Llên Natur
Llên Natur

Y Tywyddiadur

Prif nodwedd y gronfa hon yw'r dyddiad, mis neu'r flwyddyn penodol sydd yn sail i'ch cofnod. Mae'r tywydd wrth gwrs yn rhywbeth sydd yn digwydd "rwan", pryd bynnag yw neu oedd "rwan" i'r cofnodwr gwreiddiol; y bore yma efallai, diwrnod arbennig yn eich plentyndod, neu sylw mewn dyddiadur dwy ganrif yn ôl yn sir Feirionnydd.... efallai. Neu efallai bod cysylltiad y sylw a'r tywydd yn ymddangosiadol wan iawn: tylluan wen yn hela am dri o'r gloch y prynhawn ar ddyddiad arbennig o Chwefror; clywed y gog yn canu ddiwedd mis Mawrth; teilo cae at datws ddechrau’r gwanwyn. Tywydd....? efallai! Ffenoleg...? yn bendant.

Mae'r Tywyddiadur yn rhyngweithiol - hynny yw, mi allwch rhoi gwybodaeth i fewn iddo, neu chael gwybodaeth allan. Y cam cyntaf y byddwch yn cymryd wrth fentro ar y dudalen hon felly fydd dewis pa un rydych am ei wneud.... Chwilio ynteu Mewnbynnu (blychod chwilio ar y chwith mewn glas, blychod mewnbynnu ar y dde mewn coch).

(Ewch i’r gwaelod am ganllawiau cychwynnol).

CHWILIO: Chi biau’r dewis: mis neu gyfnod arbennig efallai, blwyddyn, gair (neu ddau air), neu ddiwrnod penodol (treiwch ddyddiad eich pen-blwydd). Cewch wneud cyfuniad o rhain.

MEWNBYNNU: Trwy fewnbynnu cewch ychwanegu at y gronfa a chreu adnodd mwy cynhwysfawr fyth i ymchwilwyr fel chi. Dim ond tri amod sydd ar eich cofnod: ei fod yn cynnwys rhyw fath o ddyddiad, lleoliad (bras neu fanwl), a bod y cofnod rhywfodd yn gysylltiedig â’r amgylchedd.




Oriel

Tywyddiadur

owen-edwards

2,631 cofnodion a ganfuwyd.
9/8/1826
Penmorfa, Gwynedd
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon.)

Mercher Diwrnod dwl sych mwll Y Meibion cyn boreufwyd yn Cynull Ceirch yn yr hên Forfa, yn darfod lladd gwair meillion morfa'r Goedan ac i gynill [sic] peth Ceirch yn yr hen Forfa


Geiriau Allweddol:
Cyfrannwr: Rwth T.
Cyf. Gwynt: 0
Nerth.Gwynt : 0
Glawiad : -999
Is Tym : -999
Uch Tym: -99
Safle grid:
10/8/1826
Penmorfa, Gwynedd
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon.)

Iau Diwrnod dwl sych ac yn dylu at y Prydnhawn, Yn lladd gwair yn Morfa'r Garreg hyd amser Ciniaw yn mynd wedi i garrio gwair meillion morfa'r Garreg hyd at 'chydig, a gwair yr hen forfa beth iw gymysgu ag ef yn carrio hyd lawer o'r nos rhag ofn gwlaw. Yr Anner wedi dwad a llo


Geiriau Allweddol:
Cyfrannwr: Rwth T.
Cyf. Gwynt: 0
Nerth.Gwynt : 0
Glawiad : -999
Is Tym : -999
Uch Tym: -99
Safle grid:
11/8/1826
Penmorfa, Gwynedd
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon.)

Gwener. Diwrnod dwl yn y boreu ar ol bwrw gwlaw neithiwr teg at y Prydnhawn  Y Meibion cyn boreufwyd, raiyn carrio Gro i'r Drws, y lleill yn cau o gwmpas Hendratyfi  Yn mynd wedi i Forfa'r Garreg i ladd Gwair hyd amser Prydnhawnbryd, y ddau Wil yn dwad a hynnu o Wenith oedd heb uddfedu [sic] a'r unwaith a'r llall i fynu. Yn mynd ar ol Prydnhawnbryd i Fuarth yr hên Erw i Gynull Haidd. Fi heb fynd i'r Farchnad!!


