Llên Natur
Llên Natur

Y Tywyddiadur

Prif nodwedd y gronfa hon yw'r dyddiad, mis neu'r flwyddyn penodol sydd yn sail i'ch cofnod. Mae'r tywydd wrth gwrs yn rhywbeth sydd yn digwydd "rwan", pryd bynnag yw neu oedd "rwan" i'r cofnodwr gwreiddiol; y bore yma efallai, diwrnod arbennig yn eich plentyndod, neu sylw mewn dyddiadur dwy ganrif yn ôl yn sir Feirionnydd.... efallai. Neu efallai bod cysylltiad y sylw a'r tywydd yn ymddangosiadol wan iawn: tylluan wen yn hela am dri o'r gloch y prynhawn ar ddyddiad arbennig o Chwefror; clywed y gog yn canu ddiwedd mis Mawrth; teilo cae at datws ddechrau’r gwanwyn. Tywydd....? efallai! Ffenoleg...? yn bendant.

Mae'r Tywyddiadur yn rhyngweithiol - hynny yw, mi allwch rhoi gwybodaeth i fewn iddo, neu chael gwybodaeth allan. Y cam cyntaf y byddwch yn cymryd wrth fentro ar y dudalen hon felly fydd dewis pa un rydych am ei wneud.... Chwilio ynteu Mewnbynnu (blychod chwilio ar y chwith mewn glas, blychod mewnbynnu ar y dde mewn coch).

(Ewch i’r gwaelod am ganllawiau cychwynnol).

CHWILIO: Chi biau’r dewis: mis neu gyfnod arbennig efallai, blwyddyn, gair (neu ddau air), neu ddiwrnod penodol (treiwch ddyddiad eich pen-blwydd). Cewch wneud cyfuniad o rhain.

MEWNBYNNU: Trwy fewnbynnu cewch ychwanegu at y gronfa a chreu adnodd mwy cynhwysfawr fyth i ymchwilwyr fel chi. Dim ond tri amod sydd ar eich cofnod: ei fod yn cynnwys rhyw fath o ddyddiad, lleoliad (bras neu fanwl), a bod y cofnod rhywfodd yn gysylltiedig â’r amgylchedd.




Oriel

Tywyddiadur

owen-edwards

2,631 cofnodion a ganfuwyd.
15/7/1826
Penmorfa, Gwynedd
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon.)

Sadwrn. Diwrnod dwl heb sychu llawer Dydd Gwyl St. Swithin Yn danfon To at ddâs Gwair Caegronw, yn torri rhedyn, ac yn rhaffa ar Ddâs Gwair y Morfa y boreu. Yn mynd wedi i droi ac i danu mwdyla i'r Tymawr, Yn carrio Gwair y Weirglawdd isa i gid ac yn Mwdylu gwair y Weirglawdd ucha


Geiriau Allweddol:
Cyfrannwr: Rwth T.
Cyf. Gwynt: 0
Nerth.Gwynt : 0
Glawiad : -999
Is Tym : -999
Uch Tym: -99
Safle grid:
16/7/1826
Penmorfa, Gwynedd
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon.)

Sul Diwrnod sych teg wedi bwrw gwlaw'n drwm yn y boreu


Geiriau Allweddol:
Cyfrannwr: Rwth T.
Cyf. Gwynt: 0
Nerth.Gwynt : 0
Glawiad : -999
Is Tym : -999
Uch Tym: -99
Safle grid:
17/7/1826
Penmorfa, Gwynedd
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon.)

llun Diwrnod sych teg. Yn lladd gwair Hendratyfi  Dafydd wedi bod a'r ddau Geffyl gweithio yn Efail Sion Evan, Fi wedi bod yn y Drefmadoc


Geiriau Allweddol:
Cyfrannwr: Rwth T.
Cyf. Gwynt: 0
Nerth.Gwynt : 0
Glawiad : -999
Is Tym : -999
Uch Tym: -99
Safle grid:
18/7/1826
Penmorfa, Gwynedd
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon.)

Mawrth Diwrnod dwl sych. Wil Prisiart a Guto wedi bod yn Toi Das gwair Caegronw, yn mynd wedi i dorri'r rhedyn. Dafydd a Wil Lloyd yn Carrio Mawn o Gaegronw isa. Dafydd wedi bod efo'r nos yn danfon y Drol at Robt. Risiart i wneud Trwmbal newydd iddi


Geiriau Allweddol:
Cyfrannwr: Rwth T.
Cyf. Gwynt: 0
Nerth.Gwynt : 0
Glawiad : -999
Is Tym : -999
Uch Tym: -99
Safle grid:
19/7/1826
Penmorfa, Gwynedd
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon.)

