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon.)

Mercher Diwrnod dwl ac yn bwrw gwlaw o saith o'r gloch y boreu hyd hanner dydd. Yn lladd gwair yn y Tymawr hyd amser Ciniaw, yn mynd wedi i wneud mawn i Gaegronw ucha. Evan James yma'n trwsio Cribinia


Geiriau Allweddol:
Cyfrannwr: Rwth T.
Cyf. Gwynt: 0
Nerth.Gwynt : 0
Glawiad : -999
Is Tym : -999
Uch Tym: -99
Safle grid:
6/7/1826
Penmorfa, Gwynedd
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon.)

Iau Diwrnod dwl claiar wedi bwrw peth gwlaw y boreu, Y Meibion cyn Boreufwyd yn tori rhedyn yn yr Hen Erw, yn mynd wedi i hel y Defaid ac yn gyru unarhugain i Gaegronw, ar ol Ciniaw yn mynd i Gaegronw ucha i wneud mawn


Geiriau Allweddol:
Cyfrannwr: Rwth T.
Cyf. Gwynt: 0
Nerth.Gwynt : 0
Glawiad : -999
Is Tym : -999
Uch Tym: -99
Safle grid:
7/7/1826
Penmorfa, Gwynedd
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon.)

Gwener Diwrnod sych cymylog mwll. Y Meibion yn gwneud pen Dâs Gwair y Morfa ac yn carrio To atto. Wm. Williams y Bwlchllechog yma


Geiriau Allweddol:
Cyfrannwr: Rwth T.
Cyf. Gwynt: 0
Nerth.Gwynt : 0
Glawiad : -999
Is Tym : -999
Uch Tym: -99
Safle grid:
8/7/1826
Penmorfa, Gwynedd
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon.)

Sadwrn Diwrnod sych gwresog. Y Meibion cyn boreufwyd yn codi at y Cloron, yn mynd wedi i Gaegronw i wneud mawn. Fi wedi bod yn Tremadoc yn prynu Pladur newydd. Sion Hugh yn darfod dyrnu'r Haidd


Geiriau Allweddol:
Cyfrannwr: Rwth T.
Cyf. Gwynt: 0
Nerth.Gwynt : 0
Glawiad : -999
Is Tym : -999
Uch Tym: -99
Safle grid:
9/7/1826
Penmorfa, Gwynedd
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon.)

Sul Diwrnod sych teg. Elin wedi bod yn y Dref mewn Pregeth.


Geiriau Allweddol:
Cyfrannwr: Rwth T.
Cyf. Gwynt: 0
Nerth.Gwynt : 0
Glawiad : -999
Is Tym : -999
Uch Tym: -99
Safle grid:
10/7/1826
Penmorfa, Gwynedd
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon.)

llun Diwrnod dwl sych mwll. Y Meibion yn darfod priddio, yn mynd wedi i hel Dafaid ac yn gwerthu deg ar hugain o Fyllt i Harri Owen i ffordd ddydd gwener nesaf.


Geiriau Allweddol:
Cyfrannwr: Rwth T.
Cyf. Gwynt: 0
Nerth.Gwynt : 0
Glawiad : -999
Is Tym : -999
Uch Tym: -99
Safle grid:
11/7/1826
Penmorfa, Gwynedd
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon.)

Mawrth Diwrnod sych teg. Yn lladd Gwair yn y Tymawr. Fi yn mynd at Mr. Williams y Stiward i Ddolbenmaen ac yn cysgu yno


Geiriau Allweddol:
Cyfrannwr: Rwth T.
Cyf. Gwynt: 0
Nerth.Gwynt : 0
Glawiad : -999
Is Tym : -999
Uch Tym: -99
Safle grid:
12/7/1826
Penmorfa, Gwynedd
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon.)

Mercher Diwrnod dwl wedi bwrw gwlaw'n drwm y boreu. Y Meibion yn Nithio Haidd. Fi wedi bod yn Llwytmawr efo Mr. Williams y Stiwart ac yn cysgu yn Dolbenmaen


Geiriau Allweddol:
Cyfrannwr: Rwth T.
Cyf. Gwynt: 0
Nerth.Gwynt : 0
Glawiad : -999
Is Tym : -999
Uch Tym: -99
Safle grid:
13/7/1826
Penmorfa, Gwynedd
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon.)

Iau. Diwrnod dwl wedi bwrw gwlaw'n drwm y boreu. Y Meibion yn puro Haidd a Wil a Gutto yn lladd rhedyn. Fi yn dwad adref erbyn hanner awr wedi chwech y boreu


Geiriau Allweddol:
Cyfrannwr: Rwth T.
Cyf. Gwynt: 0
Nerth.Gwynt : 0
Glawiad : -999
Is Tym : -999
Uch Tym: -99
Safle grid:
14/7/1826
Penmorfa, Gwynedd
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon.)

Gwener Diwrnod dwl ac yn bwrw peth gwlaw yn y Prydnhawn. Yn Toi Das Gwair y Morfa y lleill yn mynd a Llydnod oeddwn wedi werthu i'r Dref i'r Gyrr. Fi wedi bod yn Llwytmor ef W Lloyd yn ceisio gosod clawdd Terfyn rhwng Mr. Gore a Sir Joseph Huddard


Geiriau Allweddol:
Cyfrannwr: Rwth T.
Cyf. Gwynt: 0
Nerth.Gwynt : 0
Glawiad : -999
Is Tym : -999
Uch Tym: -99
Safle grid:

CANLLAWIAU CHWILIO:

Dyma enghreifftiau o’r codau (“Bwleaidd”) i’w defnyddio wrth chwilio’r Tywyddiadur:

Y chwiliad symlaf yw gair ar ei ben ei hun (ee wennol), neu dau air wedi eu gwahanu gan A, NEU neu DIM (ee. wennol NEU gwennol)

Ond i chwilio ar draws y meysydd:

Rhowch + o flaen pob maes/elfen o’ch chwiliad a : (colon) ar ei ôl..

Dynodir dyddiadau fel diwrnod, mis, blwyddyn (dd/mm/bb)

Ee. I godi pob cofnod sy’n cynnwys Faenol ym mis Ionawr 1877:

+lle:Faenol +mm/bb:1/1877

Dyma ychydig o engreifftiau eraill:

+nodiadau:llosgfynydd +bb:1815

+ffynhonnell:Edwards +nodiadau:moch

+nodiadau:wartheg +nodiadau:ffridd

Mwy yn fan hyn:

Apache Lucene - Query Parser Syntax



Apache Lucene - Query Parser Syntax