Geiriau Allweddol:
Cyfrannwr: Rwth T.
Cyf. Gwynt: 0
Nerth.Gwynt : 0
Glawiad : -999
Is Tym : -999
Uch Tym: -99
Safle grid:
12/8/1826
Penmorfa, Gwynedd
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon.)

Sadwrn. Diwrnod sych gwresog. Y Meibion cyn boreufwyd yn darfod lladd gwair Morfa'r Garreg.  Yn mynd wedi rhai i garrio Haidd o Fuarth yr hen Erw a'r lleill i danu Mydyla i'r Morfa'r Goedan ac i droi Gwair Meillion morfa'r Garreg. ar ol Ciniaw rhai yn mynd i orphen carrio Gwair meillion morfa'r Garreg, a gwair yr hen Forfa, ac yn mwdylu peth gwair yn morfa'r Garreg a pheth gwair Meillion yno hefyd


Geiriau Allweddol:
Cyfrannwr: Rwth T.
Cyf. Gwynt: 0
Nerth.Gwynt : 0
Glawiad : -999
Is Tym : -999
Uch Tym: -99
Safle grid:
13/8/1826
Penmorfa, Gwynedd
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon.)

Sul. Diwrnod Gwresog


Geiriau Allweddol:
Cyfrannwr: Rwth T.
Cyf. Gwynt: 0
Nerth.Gwynt : 0
Glawiad : -999
Is Tym : -999
Uch Tym: -99
Safle grid:
14/8/1826
Penmorfa, Gwynedd
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon.)

llun Diwrnod gwresog lled gwyntog yn y Prydnhawn wedi bwrw Cawodydd trymion yn y boreu. Y Meibion cyn boreufwyd yn gwneud a rhaffa. Fi yn mynd wedi efo Wil a Gutto i Gaegronw i nol tri Eidion a chwech Diniewad at ei gwerthu, ac yn gwaedi [sic] ac yn troi'r tri Eidion i Weirglawdd ucha'r Tymawr i'r Adladd, a'r chwech Dyniewad i'r Caea porfa  y lleill yn nol dau bwnn o Dô at yr helm Haidd. Ar ol Ciniaw yn dwad a dau lwyth o Geirch o'r hen Forfa ac yn Cynull peth Ceirch yno. O gwmpas tri o'r gloch y Prydnhawn y cwbl yn mynd at y Gwair i'r Morfa'r Garreg. Yn gorphen mwdylu'r Gwair meillion, ac yn mwdylu peth o'r gwair arall


Geiriau Allweddol:
Cyfrannwr: Rwth T.
Cyf. Gwynt: 0
Nerth.Gwynt : 0
Glawiad : -999
Is Tym : -999
Uch Tym: -99
Safle grid:
15/8/1826
Penmorfa, Gwynedd
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon.)

Mawrth Diwrnod dwl gwyntog ac yn bwrw cawod o wlaw o gwmpas tri o'r gloch y Prydnhawn, Yn gorphen cynull Ceirch yr hen Forfa, ac yn dechreu carrio Gwair Meillion Morfa'r Garreg rhwng pumb [sic] a chwech o'r gloch y boreu, ar ol boreufwyd yn carrio gwair arall Morfa'r Garreg ar gefnau, yn garrio agos i gid pan ein daliodd gwlaw. Ar ol Prydnhawnbryd aeth Wil Williams i Doi yr helm Haidd, a'r lleill i ddechreu lladd gwair i Fuarth tair Derwen


Geiriau Allweddol:
Cyfrannwr: Rwth T.
Cyf. Gwynt: 0
Nerth.Gwynt : 0
Glawiad : -999
Is Tym : -999
Uch Tym: -99
Safle grid:
16/8/1826
Penmorfa, Gwynedd
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon.)