Mercher. Diwrnod dwl sych. Wil Prisart a Gutto yn torri rhedyn y ddau arall yn carrio mawn o Gaegronw isa. Ellis Evan Ty'n ffridd wedi bod yma. Yn cael hanner dwsin o Galenni Hogi oddiwrth Owen William Ismael y Garn


Geiriau Allweddol:
Cyfrannwr: Rwth T.
Cyf. Gwynt: 0
Nerth.Gwynt : 0
Glawiad : -999
Is Tym : -999
Uch Tym: -99
Safle grid:
20/7/1826
Penmorfa, Gwynedd
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon.)

Iau. Diwrnod dwl ac yn bwrw gwlaw lled drwm ar hyd y dydd  Wil Prisiart a Gutto yn tori rhedyn. Y ddau arall yn darfod Carrio mawn o Gaegronw isa. Robt. Thomas y Caecoch yn dwad a dau Fochyn gadael yma


Geiriau Allweddol:
Cyfrannwr: Rwth T.
Cyf. Gwynt: 0
Nerth.Gwynt : 0
Glawiad : -999
Is Tym : -999
Uch Tym: -99
Safle grid:
21/7/1826
Penmorfa, Gwynedd
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon.)

Gwener Diwrnod teg mwll iawn yn y Prydnhawn wedi bwrw gwlaw trwm y boreu  Y Meibion hyd amser Ciniaw yn carrio graian i wasdadhau drws y Ty  yn mynd wedi i'r Caelleppa isa i dynu Ceirch o'r Gwraidd am ei fod yn rhy fyn [fyr?] i ladd nai fedi, o achos y gwres mawr a wnaeth. Fi wedi bod yn Tremadoc yn y Fachnad [sic]


Geiriau Allweddol:
Cyfrannwr: Rwth T.
Cyf. Gwynt: 0
Nerth.Gwynt : 0
Glawiad : -999
Is Tym : -999
Uch Tym: -99
Safle grid:
22/7/1826
Penmorfa, Gwynedd
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon.)

Sadwrn Diwrnog [sic]  gwesog. Yn tynu Ceirch yn y Caelleppa isa, Yn cael hanner Baril o Arweddlyn Cyffredin. 


Geiriau Allweddol:
Cyfrannwr: Rwth T.
Cyf. Gwynt: 0
Nerth.Gwynt : 0
Glawiad : -999
Is Tym : -999
Uch Tym: -99
Safle grid:
23/7/1826
Penmorfa, Gwynedd
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon.)

Sul Diwrnod gwresog. Fi wedi bod yn y llan


Geiriau Allweddol:
Cyfrannwr: Rwth T.
Cyf. Gwynt: 0
Nerth.Gwynt : 0
Glawiad : -999
Is Tym : -999
Uch Tym: -99
Safle grid:
24/7/1826
Penmorfa, Gwynedd
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon.)

llun Diwrnod gwresog. Sion Hugh a Sion Morris yn dwad yma wedi bod gartref. Yn darfod tynu Ceirch y Caelleppa isa erbyn Ciniaw, Yn mynd wedi i lifo'r Crymanau ac i ddechreu Medi'r Gwenith yn yr hen Forfa. Sion Hugh yn hau Maip yn yr Ardd. Owain ac Elizabeth Roberts Tynlon Llangybi yn dwad yma


Geiriau Allweddol:
Cyfrannwr: Rwth T.
Cyf. Gwynt: 0
Nerth.Gwynt : 0
Glawiad : -999
Is Tym : -999
Uch Tym: -99
Safle grid:
25/7/1826
Prenteg, Penmorfa
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Prenteg

25 Mawrth Diwrnod sych gwresog. Y Meibion yn Medi Gwenith yn yr hên Forfa. Owain ac Elizabeth Roberts Tynlon yn mynd adref. Sion Hugh gartref


Geiriau Allweddol:
Cyfrannwr: BJ > DB
Cyf. Gwynt: 0
Nerth.Gwynt : 0
Glawiad : -999
Is Tym : -999
Uch Tym: -99
Safle grid:
26/7/1826
Penmorfa, Gwynedd
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon.)

Mercher Diwrnod sych gwresog. Y Meibion yn medi Gwenith yn yr hen Forfa. Mr. Evans Gwerthydd Poethlyn o Gaernarvon yn galw yma. Elin Jones y Morfa bychan yn dwad a Physgodyn yma


Geiriau Allweddol:
Cyfrannwr: Rwth T.
Cyf. Gwynt: 0
Nerth.Gwynt : 0
Glawiad : -999
Is Tym : -999
Uch Tym: -99
Safle grid:
27/7/1826
Penmorfa, Gwynedd
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon.)

Iau Diwrnod sych gwresog. Yn darfod medi Gwenith yn yr hen Forfa hyd at 'chydig oedd heb addfedi [sic] yn mynd wedi i ddechreu medi Haid [sic] i fuarth yr hen Erw> Mr. Lloyd y Wern a John Pugh Tynllan yn galw yn y Prydnhawn


Geiriau Allweddol:
Cyfrannwr: Rwth T.
Cyf. Gwynt: 0
Nerth.Gwynt : 0
Glawiad : -999
Is Tym : -999
Uch Tym: -99
Safle grid:
28/7/1826
Penmorfa, Gwynedd
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon.)

Gwener. Diwrnod sych gwresog. Yn Medi Haidd yn Buarth yr hen Erw. Elizabeth Griffith Llangybi a Chatrin Tomas Bryn'r hydd yma. Hugh Griffith a Bachgen o Lerpwl yma. Fi yn mynd efo hwy i Dremadoc


Geiriau Allweddol:
Cyfrannwr: Rwth T.
Cyf. Gwynt: 0
Nerth.Gwynt : 0
Glawiad : -999
Is Tym : -999
Uch Tym: -99
Safle grid:
29/7/1826
Penmorfa, Gwynedd
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon.)

Sadwrn Diwrnod dwl sych. Yn Cynull Ceirch y Caelleppa isa erbyn Boreufwyd. Yn mynd wedi i garrio'r Gwenith o'r hen Forfa, a'r Ceirch o'r Caelleppa ias. Mr. Jones Ysgolfeister Tremadoc yn mesur rhan o'r Mynud [sic] sydd yn perthyn i'r Tymawr


Geiriau Allweddol:
Cyfrannwr: Rwth T.
Cyf. Gwynt: 0
Nerth.Gwynt : 0
Glawiad : -999
Is Tym : -999
Uch Tym: -99
Safle grid:
30/7/1826
Penmorfa, Gwynedd
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon.)

Sul Diwrnod gwresog mwll, yn dylu ac yn taflu dafnau yn y Prydnhawn


Geiriau Allweddol:
Cyfrannwr: Rwth T.
Cyf. Gwynt: 0
Nerth.Gwynt : 0
Glawiad : -999
Is Tym : -999
Uch Tym: -99
Safle grid:
31/7/1826
Penmorfa, Gwynedd
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon.)

llun. Diwrnod dwl tebig wlaw trwy'r boreu gwres yn y Prydnhawn  Y Meibion y boreu yn hel rhedyn at wneud pennau'r helmi Gwenith ac yn gwneud eu penau, ac yn dwad a phedwar pwn o frwyn at eu Toi, Gutto wedi bod yn y Reiniog yn nol Oen. Yn Cynull peth Haidd yn Buarth yr hên Erw  Yn torri Ceirch y Buarth Gwyn a pheth yn y Caebanadl. Fi wedi bod yn y dref yn edrych a oedd Robt. Prisiart wedi gwneud Trwmbal y Drol


Geiriau Allweddol:
Cyfrannwr: Rwth T.
Cyf. Gwynt: 0
Nerth.Gwynt : 0
Glawiad : -999
Is Tym : -999
Uch Tym: -99
Safle grid:
1/8/1826
Penmorfa, Gwynedd
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon.)

Mawrth Diwrnod sych gwresog yn y boreu, chwythu a dylu at y Prydnhawn, Yn lladd yd yn y Caebanadl hyd amser ciniaw yn mynd wedi i ladd Ceirch i'r hên Forfa, ac yn Fedi peth Gwenith oedd heb fynd yn aeddfed ar unwaith a'r llall


Geiriau Allweddol:
Cyfrannwr: Rwth T.
Cyf. Gwynt: 0
Nerth.Gwynt : 0
Glawiad : -999
Is Tym : -999
Uch Tym: -99
Safle grid:
2/8/1826
Penmorfa, Gwynedd
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon.)

Mercher Diwrnod mwll wedi bwrw gwlaw yn y boreu, Y Meibion y boreu yn llifo Pladuriau yn mynd wedi i wneud rhaffa, a'r lleill yn glanhau'r Gwenith oedd wedi colli wrth ei garrio, yn mynd ar ol Ciniaw i Gaegronw isa i orphen gwneud Mawn, Gutto wedi bod yn y Drefmadoc yn nol y Trwmbal newydd Fi wedi bod y Mhenmorfa yn Cyfarfod Mr. Lloyd y Wern yn ceisio gosod Clawdia Terfyn rhwng Mr. Gore a Sir Joseph Huddard yn Llwytmor


Geiriau Allweddol:
Cyfrannwr: Rwth T.
Cyf. Gwynt: 0
Nerth.Gwynt : 0
Glawiad : -999
Is Tym : -999
Uch Tym: -99
Safle grid:
3/8/1826
Penmorfa, Gwynedd
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon.)