Mercher. Diwrnod sych cymylog ar ol gwynt a gwlaw trwm iawn neithiwr  Twm wedi bod a Denbi yn Efaill Sion Evan. Wil yn Toi'r helm Haidd y lleill yn darfod lladd gwair Buarth tair Derwen yn mynd wedi i ddechreu lladd gwair i Gae'r hendra, ar ol Ciniaw yn mynd i orphen carrio Ceirch o'r hen Forfa ac i fwdylu hynu o wair oedd ar ol yn Morfa'r Garreg


Geiriau Allweddol:
Cyfrannwr: Rwth T.
Cyf. Gwynt: 0
Nerth.Gwynt : 0
Glawiad : -999
Is Tym : -999
Uch Tym: -99
Safle grid:
17/8/1826
Penmorfa, Gwynedd
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon.)

Iau Diwrnod dwl distaw yn y boreu, ac yn dwad i fwrw gwlaw'n drwm ac i chwythu at un o'r gloch. Yn darfod carrio gwair y Morfa i gid erbyn Ciniaw. Yn mynd wedi i wneud rhaffa ar ol Prydnhawnbryd yn mynd i Gae'r Hendra i ladd Gwair


Geiriau Allweddol:
Cyfrannwr: Rwth T.
Cyf. Gwynt: 0
Nerth.Gwynt : 0
Glawiad : -999
Is Tym : -999
Uch Tym: -99
Safle grid:
18/8/1826
Penmorfa, Gwynedd
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon.)

Gwener. Diwrnod dwl niwliog. Yn lladd gwair Cae'r Hendra a'r hen Erw Fi wedi bod yn Tremadoc yn y Farchnad


Geiriau Allweddol:
Cyfrannwr: Rwth T.
Cyf. Gwynt: 0
Nerth.Gwynt : 0
Glawiad : -999
Is Tym : -999
Uch Tym: -99
Safle grid:
19/8/1826
Penmorfa, Gwynedd
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon.)

Sadwrn. Diwrnod sych teg. Y Meibion hyd amser Ciniaw yn hel To at Ddas Gwair y Morfa.  Yn mynd wedi i rengcio gwair Pant Cae'r hendra at ei goccio, ac i dro gwair Buarth tair Derwen ac i droi Ceirch y Buarth Gwyn, Cabanadl, y Weirglawdd ucha a'r llain hir. Yn cocio gwair Cae'r hendra, yn mwdylu gwair Buarth tair Derwen a'r hen Erw


Geiriau Allweddol:
Cyfrannwr: Rwth T.
Cyf. Gwynt: 0
Nerth.Gwynt : 0
Glawiad : -999
Is Tym : -999
Uch Tym: -99
Safle grid:
20/8/1826
Penmorfa, Gwynedd
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon.)

Sul. Diwrnod dwl sych yn y boreu gwlaw at y Prydnhawn


Geiriau Allweddol:
Cyfrannwr: Rwth T.
Cyf. Gwynt: 0
Nerth.Gwynt : 0
Glawiad : -999
Is Tym : -999
Uch Tym: -99
Safle grid:
21/8/1826
Penmorfa, Gwynedd
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon.)

llun. Diwrnod sych teg. Ffair y Mhenmorfa. Elin a minau wedi bod yno. Y Meibion yn lladd gwair y Caemain, yn troi gwair pen isa i Gae'r hendra ac yn cynull Ceirch y Buarth gwyn, y Caebanadl, y Weirglawdd ucha, a'r llain hir. Sion Hugh yn mynd adref gan ddolur yn ei Lygadau [sic]


Geiriau Allweddol:
Cyfrannwr: Rwth T.
Cyf. Gwynt: 0
Nerth.Gwynt : 0
Glawiad : -999
Is Tym : -999
Uch Tym: -99
Safle grid:
22/8/1826
Penmorfa, Gwynedd
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon.)

Mawrth. Diwrnod dwl yn y boreu, yn dwad i fwrw gwlaw'n drwm at y Prydnhawn  Yn Mydylu gwair pen isa i Gae'r hendra, yn mynd wedi i wneud rhaffa. Fi wedi bod yn y Dref yn nol William Robert y Marchogwr. Dafydd yn nol yr Ebol Coch o Gaegronw, Yn darfod cario'r Ceirch i gid erbyn boreufwyd. Yn cael ar ddarn o'r Buarth gwyn, Y Caebanadl a darn o'r Weirglawdd ucha a'r llain hir, dri llwyth bychan, Y Gwres mawr yn yr hâf wedi dal ar yr Ydau a'r Gweiniau fwy nag a ddarfu, on [sic] pan mae ychydig yn Cofio, os neb.


Geiriau Allweddol:
Cyfrannwr: Rwth T.
Cyf. Gwynt: 0
Nerth.Gwynt : 0
Glawiad : -999
Is Tym : -999
Uch Tym: -99
Safle grid:
23/8/1826
Penmorfa, Gwynedd
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon.)

Mercher Diwrnod dwl ac yn bwrw Cawodydd trymion o wlaw. Wil a Dafydd yn rhaffio'r helmi  Sion Hugh a Gutto wedi bod yn Caea porfa'r Tymawr yn hel Cerrig


Geiriau Allweddol:
Cyfrannwr: Rwth T.
Cyf. Gwynt: 0
Nerth.Gwynt : 0
Glawiad : -999
Is Tym : -999
Uch Tym: -99
Safle grid:
24/8/1826
Penmorfa, Gwynedd
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon.)

Iau Diwrnod cymylog lled wyntog ac yn sychu'n dda wedi bwrw Cawod o gwmpas deg o'r gloch y boreu. Yn tanu Mwdylau a'r Coccia gwair Cae'r hendra a Buarth tair Derwen a'r hen Erw ac yn eu Carrio i gyd hyd ychydig yn yr hen Erw. Tomos Bryn'r Hydd yn dwad yma


Geiriau Allweddol:
Cyfrannwr: Rwth T.
Cyf. Gwynt: 0
Nerth.Gwynt : 0
Glawiad : -999
Is Tym : -999
Uch Tym: -99
Safle grid:
25/8/1826
Penmorfa, Gwynedd
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon.)

Gwener Diwrnod dwl mwll. Yn lladd gwair y Buarth gwyn, y Gelli wasdad ac yn dechreu lladd gwair Wernclowna. Fi heb fod yn y Farchnad


Geiriau Allweddol:
Cyfrannwr: Rwth T.
Cyf. Gwynt: 0
Nerth.Gwynt : 0
Glawiad : -999
Is Tym : -999
Uch Tym: -99
Safle grid:
26/8/1826
Penmorfa, Gwynedd
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon.)

Sadwrn Diwrnod dwl gwyntog ac yn bwrw Cawodydd o wlaw. Y Meibion cyn boreufwyd yn lladd gwair yn Wernclowna. Yn mynd wedi i drwsio'r Dâs gwair y Morfa hyd amser prydnhawnbryd yn mynd wedi i Wernclowna i lladd gwair. Thomas Jones Bryn'r Hydd yn mynd adref


Geiriau Allweddol:
Cyfrannwr: Rwth T.
Cyf. Gwynt: 0
Nerth.Gwynt : 0
Glawiad : -999
Is Tym : -999
Uch Tym: -99
Safle grid:
27/8/1826
Penmorfa, Gwynedd
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon.)

Sul Diwrnod dwl ac yn bwrw gwlaw man weithia


Geiriau Allweddol:
Cyfrannwr: Rwth T.
Cyf. Gwynt: 0
Nerth.Gwynt : 0
Glawiad : -999
Is Tym : -999
Uch Tym: -99
Safle grid:
28/8/1826
Penmorfa, Gwynedd
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon.)

Diwrnod dwl gwlawog. Wil Williams yn darfod rhaffio'r helmi ac yn rhaffio Das Gwair Caegronw. Sion Hugh a Gutto wedi yn hel Cerrig yn Caea porfa'r Tymawr y ddau arall wedi bod yn torri To yn Morfa trwyn y Garreg. Evan James yma. Fi wedi bod yn Tremadoc


Geiriau Allweddol:
Cyfrannwr: Rwth T.
Cyf. Gwynt: 0
Nerth.Gwynt : 0
Glawiad : -999
Is Tym : -999
Uch Tym: -99
Safle grid:
29/8/1826
Penmorfa, Gwynedd
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon.)