Iau Diwrnod dwl yn y boreu gwres yn y Prydnhawn. Yn dechreu lladd Gwair yn yr hen Forfa Gwair. Fi a'r Plant yn cael Diddosbenau Gwellt


Geiriau Allweddol:
Cyfrannwr: Rwth T.
Cyf. Gwynt: 0
Nerth.Gwynt : 0
Glawiad : -999
Is Tym : -999
Uch Tym: -99
Safle grid:
4/8/1826
Penmorfa, Gwynedd
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon.)

Gwener Diwrnod mwll wedi bwrw gwlaw'n lled drwm y boreu  teg at y Prydnhawn. Sion Morris a Gutto yn cau rhwng Caegronw ucha a'r Gorllwyn ucha Sion Hugh yn chwynu ac yn hau Erfin yn yr Ardd isa. Wil Williams yn toi'r helmi Gwenith. Sion Hugh a hwytha yn mynd wedi i wneud i wneud lle i dywallt llwythi Yd at Gefn yr Ysgubor. Fi wedi bod yn y Dref yn y Farchnad. G.W. Caeddafydd yma


Geiriau Allweddol:
Cyfrannwr: Rwth T.
Cyf. Gwynt: 0
Nerth.Gwynt : 0
Glawiad : -999
Is Tym : -999
Uch Tym: -99
Safle grid:
5/8/1826
Penmorfa, Gwynedd
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon.)

Sadwrn Diwrnod sych dwl. Yn lladd Gwair Meillion yn Morfa'r Goedan ac yn chwdylu gwair yr hen Forfa. Mr. Jones Ysgol Feister Tremadoc yn galw yma efo'r hwyr efo Darlun o'r Tymawr Oddiar yr Allt.


Geiriau Allweddol:
Cyfrannwr: Rwth T.
Cyf. Gwynt: 0
Nerth.Gwynt : 0
Glawiad : -999
Is Tym : -999
Uch Tym: -99
Safle grid:
6/8/1826
Penmorfa, Gwynedd
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon.)

Sul Diwrnod dwl sych. Mr. William Jones Caemawr yn galw yma


Geiriau Allweddol:
Cyfrannwr: Rwth T.
Cyf. Gwynt: 0
Nerth.Gwynt : 0
Glawiad : -999
Is Tym : -999
Uch Tym: -99
Safle grid:
7/8/1826
Penmorfa, Gwynedd
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon.)

llun  Diwrnod gwresog. Yn gorphen lladd Meillion Morfa'r Goedan erbyn boreu fwyd. yn mynd wedi i orphen medi'r Gwenith yr hen Forfa, ac i orphen lladd y Ceirch yno, ac i orphen torri Haidd Buarth yr Hen Erw, yn mynd wedi i ddechreu lladd Ceirch y llain hir


Geiriau Allweddol:
Cyfrannwr: Rwth T.
Cyf. Gwynt: 0
Nerth.Gwynt : 0
Glawiad : -999
Is Tym : -999
Uch Tym: -99
Safle grid:
8/8/1826
Penmorfa, Gwynedd
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon.)

Mawrth. Diwrnod dwl sych mwll. Yn darfod lladd y Ceirch i gid. Yn mynd wedi i ddechreu lladd Gwair Meillion Morfa'r Garreg. Fi wedi bod y Mhenmorfa y Nghynebrwng Geneth Wm. Williams Siopwr Tremadoc. Yn cael Mecrill oddiwrth H. Evans Tynymaes


Geiriau Allweddol:
Cyfrannwr: Rwth T.
Cyf. Gwynt: 0
Nerth.Gwynt : 0
Glawiad : -999
Is Tym : -999
Uch Tym: -99
Safle grid:

CANLLAWIAU CHWILIO:

Dyma enghreifftiau o’r codau (“Bwleaidd”) i’w defnyddio wrth chwilio’r Tywyddiadur:

Y chwiliad symlaf yw gair ar ei ben ei hun (ee wennol), neu dau air wedi eu gwahanu gan A, NEU neu DIM (ee. wennol NEU gwennol)

Ond i chwilio ar draws y meysydd:

Rhowch + o flaen pob maes/elfen o’ch chwiliad a : (colon) ar ei ôl..

Dynodir dyddiadau fel diwrnod, mis, blwyddyn (dd/mm/bb)

Ee. I godi pob cofnod sy’n cynnwys Faenol ym mis Ionawr 1877:

+lle:Faenol +mm/bb:1/1877

Dyma ychydig o engreifftiau eraill:

+nodiadau:llosgfynydd +bb:1815

+ffynhonnell:Edwards +nodiadau:moch

+nodiadau:wartheg +nodiadau:ffridd

Mwy yn fan hyn:

Apache Lucene - Query Parser Syntax



Apache Lucene - Query Parser Syntax