Mawrth. Diwrnod dwl ac yn bwrw gwlaw'n drwm y rhan amlaf. Y Meibion cyn boreu fwyd yn dwad a llwyth o Dô at Ddâs y Beudy newydd, yn mynd i roi Gwair y mhen Dâs y Morfa hyd amser Ciniaw, Yn gwneud rhaffa hyd amser Prydnhawnbryd, yn mynd wedi i ddechreu Codi Cerrig i wneud clawdd rhwng y Parc canol a'r Parc isa'r Tymawr


Geiriau Allweddol:
Cyfrannwr: Rwth T.
Cyf. Gwynt: 0
Nerth.Gwynt : 0
Glawiad : -999
Is Tym : -999
Uch Tym: -99
Safle grid:
30/8/1826
Penmorfa, Gwynedd
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon.)

Mercher Diwrnod dwl claiar ac yn bwrw rhai Cawodydd. Y Meibion yn Codi Cerrig yn y Tymawr, Wil yn rhaffio Das Gwair y Morfa. Fi wedi bod y Nghynebrwng Mab Sion Robert Evan y Mhenmorfa


Geiriau Allweddol:
Cyfrannwr: Rwth T.
Cyf. Gwynt: 0
Nerth.Gwynt : 0
Glawiad : -999
Is Tym : -999
Uch Tym: -99
Safle grid:
31/8/1826
Penmorfa, Gwynedd
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon.)

Iau Diwrnod dwl ac yn bwrw Cawodau. Y Meibion y boreu yn Tymawr efo'r Clawdd yn y boreu, yn mynd wedi i roi gwair y mhen Das gwair y Morfa, ar ol Prydnhawnbryd yn mynd i'r Tymawr at y Clawdd


Geiriau Allweddol:
Cyfrannwr: Rwth T.
Cyf. Gwynt: 0
Nerth.Gwynt : 0
Glawiad : -999
Is Tym : -999
Uch Tym: -99
Safle grid:
1/9/1826
Penmorfa, Gwynedd
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon.)

Gwener. Diwrnod sych gwresog yn y boreu, gwlaw o gwmpas un o'r gloch hyd y nos  Y Meibion cyn boreufwyd yn y Tymawr efo'r Clawdd, yn mynd wedi i droi gwair y Gelli wastad, y Buarth gwyn, y Cae main, y Caelleppa ucha, a pheth yn yr Hen Erw, ei drin yn dda, pan  ein daliodd y gwlaw ac yntau i gid ar led. Gutto wedi bod a Captan yn Efail Sion Evan yn ei bedoli. John Pugh Tynllan yn galw yma


Geiriau Allweddol:
Cyfrannwr: Rwth T.
Cyf. Gwynt: 0
Nerth.Gwynt : 0
Glawiad : -999
Is Tym : -999
Uch Tym: -99
Safle grid:
2/9/1826
Penmorfa, Gwynedd
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon.)

Sadwrn Diwrnod cymylog ac yn sychu'n lled dda. Yn trin gwair y Buarth gwyn, y Gelli wastad, Yn mwdylu gwair y Gelli wastad ac yn carrio y llall i gid.


Geiriau Allweddol:
Cyfrannwr: Rwth T.
Cyf. Gwynt: 0
Nerth.Gwynt : 0
Glawiad : -999
Is Tym : -999
Uch Tym: -99
Safle grid:

CANLLAWIAU CHWILIO:

Dyma enghreifftiau o’r codau (“Bwleaidd”) i’w defnyddio wrth chwilio’r Tywyddiadur:

Y chwiliad symlaf yw gair ar ei ben ei hun (ee wennol), neu dau air wedi eu gwahanu gan A, NEU neu DIM (ee. wennol NEU gwennol)

Ond i chwilio ar draws y meysydd:

Rhowch + o flaen pob maes/elfen o’ch chwiliad a : (colon) ar ei ôl..

Dynodir dyddiadau fel diwrnod, mis, blwyddyn (dd/mm/bb)

Ee. I godi pob cofnod sy’n cynnwys Faenol ym mis Ionawr 1877:

+lle:Faenol +mm/bb:1/1877

Dyma ychydig o engreifftiau eraill:

+nodiadau:llosgfynydd +bb:1815

+ffynhonnell:Edwards +nodiadau:moch

+nodiadau:wartheg +nodiadau:ffridd

Mwy yn fan hyn:

Apache Lucene - Query Parser Syntax



Apache Lucene - Query Parser Syntax